Skip to content

Dilynwch y cod cefn gwlad

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Cerdded yn Divis a’r Mynydd Du, County Antrim | © National Trust Images/Chris Lacey

Ydych chi’n mwynhau treulio amser yn yr awyr iach yn lleoliadau arfordirol a chefn gwlad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol? Gallwch helpu i’w cadw’n ddiogel a dymunol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Gofalwch am yr arfordir a chefn gwlad

Gall problemau fel sbwriel, tanau gwyllt a gwersylla diawdurdod i gyd achosi niwed difrifol i dirluniau a bywyd gwyllt. Gyda’ch help chi, gall y problemau hyn gael eu hosgoi er mwyn diogelu’r lleoliadau hyn am genedlaethau i ddod.

Pan fyddwch yn ymweld â’r arfordir a chefn gwlad, gofynnwn i chi ddilyn y Cod Cefn Gwlad

Awgrymiadau arbennig y Cod Cefn Gwlad

  1. Gwersyllwch yn ystyrlon
    Ni chewch aros dros nos. Defnyddiwch wersyllfaoedd pwrpasol os hoffech aros dros nos.
  2. Gadewch y barbeciw gartref
    Dim tanau, os gwelwch yn dda. Mae croeso i chi gael picnic, ond peidiwch â chael barbeciw.
  3. Cadwch at y llwybr
    Diogelwch y llefydd rydych chi’n eu caru. Helpwch i atal difrod parhaus drwy gadw at y llwybrau.
  4. Peidiwch â gadael unrhyw beth ar eich ôl
    Helpwch ni i ofalu am y llefydd arbennig hyn drwy eu gadael fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi.

Parchwch bobl eraill  

  • Byddwch yn ystyrlon o’r gymuned leol a phobl eraill sy’n mwynhau ac yn gweithio yn yr awyr agored  
  • Parciwch yn ofalus gan sicrhau bod gatiau a dreifiau’n cael eu cadw’n glir  
  • Gadewch gatiau ac eiddo fel yr oedden nhw pan gyrhaeddoch chi  
  • Dilynwch lwybrau sydd wedi’u marcio ac arwyddion lleol  
  • Byddwch yn gyfeillgar, dwedwch shwmae  

Diogelwch yr amgylchedd naturiol 

  • Peidiwch â gadael dim ar eich ôl – ewch â’ch sbwriel adref gyda chi  
  • Byddwch yn ofalus gyda barbeciws a thanau – defnyddiwch nhw mewn ardaloedd pwrpasol yn unig  
  • Cadwch gŵn dan reolaeth  
  • Baw ci – yn y bag, yn y bin – mae unrhyw fin cyhoeddus yn iawn  

Mwynhewch yr awyr agored 

  • Mwynhewch eich ymweliad, gwnewch atgofion 
  • Byddwch yn barod, cadarnhewch amodau lleol a pha gyfleusterau sydd ar agor 
Gwirfoddolwr yn casglu sbwriel yn Tarn Hows, Cumbria. Y tu ôl iddo mae golygfa o’r llyn a’r gwyrddni cyfagos.
Casglu sbwriel yn Tarn Hows, Cumbria | © National Trust Images/Chris Lacey

Gwersylla diawdurdod   

Gwersylla diawdurdod yw pan mae pobl yn codi pabell neu’n parcio faniau gwersylla mewn lle sydd heb ei ddynodi (yn aml yn anghyfreithlon), ac yna’n gadael symiau sylweddol o sbwriel ar eu holau pan maen nhw’n gadael – sydd yn aml yn cynnwys pebyll, cadeiriau gwersylla, barbeciws a charthion dynol hyd yn oed. 

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol o’r fath nid yn unig yn difetha llefydd i ymwelwyr eraill, ond hefyd yn dinistrio cynefinoedd ac yn achosi niwed i fywyd gwyllt. Mae glanhau ar ôl gwersyllwyr diawdurdod hefyd yn cymryd llawer o amser ein timau o geidwaid, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu gwneud cymaint o waith cadwraeth natur hanfodol. 

Os ydych chi’n trefnu gwyliau yn y DU yr haf hwn, cynlluniwch ymlaen llaw, archebwch eich llety ymlaen llaw, a chodwch babell neu parciwch eich fan wersylla mewn safleoedd swyddogol yn unig. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael gwared ar eich holl sbwriel yn gywir, neu ewch ag ef adref gyda chi ar ddiwedd eich taith.

Barbeciw

Pam na allaf ddod â barbeciw? 

Gall cefn gwlad fod yn sych iawn yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf, sy’n creu’r amodau perffaith i danau gynnau a lledaenu. Gall y gwreichionyn lleiaf o farbeciw neu dân achosi tanau gwyllt difrifol a difetha cynefinoedd bywyd gwyllt pwysig.  

Mae tanau gwyllt hefyd yn rhoi llawer o bwysau ar y gwasanaethau brys, ac yn peryglu cymunedau lleol a bywyd gwyllt. Er bod ‘na nifer fechan o ardaloedd barbeciw pwrpasol yn rhai o’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, er enghraifft ar arwynebau concrit lle mae’r risg o dân yn isel, ni ddylai’r rhain gael eu defnyddio pan mae’r risg o dân yn sylweddol. 

Byddwch yn ystyriol o eraill; meddyliwch am fywyd gwyllt; meddyliwch am ein gwasanaethau brys; a pheidiwch â dod â barbeciws na chynnau tân ar y traeth neu yng nghefn gwlad.  

Cadwch at y llwybrau  

Mae miloedd o filltiroedd o lwybrau cerdded, beicio a marchogaeth i’w darganfod ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae rhai o’r llwybrau hyn yn rhedeg drwy gaeau o gnydau neu leoliadau sy’n amgylcheddol sensitif, felly cadwch at y llwybr bob amser i osgoi difrodi’r ardal gyfagos.  

Os ydych chi’n dilyn llwybr newydd, mae’n werth mynd â map i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y llwybr cywir, a chofiwch gadw golwg am arwyddion ac arwyddbyst lleol hefyd.

Teulu yn cerdded eu ci ar dennyn yn Ystâd High Peak ar ddiwrnod heulog. Mae’r dyffryn i’w weld y tu ôl iddyn nhw, gyda chaeau gwyrdd, coed a chopaon i’w gweld yn y pellter.
Teulu yn cerdded yn Ystâd High Peak | © National Trust Images / Trevor Ray Hart

Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi 

Yn haf 2020, casglwyd 100 bag bin mewn un penwythnos yn Dovedale yn Ardal y Peak, ac yn Formby yng Nglannau Merswy roedd bocsys oeri, cadeiriau a photeli gwydr ar wasgar ar draws y traeth.    

Yn ogystal â difetha harddwch tirweddau fel y rhain, gall sbwriel fod yn beryglus iawn i fywyd gwyllt, a all fynd yn sownd neu ei gamgymryd am fwyd. Gall hefyd weithredu fel tanwydd i danau gwyllt.  

Os ydych chi’n cael picnic neu’n cynhyrchu unrhyw sbwriel arall yn ystod eich ymweliad, byddwch yn amyneddgar nes i chi ddod o hyd i fin, neu ewch ag ef adref gyda chi.

Visitors  walk through a round structure of twigs in Walk Wood, Sheffield Park and Garden, East Sussex

Darganfyddwch gefn gwlad a choetiroedd

Dewch yn nes at natur a darganfod cannoedd o leoliadau awyr agored. Mae gennym filltiroedd o fryniau a choetiroedd i chi eu darganfod. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

A footpath alongside a wire fence through a moody landscape with hills in the distance
Erthygl
Erthygl

Hedfan dronau yn ein lleoliadau 

Mae pob math o weithgaredd awyr uwchben ein safleoedd wedi’i wahardd oni cheir caniatâd penodol, yn unol ag is-ddeddf gyfredol.

A family picks its way along an uneven rocky track through a wood in winter
Erthygl
Erthygl

Llwybrau cerdded i’r teulu 

Mwynhewch ddiwrnod allan gyda’r teulu gyda thaith gerdded yn yr awyr iach, gyda llawer o bethau diddorol i bawb o bob oedran ar hyd y daith. (Saesneg yn unig)

Two people, one in a tramper, on a gravelled path overlooking a tarn. The shores of the tarn are wooded and behind are the fells
Erthygl
Erthygl

Llwybrau hygyrch gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae rhai llwybrau hygyrch gwych yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau. (Saesneg yn unig)

Seal lying on a shingle beach with head turned to one side, with sea in background
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â’n gwarchodfeydd natur 

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu am rai o warchodfeydd natur pwysicaf y DU, ac wrth wneud hynny’n gofalu am gyfoeth ac amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion. Dysgwch fwy am y llefydd arbennig hyn a sut i ymweld â nhw. (Saesneg yn unig)

A visitor with their dog leaving the Muddy Paws café at Lyme Park, Cheshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)

A family walking alongside Lake Windermere at Fell Foot during winter, Cumbria

Cerdded 

Cynlluniwch eich taith gerdded nesaf a darganfyddwch rai o dirweddau’r wlad. Mae coetiroedd hynafol, bryniau a dyffrynnoedd, llwybrau hygyrch a thraethau euraidd yn eich disgwyl. (Saesneg yn unig)