
Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd
Mae hon yn daith gylchol wych ar hyd afon yn Ne Eryri, gan eich arwain ar hyd Afon Gamlan fyrlymus a heibio rhaeadr ryfeddol Rhaeadr Ddu. Byddant yn edrych yn wahanol bob tro y byddwch yn ymweld, gan ddibynnu ar y glaw, y tywydd a’r golau.
Rhannau creigiog
Byddwch yn ofalus iawn ar rannau creigiog ger y rhaeadr. Fe allant fod yn llithrig.
Cyfanswm y camau: 5
Cyfanswm y camau: 5
Man cychwyn
Maes parcio Dolmelynllyn, Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Cam 1
Croeswch y ffordd o’r maes parcio tuag at y neuadd bentref haearn sydd newydd ei hadnewyddu.
Cam 2
Dilynwch y ffordd darmac ar hyd yr afon, ac yna dilynwch yr arwyddion dros y bont garreg, gan anelu am bont bren. Chwiliwch am y garreg sydd wedi ei gorchuddio â chen ac arysgrif Lladin wedi ei gerfio arni.
Cam 3
Croeswch y bont bren a gwyro i’r dde tuag at y rhaeadr. Mae Rhaeadr Ddu yn ddwy raeadr sy’n disgyn dros 60 troedfedd (18m). Byddwch yn ofalus ar y rhan hon gan y gall y creigiau fod yn llithrig.

Cam 4
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr gan ddilyn yr arwyddion. Ewch trwy’r giât mochyn ac yn fuan wedyn dilynwch y llwybr i’r chwith, gan ddilyn yr arwyddion i lawr trwy goetir derw agored.
Cam 5
Ar y groesffordd, ewch yn syth ymlaen trwy’r giât bren. Dilynwch y llwybr, trwy ddwy giât arall, i’r briffordd. Trowch i’r chwith yma i fynd yn ôl i faes parcio Ganllwyd.

Man gorffen
Maes parcio Dolmelynllyn, Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Taith Dinas Oleu, Abermaw
Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, roddwyd gan Fanny Talbot i bobl Abermaw, yn 1895: y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Taith Ystâd Dolmelynllyn
Dewch i weld y Rhaeadr Ddu fyrlymus ac adfeilion trawiadol gwaith aur Cefn Coch ar daith Ystâd Dolmelynllyn yn Ne Eryri.

Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn
Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Pethau i’w gweld a’u gwneud yn Hafod y Llan
Darganfyddwch bethau i’w gwneud yn fferm Hafod y Llan, Eryri, Cymru ar lethrau’r Wyddfa, gan gynnwys llwybrau cerdded a’r bywyd gwyllt y gallwch ei weld.