Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Dewch i archwilio tirwedd amrywiol Bannau Brycheiniog
Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL
Asset | Opening time |
---|---|
Countryside | Cefn gwlad | Dawn - Dusk |
Welcome on leads, please be aware of livestock
Free parking at NT car parks for NT members and Blue Badge holders. Main National Trust car park at Pont ar Daf, off A470: £7.50 per car, £10 per motorhome/minibus, £12 per coach. Cwm Gwdi car park (OS: SO024248): £4 per car, £8 motorhomes/minibuses. Alternatives not all National Trust
Meysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhont ar Daf a Chwm Gwdi yn arwain at lwybrau cerdded heriol. Tai bach ym Mhont ar Daf, dim tai bach yng Nghwm Gwdi.
Pathways and open space - access is by gate or stile. Mountain paths are sloped, uneven and a mixture of grass, gravelled and stone pitched surfaces, which vary in width
Mae'r prif maes parcio, Pont ar Daf, 8 milltir i'r de o Aberhonddu ar yr heol A470 rhwng Caerdydd ag Aberhonddu
Mae'r Beacons Way yn rhedeg o'r Fenni i Langadog ac yn pasio trwyddo.
Mae'r Taff Trail yn teithio ar hyd ymylon gorllewinol a dwyreiniol o Aberhonddu (12km / 8 milltir) a hefyd yn agosáu o Dalybont-ar-Wysg i'r dwyrain.
Gorsaf Merthyr Tydfil (12 milltir), Gorsaf Y Fenni (30 milltir). Cysylltiadau o'r ddau orsaf ar fws T4 a T14. Cynlluniwch eich taith:
Mae Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Llwybr 8 (Lon Las Cymru) a'r Llwybr Taf yn teithio ar hyd ymylon gorllewinol a dwyreiniol ein lleoliad o Aberhonddu ac mae hefyd yn agosáu ato o'r gogledd, o Dalybont-ar-Wysg i'r dwyrain a Chaerdydd o'r de. Mae'r Gap Road, y llwybr uchaf yng Nghymru a Lloegr, yn croesi'r lleoliad ac yn ymuno â'r llwybr yn Torpantau.
Teithiwch yn wyrdd a chynlluniwch eich taith ar y trên, bws, beic neu droed yma: Good Journey
Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL
Ydych chi’n chwilio am lefydd i fynd yng Nghymru gyda'ch ci? Yna Canol Bannau Brycheiniog yw'r lle i chi.
Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
Y copa uchaf yn ne Prydain ac un o nenlinellau mwyaf adnabyddus y DU.
Y rhaeadr uchaf yn ne Cymru, yn plymio 90tr i geunant llawn mwsogl, llysiau’r afu a chen.
Yn wersyll hyfforddiant milwrol Fictoraidd ‘slawer dydd, mae bellach yn faes parcio a man cychwyn ar gyfer rhai o lwybrau mwyaf heriol Bannau Brycheiniog.
Coetiroedd lled-hynafol wrth odre’r Bannau mewn dyffryn rhewlifol.
Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.
Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.
Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Llwybr ucheldirol cylchol heriol sy’n eich tywys i grombil y Bannau a’r golygfeydd gorau. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere, a chadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.
Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.
A traditional farmhouse with wooden floors, and a log burner on the beautiful Dinefwr Park.
Nestled on the edge of the Dinefwr Park Estate with a gorgeous garden overlooking the valley, Penparc is a fabulous base for exploring the Welsh countryside
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Mae Bannau Brycheiniog yn cynnig tirwedd ysblennydd sy'n llawn harddwch naturiol. Yn rhydd o lygredd golau a sŵn, dyma'r seibiant perffaith o anhrefn bywyd modern. P'un a ydych chi'n chwilio am deithiau cerdded heriol, mannau agored eang neu raeadrau diarffordd, mae Bannau Brycheiniog yn darparu'r gorau ohonyn nhw i gyd.
Saif Pen y Fan, y pwynt uchaf yn ne Prydain, gyda balchder rhwng Corn Du a Cribyn. O Fan y Big yn edrych tua'r gorllewin tuag at y Bannau gallwch gael y golygfeydd mwyaf trawiadol yn yr ardal gan osgoi'r torfeydd mawr.
Am daith mwy ysgafn, ewch i Gwm Tarell uchaf, sy'n rhedeg o Libanus i'r Storey Arms. Mae digon o deithiau cerdded troellog drwy goetir hynafol, lle gallwch fwynhau golygfeydd o Graig Cerrig Gleisiad, Fan Frynach a'r Bannau canolog.
Hanes trist bachgen bach 5 oed a aeth ar goll ar fynyddoedd Bannau Brycheiniog yn haf 1900. Mae’r stori drist wedi’i pasio o un genhedlaeth i’r llall a chyffwrdd calon llawer o bobl. Mae cofeb wedi’i chodi fel symbol o ddarganfod a cholled.
Mae’r llwybrau troed sy’n cris-croesi Pen y Fan, Bannau Brycheiniog yn dioddef o erydiad ac yn cael eu cynnal gan dîm o geidwaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwirfoddolwyr gan ddefnyddio technegau traddodiadol.
Mae ‘na lawer o gyfleoedd i wirfoddoli ym Mannau Brycheiniog. Gallwch gyfarch ymwelwyr ym maes parcio Pont ar Daf neu ymuno â’r Tîm Llwybrau a helpu’r ceidwaid i drwsio llwybrau troed ucheldirol.
Mae cynlluniau i adeiladu maes parcio gwell ym Mhont ar Daf, y lle mwyaf poblogaidd ar gyfer dringo Pen y Fan. Bydd lle i fwy o geir, bysus (gan gynnwys bysus mini) a beiciau, yn ogystal â thai bach a chyfleusterau newid.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.