Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech
Darganfyddwch gwm heddychlon Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech ar y llwybr anturus hwn i’r rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Coelbren, cyfeirnod grid: SN853121
Cam 1
Dechreuwch eich taith o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac ewch drwy ddwy gât, gan ddilyn y llwybr troed i lawr y llethr at gyffordd ar y gwaelod. Trowch i’r chwith a chroeswch bont bren, gan gerdded i fyny’r grisiau serth i’r llwybr ar y brig. Adeiladwyd y bont ym 1985 gan dîm o wirfoddolwyr rhyngwladol, ac ychwanegwyd y grisiau yn 2001 yn dilyn tirlithriad a ddinistriodd y llwybr gwreiddiol. Dilynwch y llwybr troed i’r rhaeadr. Rhaeadr Henrhyd yw’r uchaf yn Ne Cymru ar 90tr (27m). Cymerwch ofal oherwydd gall yr ewin o’r rhaeadr wneud y ddaear yn llithrig. Ar ôl i chi dreulio amser yn mwynhau’r rhaeadr drawiadol, aildroediwch yr un llwybr, yn ôl dros y bont i gyffordd y llwybr.
Cam 2
Ewch yn syth yn eich blaenau, gan ddilyn y llwybr troed gyda Nant Llech i’r chwith ohonoch. Mae’r coed sy’n gafael yn dynn wrth ochrau serth y dyffryn yn goed derw digoes ac ynn yn bennaf, ond fe welwch hefyd bisgwydd dail bach, gwern a llwyfenni llydanddail. Mae llawer o’r coed ynn aeddfed wedi’u heffeithio gan y clefyd coed ynn, ac mae’n bosib y gwelwn ni’r rhain yn diflannu dros amser. Dilynwch y llwybr troed ac ar ôl croesi’r llwybr pren, gallwch weld rhaeadr lai ar y chwith.
Cam 3
Dilynwch y llwybr troed tan i chi basio drwy gât sy’n nodi terfyn tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yna croeswch bont fechan a daliwch ati i ddilyn y llwybr i lawr y cwm. Ar ôl tua 15 munud, fe ddowch at safle hen dirlithriad mawr. Mae’r nodweddion hyn yn rhan o’r prosesau naturiol sydd wedi helpu i lunio tirwedd ddramatig y ceunant serth hwn.
Cam 4
Dilynwch y llwybr tan i chi gyrraedd safle’r hen felin ddŵr segur – Melin Llech (mae’r adeiladau hyn yn eiddo preifat – peidiwch â cheisio mynd i mewn). O Felin Llech, ewch yn eich blaenau heibio’r bont ar y chwith a dilynwch y trac lan rhiw am tua 75tr (23m). Ymunwch â’r llwybr troed ar y chwith a dilynwch y llwybr hwn at gât fochyn ac is-ffordd, croeswch y ffordd ac ewch i’r dde tuag at gât fochyn arall ar eich chwith.
Cam 5
Ewch drwy’r gât fochyn a dilynwch y llwybr hyd nes y gallwch weld Afon Tawe. Mae’r afon hon yn llifo’r holl ffordd i Abertawe ac i mewn i Fôr Hafren. Rydych chi nawr wedi cwblhau hanner y daith. Gallwch ddychwelyd i’r is-ffordd ar y llwybr rydych chi newydd ei ddilyn. Ar y ffordd, gallwch naill ai droi i’r chwith lan rhiw a dilyn y lonydd yn ôl i’r maes parcio neu aildroedio’r llwybr cyfan yn ôl i Raeadr Henrhyd gan ddilyn y llwybr ar lannau Nant Llech.
Man gorffen
Maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Coelbren, cyfeirnod grid: SN853121
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du
Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.
Llwybr cylchol crib bedol Bannau Brycheiniog
Llwybr ucheldirol cylchol heriol sy’n eich tywys i grombil y Bannau a’r golygfeydd gorau. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere, a chadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.
Taith Glyn Tarell Uchaf
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.
Llwybr pedol Llanwrthwl
Mwynhewch olygfeydd panoramig o ‘do Cymru’ ar lwybr pedol heriol ond gwerth chweil Llanwrthwl ym Mhowys.
Cysylltwch
Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Rhaeadrau rhyfeddol i’w gweld
Cewch eich bywiocáu gan rym natur, wrth ymweld ag un o’r rhaeadrau trawiadol yn y mannau yr ydym yn gofalu amdanyn nhw. (Saesneg yn unig)
Ymweld â Rhaeadr Henrhyd a Choedwig Graig Llech
Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)