Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Mynyddoedd anghysbell yn llawn hanes, dyffrynnoedd coediog dwfn ac aberoedd ysblennydd.
Dolmelynllyn car park, Ganllwyd, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2TF
Asset | Opening time |
---|---|
Cefn gwlad | Gwawr - Cyfnos |
Restuarant at Barmouth town centre.
Dolmelynllyn - National Trust car park Cregennan - National Trust car park Dinas Oleu - public car park
Cafés at Barmouth town centre.
Pub at Barmouth town centre.
Dogs allowed on lead. Please be mindful of livestock.
Lleoliadau cefn gwlad gyda thirwedd serth, greigiog, gorsiog ac anwastad mewn mannau. Gallai fod gatiau cul a chamfeydd hefyd.
Dolmelynllyn - uneven and steep path in places. Dinas Oleu - footpath from Barmouth town centre. Steep parts to path up to Dinas Oleu.
Cregennan - footpath around lake Dinas Oleu - footpath from Barmouth town centre. Steep parts to path up to Dinas Oleu
Dolmelynllyn: Ganllwyd village can be found 4 miles north of the town of Dolgellau. The A470 which is the main north-south road through Wales divides the village. The car park is situated at the centre of the village and is sign posted. Cregennan: From Dolgellau centre take A493 towards Arthog. Follow B road 1 mile east of Arthog up steep winding road. Dinas Oleu: Barmouth is a coastal town situated on the A496. You will need to park in the town in one of the many car parks. The footpath is located along Dinas Oleu Rd, opposite The Original Factory Shop. A brown sign directs you past the side of the Rowlands Pharmacy and up to Dinas Oleu. | Dolmelynllyn: Mae pentref Ganllwyd 4 milltir i'r gogledd o dref Dolgellau. Mae'r A470, sef y brif ffordd rhwng gogledd a de Cymru, yn rhannu'r pentref. Mae'r maes parcio wedi'i leoli yng nghanol y pentref ac mae arwyddion arno. Cregennan: O ganol Dolgellau cymerwch yr A493 i gyfeiriad Arthog. Dilynwch ffordd B 1 filltir i'r dwyrain o Arthog i fyny ffordd droellog serth. Dinas Oleu: Mae Abermaw yn dref arfordirol ar yr A496. Bydd angen i chi barcio yn y dref yn un o'r meysydd parcio niferus. Mae’r llwybr wedi’i leoli ar hyd ffordd Dinas Oleu, gyferbyn â 'The Original Factory Shop'. Mae arwydd brown yn eich cyfeirio heibio ochr Fferyllfa Rowlands ac i fyny at Ddinas Oleu.
Dolmelynllyn links to several public right of ways. Consult a local Ordnance Survey map. Cregennan: Mawddach trail and cycle route nearby - see website Dinas Oleu: Same as by car from Barmouth town centre. | Mae Dolmelynllyn yn cysylltu â sawl hawl tramwy cyhoeddus. Ymgynghorwch â map Arolwg Ordnans lleol. Cregennan: Llwybr Mawddach a llwybr beicio gerllaw - gweler y wefan Dinas Oleu: Yr un fath ag yn y car o ganol tref Abermaw.
Dolmelynllyn: Nearest station is Barmouth,12 miles away. Cregennan: Nearest train station at Morfa Mawddach, 3 miles away. Dinas Oleu: Nearest train station is situated in the centre of Barmouth. | Dolmelynllyn: Yr orsaf agosaf yw Abermaw, 12 milltir i ffwrdd. Cregennan: Yr orsaf drenau agosaf ym Morfa Mawddach, 3 milltir i ffwrdd. Dinas Oleu: Lleolir yr orsaf drenau agosaf yng nghanol Abermaw.
Dolmelynllyn - Frequent bus service to Ganllwyd. Cregennan: Nearest bus stop Arthog 1.5 miles. Dinas Oleu: Frequent bus services to and from Barmouth. Check Traveline Cymru website. | Dolmelynllyn - Gwasanaeth bws aml i Ganllwyd. Cregennan: Arhosfan bws agosaf Arthog 1.5 milltir. Dinas Oleu: Gwasanaethau bws rheolaidd i ac o Abermaw. Edrychwch ar wefan Traveline Cymru.
View local cycle routes on the National Cycle network website. | Edrychwch ar lwybrau beicio lleol ar wefan y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.
Dilynwch yn ôl troed chwedlau o amgylch Eryri. P'un a ydych am dro hamddenol neu daith gerdded fynyddig, isod mae detholiad o llefydd i flino'r pedwar cymal (a'ch rai chi!).
Mynyddoedd anghysbell yn llawn hanes, dyffrynnoedd coediog serth ac aberoedd trawiadol.
Yn cynnwys Rhaeadr Ddu, coedwig law Geltaidd sy’n gyfoeth o gen a bryoffytau. Gwaith aur a pharcdir Cefn Coch.
Bryncyn eithinog yn edrych dros Abermaw, y darn cyntaf o dir i gael ei roi i’r Ymddiriedolaeth ym 1895.
Dau lyn wedi’u hamgylchynu gan ffridd a safleoedd daearegol o bwysigrwydd cenedlaethol, yn ogystal â dwy fferm ddefaid a gwartheg.
Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.
Dewch i weld y Rhaeadr Ddu fyrlymus ac adfeilion trawiadol gwaith aur Cefn Coch ar daith Ystâd Dolmelynllyn yn Ne Eryri.
Dilynwch y daith gylchol hon o’r Ganllwyd, trwy goed derw ac ar hyd Afon Gamlan, sy’n eich arwain at raeadr ddramatig Rhaeadr Ddu.
Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, roddwyd gan Fanny Talbot i bobl Abermaw, yn 1895: y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.
An 18th-century stone cottage on a working hill farm, with a wood-burning stove and valley views
A perfect country cottage full of original beams and an inglenook fireplace, set in green farmland.
Get away from it all in this traditional Welsh countryside cottage in the wilds of Eryri (Snowdonia).
The lodge is near to the entrance of Dolmelynllyn Hall, a pretty cottage which is the perfect bolthole for exploring south Eryri (Snowdonia).
Originally built as an observatory, you can watch stars and wildlife from this cosy cottage.
An impressive Medieval Hall house in its own private walled garden, on working farmland.
Mae'n ddrwg gennym, nid oes unrhyw ddigwyddiadau i ddod yn y lle hwn
Wedi'i ffinio gan aberoedd hardd Dwyryd a Dyfi, mae mynyddoedd de Eryri yn cynnwys rhai o lefydd mwyaf diddorol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Yma y cydiodd gwreiddiau'r Ymddiriedolaeth, pan brynwyd Dinas Oleu ym 1895. Wedi’u gwahanu gan aber dramatig Mawddach, cadwyni mynyddoedd Cader Idris a’r Rhinogydd sy’n dominyddu’r golygfeydd ac mae arfordir yr ardal yn cynnwys rhai o dwyni tywod pwysicaf Ynysoedd Prydain o ran ecoleg. Mae’r ardal yn gadarnle i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant ac mae’n hynod gyfoethog o ran archeoleg cynhanesyddol a chanoloesol.
Dinas Oleu oedd y darn cyntaf o dir y byddem ni yn ei ddiogelu i bawb, am byth. Dysgwch pam bod Mrs Fanny Talbot wedi rhoi’r tir hwn i’w ddiogelu.
Dysgwch sut y mae gwartheg yn helpu i roi bywyd i goetir trwy bori cadwraethol sy’n creu cynefin amrywiol a chynyddu bywyd gwyllt.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.