Skip to content

Hedfan dronau yn ein lleoliadau

A footpath alongside a wire fence through a moody landscape with hills in the distance
Looking towards Mam Tor in Edale, Derbyshire | © National Trust Images/Rob Coleman

Fel tirfeddiannwr, nid yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn caniatáu defnyddio dronau heb ganiatâd oddi ar ein tir na’n heiddo.

Aelodau neu’r cyhoedd yn hedfan dronau

Nid ydym yn rhoi caniatâd i hedfan preifat oddi ar ein tir a’n heiddo am y rhesymau canlynol:

  • Mae ein haelodau a’n hymwelwyr yn gwerthfawrogi heddwch a thawelwch ein lleoedd. Gall presenoldeb dronau amharu ar fwynhad tawel ein lleoedd gan ymwelwyr eraill ac felly mae’n creu risg bosibl o niwsans cyhoeddus.

  • Mae gan lawer o’n lleoedd fywyd gwyllt neu anifeiliaid amaethyddol y gellir amharu arnynt, fel adar a gyrroedd o geirw, a allai gael eu dychryn neu ddioddef straen oherwydd presenoldeb dronau, yn arbennig ar amser magu.

  • Mae llawer o’n lleoedd yn gartrefi i’n tenantiaid neu deuluoedd hanesyddol. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi eu preifatrwydd a byddai defnyddio dronau yn amharu ar y preifatrwydd hwnnw.

  • Mae gan y rhan fwyaf o dronau gamerâu ynghlwm wrthynt a byddai eu defnyddio yn groes i reolau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am ffotograffiaeth a ffilmio masnachol.

  • Os bydd drôn yn achosi difrod neu niwed, yn aml nid oes gan beilotiaid sy’n aelodau o’r cyhoedd yr yswiriant cywir, na’r lefel o yswiriant fyddai’n angenrheidiol i roi iawn i’r rhai yr amharwyd arnynt.

  • Gall cyfyngiadau gael eu gosod am resymau diogelwch hefyd.

  • Rhaid i bob drôn, beth bynnag ei faint na’r gofynion o ran cofrestru, ddilyn Cod Dronau a Modelau o Awyrennau'r Awdurdod Hedfan Sifil Mawrth 2024. Am ragor o wybodaeth, ewch i The Drone and Model Aircraft Code | UK Civil Aviation Authority (caa.co.uk).

Hedfan gan gontractwyr

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn defnyddio dronau yn gyson ar gyfer cynnal arolygon ac archwiliadau, arolygon bywyd gwyllt er enghraifft neu archwiliadau to. Comisiynir gwaith o’r fath wrth ymateb i angen penodol ac fe’i gwneir i ni gan gontractwyr proffesiynol a ddewiswyd yn ofalus. Dan yr amgylchiadau hyn gallwn wirio gallu, cymhwyster ac ardystiadau’r contractwr, nodi’r lefel briodol o yswiriant a gosod amodau a rheolaeth briodol ar y gwaith i sicrhau diogelwch y cyhoedd, preifatrwydd preswylwyr ac osgoi amharu ar fywyd gwyllt.

Nid ydym yn ymateb i alwadau gan gontractwyr sy’n ceisio gwerthu gwasanaethau yn gysylltiedig â dronau.

Ffilmio Masnachol

Gallwn roi caniatâd ar gyfer ffilmio masnachol yn gysylltiedig â dronau mewn rhai amgylchiadau. Yn gyffredinol rhaid i’r cwmni cynhyrchu ddilyn yr un rheolau o ran gallu ac yswiriant â’r rhai sy’n ofynnol ar gyfer contractwyr. Yn ychwanegol, rhaid i’r ffilmio fod yn fasnachol ei natur a rhaid cytuno arno gyda’n Swyddfa Ffilmio a Lleoliadau. Bydd ffi lleoliad a ffi prosesu drôn yn berthnasol.

Yn y contract ni ellir defnyddio’r deunydd ond ar gyfer y prosiect a enwyd a gwaherddir defnydd pellach gan gynnwys llyfrgelloedd delweddau.

Ni fyddwn yn rhoi caniatâd i hedfan ar gyfer ffilmio amatur neu gan fyfyrwyr nac yn cymeradwyo ceisiadau gan unrhyw rai sy’n hedfan sy’n ceisio caniatâd yn gyfnewid am fynediad a defnyddio’r ffilm a gynhyrchir.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ffilmio yn ein lleoedd, ewch i’n tudalen lleoliadau ffilmio.

Two conservators rehanging the Knight with the Arms of Jean de Daillon Tapestry in the Dining Room at Montacute House after four years of conservation work, with the full tapestry visible against the wood-panelled wall

Amdanom ni

Dysgwch fwy am pwy ydyn ni, beth rydym yn ei warchod a’i hyrwyddo, a pham. (Saesneg yn unig)

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.