
Llwybr pedol Llanwrthwl
Mae’r llwybr hwn yn dechrau a gorffen ym mhentref tawel Llanwrthwl ac yn cynnig golygfeydd panoramig ar draws ucheldiroedd Brycheiniog a Maesyfed, gan gynnwys ‘to Cymru’, Mynyddoedd Cambria.
Gorgors a gweundir agored
Mae’r llwybr hwn ond yn addas i gerddwyr bryniau profiadol gan nad oes llawer o lwybrau clir. Argymhellir sgidiau cerdded priodol.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Eglwys St Gwrthwl, Llanwrthwl, Llandrindod, LD1 6NT. Cyfeirnod grid: SN975637
Cam 1
Gan ddechrau’r daith o’r eglwys yn Llanwrthwl, dilynwch yr is-ffordd sy’n rhedeg ar ochr chwith y fynwent. Mae’r darn hwn o’r daith yn dilyn llwybr hamdden Llwybr Dyffryn Gwy. Arhoswch ar y ffordd hon am tua 2 filltir (3.5km) nes i chi ddod at bwynt lle mae’r ffordd yn gwahanu.
Cam 2
Dilynwch y trac i’r dde, ar Lwybr Dyffryn Gwy o hyd, ac ewch drwy gât bren i mewn i gae. Rydych chi nawr ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fel mae’r arwydd ar gyfer mynydd Trembyd yn dynodi. Dilynwch y trac cerrig i fyny am ryw filltir (1.5km) – fe welwch fod y llwybr ceffylau glaswelltog yn mynd i fyny o’ch blaen tra bod y trac caregog yn troi i’r chwith, ac i lawr. Dilynwch y llwybr ceffylau nes i chi gyrraedd wal gerrig a gât sy’n arwain at gae ar frig y llwybr.
Cam 3
Trowch i’r dde o flaen y gât a dilynwch y ffens i fyny, gan anelu am gopa Trembyd. Ar ben bryn Trembyd fe welwch bentwr o gerrig a oedd unwaith yn garnedd gladdu. Mwynhewch y golygfeydd o ben y bryn tra’ch bod chi’n dal eich gwynt ar ôl dringo. O’r fan hon, cerddwch i gyfeiriad Drum Ddu i’r de-orllewin.
Cam 4
Croeswch y drum (neu’r cyfrwy) rhwng y ddau gopa. Cadwch i ochr dde’r gwlyptir i gadw’ch traed ychydig yn sychach. Byddwch hefyd yn pasio dwy garnedd arall. Ar ôl croesi’r drum, cerddwch yn lletraws i’r chwith, i fyny ochr y bryn, nes i chi gyrraedd y brig. O’r fan hon, gallwch gerdded ar hyd y llwybr glaswellt gwastatach i garnedd Drum Ddu.
Cam 5
O garnedd Drum Ddu, dilynwch y llwybr ar hyd y grib am tua 400 llath (400m) nes i chi ymuno â’r trac sy’n disgyn i’r dde tua Rhos Saith-maen. Nid yw’r darn hwn o’r llwybr bob amser yn glir, felly dewiswch y ffordd orau i lawr ochr y bryn. Wrth i chi gerdded i lawr i’r dyffryn, cadwch olwg o’ch blaenau am y trac sy’n dringo’r bryn gyferbyn, ar yr ochr chwith, i fyny i gopa’r Gamriw. Dyma Riw Saeson, y llwybr i anelu ato wrth groesi llawr y dyffryn.
Cam 6
Ar ôl i chi groesi’r trac sy’n rhedeg drwy Ros Saith-maen, dilynwch y llwybr i droed y Gamriw. Gall yr ardal hon fod yn wlyb am lawer o’r flwyddyn, felly dewiswch eich llwybr yn ofalus. Dilynwch y llwybr sy’n arwain i fyny at adfeilion adeilad.
Cam 7
O’r fan hon, trowch i’r dde a dilyn y llwybr i’r copa, sy’n arwain o ochr chwith yr adfeilion. Byddwch yn cyrraedd carnedd y copa cyn y pwynt triongli, sef pwynt uchaf y daith gerdded hon ar 1,969tr (600m).
Cam 8
O bwynt triongli’r Gamriw, dilynwch y grib i’r gogledd-ddwyrain, yn ôl tua Llanwrthwl. Byddwch yn pasio sawl carnedd hynafol ar eich taith, sy’n cynnig cip i chi ar hanes yr ardal.
Cam 9
Wrth i chi gyrraedd pen pellaf y grib, bydd angen i chi ddod o hyd i’r llwybr igam-ogam sy’n arwain i lawr i a thrwy’r coetir uwchben fferm Dol-lago. Ar ôl cyrraedd y fferm, dilynwch yr arwyddion llwybr ceffylau glas sy’n eich cyfeirio rhwng adeiladau’r fferm ac i lawr trac y fferm, gan arwain i’r ffordd. Ar ôl cyrraedd y ffordd, trowch i’r chwith a pharhewch i’r gyffordd T. Trowch i’r dde yma, a dilynwch y ffordd yn ôl drwy’r pentref i’r eglwys.
Man gorffen
Eglwys St Gwrthwl, Llanwrthwl, Llandrindod, LD1 6NT. Cyfeirnod grid: SN975637
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith gerdded gylchol Pen y Fan a Chorn Du
Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.

Taith gerdded Rhaeadr Henrhyd a Nant Llech
Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Darganfyddwch diroedd Comin Abergwesyn
Darganfyddwch leoliad o dirweddau digyffwrdd a dramatig, lle mae dyffrynnoedd serth yn ildio i diroedd comin trawiadol sy’n cynnig golygfeydd gwych cyn belled â Bannau Brycheiniog.

Awgrymiadau arbennig ar gyfer cerdded bryniau a mynyddoedd
Dysgwch am y dillad a'r offer hanfodol sydd eu hangen arnoch, cadw eich lefelau egni yn uchel, cadw'n ddiogel a gadael yr amgylchedd fel yr oedd cyn i chi gyrraedd. (Saesneg yn unig)

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.