
Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn
Mwynhewch daith gerdded gylchol fer o gwmpas y llyn addurnol yma sydd â llwyfannau gwylio yn ymestyn allan dros lan y llyn. Mae’n lle gwych i wylio bywyd gwyllt ac mae wedi ei ddatblygu i fod yn hygyrch ac mae’n berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Cyfanswm y camau: 3
Cyfanswm y camau: 3
Man cychwyn
Maes parcio Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Cam 1
O’r maes parcio, croeswch yr A470 brysur a cherdded i’r chwith ar hyd y palmant at Fferm Dolmelynllyn ac ar hyd y ffordd at Blas Dolmelynllyn. Cerddwch ar hyd y ffordd nes cyrhaeddwch chi gyffordd deirffordd. Dilynwch y ffordd isaf tuag at y bythynnod. Ar waelod y trac, anelwch yn syth ymlaen a dilynwch y cyferbwynt i lawr y llwybr a thrwy'r giât tuag at y llyn.
Cam 2
Wrth i chi fynd o amgylch y llyn, cymrwch eich amser a chael picnic neu syllu i’r dŵr i weld pa bysgod neu bryfed y gallwch chi eu gweld.
Cam 3
Ar ôl mynd o amgylch y llyn, ewch yn ôl yr un ffordd yn ôl at y gât, ac yn ôl i fyny at y trac ac ymlaen i’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd
Dilynwch y daith gylchol hon o’r Ganllwyd, trwy goed derw ac ar hyd Afon Gamlan, sy’n eich arwain at raeadr ddramatig Rhaeadr Ddu.

Taith Dinas Oleu, Abermaw
Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, roddwyd gan Fanny Talbot i bobl Abermaw, yn 1895: y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Taith Ystâd Dolmelynllyn
Dewch i weld y Rhaeadr Ddu fyrlymus ac adfeilion trawiadol gwaith aur Cefn Coch ar daith Ystâd Dolmelynllyn yn Ne Eryri.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Crwydro De Eryri
Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.

Ein gwaith ar ystâd Dolmelynllyn
Dysgwch sut y mae gwartheg yn helpu i roi bywyd i goetir trwy bori cadwraethol sy’n creu cynefin amrywiol a chynyddu bywyd gwyllt.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)