Darganfyddwch fwy yn Ne Eryri
Dysgwch sut i gyrraedd De Eryri, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Saif Dinas Oleu uwchben Abermaw yn edrych dros Fae Ceredigion a Phenrhyn Llŷn. Yn dilyn rhodd hael gan un wraig, daeth y bryncyn eithinog hwn yn fan cychwyn ar gyfer rhoddion o dir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Ganed Mrs Talbot yn 1824 yn Bridgwater, Gwlad yr Haf. Symudodd yn ddiweddarach i’w chartref, o’r enw Ty’n-y-Ffynnon ar lethrau Dinas Oleu. Ar ôl marwolaeth ei gŵr, yn 1873, ymroddodd i waith elusennol yn lleol.
Roedd Mrs Fanny Talbot yn berchennog tir a dyngarwraig rhesymol o gyfoethog. Roedd hefyd yn gyfeilles i Octavia Hill a’r Canon Hardwicke Rawnsley oedd yn ddau o’n sefydlwyr.
Yn 1895, rhoddodd Mrs Talbot ei rhodd hael i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, oedd yn cynnwys 4.5 erw, Dinas Oleu. Y rhan hon o’r clogwyn oedd y darn cyntaf o dir a roddwyd i sicrhau y byddai’n parhau i gael ei ddiogelu i bawb, am byth.
– Mrs Fanny Talbot
Gwelodd Mrs Talbot bwysigrwydd treftadaeth a mannau agored ein cenedl. Roedd am eu gwarchod i bawb gael eu mwynhau. Roedd hyn yn cyd-fynd â gweledigaeth ein sylfaenwyr pan wnaethant sefydlu’r elusen yn 1895.
Fwy na 125 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r gwerthoedd yma yn dal yn ganolog i bopeth a wnawn.
Pan roddodd Mrs Fanny Talbot y darn arbennig hwn o dir, ni wyddai y byddai’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dod yn elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. O Ddinas Oleu gallwch weld llawer o’r 58,000 erw o dir yr ydym yn gofalu amdano yn Eryri ynghyd â 196 milltir o arfordir Cymru.
Os cerddwch chi i ben Dinas Oleu fe welwch lwyfan gron o garreg a adeiladwyd yn 1995 i gofio 100 mlynedd ers i’r rhodd gael ei rhoi.
Roedd Mrs Talbot wedi rhoi i brosiectau elusennol eraill. Yn 1874 rhoddodd ddeuddeg o fythynnod a darn o dir 4.5 erw i’r beirniad dylanwadol, John Ruskin. Roedd Mr Ruskin wedi sefydlu prosiect o’r enw ‘The Guild of St George’. Bwriad y prosiect oedd creu amodau cymdeithasol gwell i bobl fyw a gweithio.
– John Ruskin
Rhoddwyd cartref i Ffrancwr o’r enw Auguste Guyard gan John Ruskin, sef un o hen fythynnod Mrs Fanny Talbot. Daeth Auguste Guyard i Brydain gyda’i ferch yn 1871 ar ôl ffoi o’r gwarchae ar Baris yn ystod y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia. Symudodd Guyard i fwthyn rhif 2 Rock Gardens yn Ninas Oleu.
Roedd Guyard wedi ceisio creu ‘commune modele’ yn y gorffennol yn ei bentref genedigol, Frotey-Les-Vesoul, lle cafodd ei eni yn 1808. Roedd ei nodau yn debyg iawn i rai John Ruskin ac efallai mai dyna pam ei fod wedi cael ei ddewis gan yr elusen i gael bwthyn yma.
Cai ei adnabod yn lleol fel y Ffrancwr, a threuliodd Guyard ei amser yn cerfio terasau i ochr y bryn lle’r oedd yn tyfu llysiau, perlysiau a phlanhigion meddyginiaethol y byddai’n eu rhannu gyda’r tlodion. Roedd ganddo ddawn arbennig gydag anifeiliaid hefyd gan ddofi hebog a jac-do.
Bu Guyard farw yn 1882 a’i ddymuniad oedd cael ei gladdu ar y bryn lle treuliodd cymaint o’i amser. Mae ei fedd mewn darn o dir muriog ger Dinas Oleu. Cyfansoddodd ei feddargraff ei hun ar gyfer ei garreg fedd. Yn ddiweddar mae wedi ei gyfieithu o’r Ffrangeg i Saesneg a Chymraeg ac mae wedi ei ysgrifennu ar blac gerllaw.
– Beddargraff ar gyfer y garreg fedd, Dinas Oleu
Dysgwch sut i gyrraedd De Eryri, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Crwydrwch drwy dirwedd garw anghysbell De Eryri. Mae’r coetir derw hynafol yn Nolmelynllyn a’r creigiau folcanig yng Nghregennan yn cynnig cynefin naturiol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Edrychwch yn ofalus o dan eich traed i chwilio am ffosiliau a chen prin ar draws y rhostir.