Darganfyddwch fwy ym Mannau Brycheiniog
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Ydych chi’n chwilio am lefydd i fynd yng Nghymru gyda'ch ci? Yna Canol Bannau Brycheiniog yw'r lle i chi. Anelwch i Ben-y-Fan a Chorn Du, dau o gopaon uchaf de Prydain am olygfeydd syfrdanol, neu i Goedwig Graig Llech am brofiad mwy hamddenol. Helpwch i sicrhau bod y Bannau Brycheiniog yn parhau i fod yn rhywle gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci dan reolaeth agos, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.
Cofiwch fod da byw yn pori yn yr ardaloedd hyn a chadwch eich ci ar dennyn byr pan fyddwch gerllaw. Peidiwch ag anghofio eich bagiau baw ci ac ewch ag unrhyw sbwriel adref lle nad oes biniau ar gael. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt ym Mannau Brycheiniog, ac mae'n bwysig diogelu'r cynefin gwerthfawr hwn.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar ei gwneud hi’n haws i chi ddarganfod pa mor gyfeillgar i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a’ch ffrind pedair coes gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system raddio newydd ac wedi rhoi sgôr i'r holl leoedd yn ein gofal. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llawlyfr aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Lle â chyfradd un pawen yw’r Bannau Brycheiniog.
Mae croeso i gŵn yma, ond mae'r cyfleusterau'n gyfyngedig. Fe fyddan nhw'n gallu ymestyn eu coesau yn y maes parcio a cherdded yn y mannau agored cyfagos, yn dibynnu ar y tymor.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Dysgwch sut i gyrraedd Bannau Brycheiniog, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.
Anelwch am yr entrychion wrth i chi ddringo Pen y Fan a Chorn Du, y ddau gopa uchaf yn ne Prydain. Mae ffurf y grib yn un o’r golygfeydd mwyaf adnabyddus yn y DU. Darganfyddwch lwybrau cerdded a golygfeydd gwyllt godidog yng nghrombil anghysbell Bannau Brycheiniog.
Darganfyddwch Raeadr Henrhyd a gwyliwch y dŵr yn plymio i geunant coediog Nant Llech. Mae Coedwig Graig Llech yn hafan i fwsogl a chen. Mae’r llecyn gwyrdd naturiol hwn yn boblogaidd gyda gwylwyr adar hefyd oherwydd ei amrywiaeth eang o adar y coed.
Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)
Dilynwch y llwybr mynyddig cylchol, heriol hwn ar hyd llwybrau cadarn i gopa Pen y Fan a Chorn Du ym Mannau Brycheiniog.
Darganfyddwch Geunant Graig Llech a chwm heddychlon Nant Llech ar y daith anturus hon ym Mannau Brycheiniog i weld y rhaeadr uchaf yn Ne Cymru.
Mae’r daith gerdded 5 milltir hon ar hyd trac o’r 18fed ganrif yn drysorfa o hanes. Mwynhewch fywyd gwyllt a golygfeydd o Warchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-Gleisiad ym Mannau Brycheiniog.