Taith Ystâd Dolmelynllyn
Cerddwch gerllaw Rhaeadr Ddu – sydd wedi ysbrydoli cenedlaethau o artistiaid ac awduron – ar y daith gylchol lawn golygfeydd hon, a gofalwch fynd i weld adfeilion gwaith aur Cefn Coch.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Maes parcio Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Cam 1
Croeswch y ffordd o’r maes parcio tuag at y neuadd bentref haearn sydd newydd ei hadnewyddu.
Cam 2
Dilynwch y ffordd darmac ar hyd glan Afon Gamlan at y gyffordd â llwybr carreg, sydd ag arwydd tuag at bont bren. Wrth i chi ddilyn y llwybr hwn chwiliwch am garreg gydag arysgrif Lladin o linell gan y bardd Thomas Grey.
Cam 3
Croeswch y bont a chadw i’r dde at Raeadr Ddu. Mae dwy raeadr ar wahân, y ddwy yn rhyfeddol ym mhob tymor.
Cam 4
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr gan ddilyn yr arwyddion trwy giât mochyn. Ychydig yn nes ymlaen, dilynwch y llwybr i’r dde a chroesi’r bont bren. Ewch ymlaen ar hyd y llwybr i’r dde, i fyny ffordd darmac a thrwy giât i goetir y Comisiwn Coedwigaeth.
Cam 5
Ar ôl tua 110 llath (100m) trowch i’r chwith trwy blanhigfa goniffer. Dilynwch yr arwyddion dros bont droed dderw hynafol ac i’r mynydd agored. Oddi yma bydd yr arwyddion yn eich arwain heibio gwaith aur o’r 19eg ganrif. Bydd y llwybr yn eich arwain at adfeilion bwthyn Berthlwyd.
Cam 6
Cerddwch i lawr y rhiw ar hyd y ffordd darmac cyn belled â’r tŷ carreg ar y chwith. Dilynwch y llwybr i’r dde a chroesi camfa i’r coed.
Cam 7
Daliwch i fynd ar hyd y llwybr nes cyrraedd cyffordd. Dilynwch yr ail lwybr i’r dde a dilyn yr arwyddion trwy’r coed. Bydd y llwybr hwn yn eich arwain at ganolfan waith Meirionnydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Cam 8
Ewch ymlaen ar hyd y ffordd darmac at Westy Tyn-y-groes. Croeswch y briffordd brysur a dilyn y llwybr gyferbyn, tuag at Afon Mawddach a phont Tyn-y-groes.
Cam 9
Ewch i’r chwith ar hyd y ffordd darmac yn ôl i’r briffordd. Croeswch i’r palmant a throi i’r dde, yn ôl tuag at y pentref a’r maes parcio.
Man gorffen
Maes parcio Ganllwyd, cyfeirnod grid: SH727243
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Taith Rhaeadr Ddu a Choed Ganllwyd
Dilynwch y daith gylchol hon o’r Ganllwyd, trwy goed derw ac ar hyd Afon Gamlan, sy’n eich arwain at raeadr ddramatig Rhaeadr Ddu.
Taith Dinas Oleu, Abermaw
Crwydrwch trwy’r hen dref droellog hyd at Ddinas Oleu eithinog, roddwyd gan Fanny Talbot i bobl Abermaw, yn 1895: y darn cyntaf o dir a roddwyd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Taith y Llyn Addurnol, Dolmelynllyn
Mwynhewch daith addas i gadeiriau olwyn a wnaiff i chi ymlacio o gwmpas y llyn a adferwyd yn Nolmelynllyn, sy’n wych i wylio bywyd gwyllt.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Crwydro De Eryri
Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.