
Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du
Llwybr mynyddig cylchol, heriol ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog. Os yw’r tywydd yn caniatáu, cewch olygfeydd o dref Aberhonddu ac, ar ddiwrnod clir, copa Cader Idris.
Paratowch am dywydd newidiol
Mae map a chwmpawd, dillad gwrth-ddŵr, chwiban a thortsh i gyd yn hanfodol ar gyfer y llwybr hwn, gan fod y tywydd yn newidiol iawn yn y mynyddoedd hyn.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio Pont ar Daf, cyfeirnod grid: SN988199.
Cam 1
Dilynwch y llwybr troed ar ochr ddeheuol y maes parcio, ewch drwy’r gât mochyn a chroeswch y bont bren dros yr afon. O’r fan yma, dilynwch y llwybr i fyny’r rhiw tuag at Fwlch Duwynt.

Cam 2
Ar ôl i chi gyrraedd Bwlch Duwynt, dilynwch y llwybr troed (sy’n pwyntio’n fras i gyfeiriad 11 o’r gloch) sy’n arwain ar draws llethr deheuol Corn Du. Cyn pen dim, fe gyrhaeddwch y cyfrwy rhwng Corn Du a Phen y Fan. O’r fan yma, mae golygfeydd trawiadol i’r de, drwy Gwm Neuadd i’r argaeau uwchben Merthyr Tudful. Dilynwch y llwybr i gopa mynydd uchaf de Prydain – Pen y Fan – ar 2,906 troedfedd (886m).

Cam 3
Ar ôl i chi orffen edmygu’r olygfa, aildroediwch y llwybr yn ôl i’r cyfrwy rhwng Pen y Fan a Chorn Du, ac ewch i’r dde, gan ddringo’r llwybr meini i gopa Corn Du. Mae’r llwybr i’r chwith ohonoch yn mynd yn ôl i Fwlch Duwynt ac i’r maes parcio. Ar ôl i chi gyrraedd copa Corn Du, dilynwch y llwybr i’r dde, gan ddilyn y grib.
Cam 4
Gadewch Gorn Du o’r pen gogleddol a dringwch i lawr y darn serth i gyrraedd y llwybr meini islaw, sy’n arwain at yr obelisg. Aildroediwch y llwybr yn ôl o’r obelisg, lle mae’r llwybr yn rhannu. Dilynwch y llwybr caniataol i lawr tua’r nant, Blaen Taf Fawr. Ar ôl croesi’r nant, ewch i fyny’r rhiw, gan ddilyn y llwybr i’r gât ar y Gyrn.
Cam 5
Daliwch i ddilyn y llwybr ac ewch i lawr tua’r Storey Arms. Dilynwch y llwybr tarmac o flaen Canolfan Addysg y Storey Arms at gât mochyn, sy’n mynd â chi at drac sy’n arwain yn ôl i’r maes parcio.

Man gorffen
Maes parcio Pont ar Daf, cyfeirnod grid: SN988199
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn
Taith Glyn Tarell Uchaf
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.

Llwybr cylchol crib bedol Bannau Brycheiniog
Llwybr ucheldirol cylchol heriol sy’n eich tywys i grombil y Bannau a’r golygfeydd gorau. Mwynhewch olygfeydd godidog tua Phen y Fan ac i Gwm Sere, a chadwch olwg am garnedd gladdu o’r Oes Efydd a thystiolaeth o feysydd tanio milwrol.

Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech
Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.

Llwybr pedol Llanwrthwl
Mwynhewch olygfeydd panoramig o ‘do Cymru’ ar lwybr pedol heriol ond gwerth chweil Llanwrthwl ym Mhowys.
Cysylltwch
Pont ar Daf car park (access to Pen y Fan), Near Storey Arms, Libanus, Powys, LD3 8NL
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Crwydro Pen y Fan a Chorn Du
Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.

Mynyddoedd yng Nghymru
Darganfyddwch gopaon trawiadol Cymru, o heriau Tryfan yng ngogledd Eryri i fynyddoedd eiconig Pen y Fan a Phen-y-fâl yn ne Cymru.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)