Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.
Rydym yn gofalu am gasgliad arbennig o erddi a pharciau sy’n cwmpasu mwy na 500 mlynedd o hanes Cymru. O derasau Eidalaidd a gerddi muriog i erddi coed ac ystadau cefn gwlad, mae digon i’w ddarganfod drwy gydol y tymhorau.
O derasau Gardd Bodnant i docwaith trawiadol Castell y Waun, mwynhewch wledd i’r synhwyrau yng ngerddi gorau’r gogledd.
Ymwelwch â’r ardd fyd-enwog hon mewn lleoliad dramatig ar ochr bryn a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a dolydd, a chasgliadau botanegol o bedwar ban byd.
Rhowch wledd i’ch synhwyrau a thanio’ch dychymyg wrth grwydro ymysg arogleuon a lliwiau llachar y borderi blodau toreithiog yn yr ardd 5.5-erw hyfryd hon.
Bu bron y dim i’r ardd hon gael ei cholli am byth, ond a hithau bellach wedi’i hadfer yn llawn dyma’r lle perffaith i fwynhau prynhawn braf, gyda lawntiau eang a rhodfeydd o balalwyf wedi’u plethu.
Fel y castell ei hun, mae’r tiroedd a’r ardd yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Mwynhewch y llonyddwch yn yr Ardd Furiog, neu crwydrwch Ardd y Gors, sy’n debyg i jyngl.
Ar lannau Afon Menai gyda golygfeydd dramatig o Eryri, mae’r ardd hon yn llawn rhyfeddodau. Ymgollwch eich hun mewn 40 erw o derasau Eidalaidd, dolydd a Gardd Goed gysgodol.
Mwynhewch ryfeddodau un o erddi gorau’r DU yng Nghastell Powis, gyda’i thocwaith trawiadol, neu darganfyddwch yr ardd furiog fendigedig yn Llanerchaeron.
Yn dyddio’n ôl dros 300 mlynedd, mae tipyn o bopeth yn yr ardd fyd-enwog hon. Darganfyddwch Derasau Eidalaidd gyda golygfeydd gwych a thocwaith dramatig, a gardd ffurfiol heddychlon.
Mae’r Ardd Furiog heddychlon hon yn wledd i’r synhwyrau. Ewch am dro ymysg y coed ffrwythau hynafol, a gardd lysieuol bersawrus sydd dan ei sang â llysiau coginio llesol.
O ffynhonnau Gerddi Dyffryn i wylltir Gardd Goedwig Colby, darganfyddwch drysorau garddwriaethol y de.
Darganfyddwch erddi 55-erw Dyffryn, gan gynnwys rhwydwaith hyfryd o ardd-ystafelloedd, gardd goed, gerddi’r gegin a thŷ gwydr enfawr sydd dan ei sang â rhyfeddodau arallfydol.
Ymgollwch eich hun mewn tair gardd ffurfiol berffaith. Gyda thai gwydr, Orendy, borderi blodau a pherllan, mae digon o ryfeddodau i’w darganfod ar hyd eu llwybrau dirgel.
Mae’r ardd ddiarffordd hon, a oedd unwaith yn faes glo gweithredol, yn dal i gofio’i gwreiddiau diwydiannol, ond heddiw, gyda’i nentydd, dolydd, coetir a gardd furiog, mae’n hafan go iawn i fyd natur.
Yn llawer o'r lleoedd arbennig y gofalwn amdanynt, rydym yn gweithio gyda chymunedau i greu gerddi lle gall pobl dreulio amser ym myd natur, a chyda'i gilydd.
Mwynhewch antur natur yn nhiroedd castell crand fel Castell y Waun neu fynd am dro drwy dirwedd fel Erddig.
Ewch am dro o gwmpas yr ystâd 480-erw ddiddorol hon a darganfod coed hynafol, bywyd gwyllt bendigedig, a golygfeydd godidog o’r cefn gwlad cyfagos.
O goetir heddychlon a gweddillion castell mwnt a beili i gaeau gwyrdd godidog a’r rhaeadr Cwpan a Soser, mae digon i’w ddarganfod yn yr ystâd hon, sy’n 300 mlwydd oed.
Mwynhewch gerdded ling-di-long drwy ardaloedd llai adnabyddus o diroedd y castell i weld dolydd, cuddfan adar heddychlon, coetir, a golygfeydd gwych dros Fae Conwy ac Eryri.
O un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd ddarluniadwy yn Ewrop yn Hafod i ystâd goediog heddychlon Llanerchaeron, mae digon i’w ddarganfod yn y canolbarth.
Darganfyddwch Hafod, un o’r enghreifftiau gorau o dirwedd ddarluniadwy yn Ewrop, gyda rhaeadrau byrlymog, glennydd mwsoglyd, gerddi wedi’u hadfer a phontydd dros geunentydd creigiog.
Nid yw’r ystâd heddychlon hon yn nyffryn coediog Aeron wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd. Mae amrywiaeth o fywyd gwyllt i’w weld drwy gydol y flwyddyn yn y parcdir, y coedwigoedd, y dolydd a’r llyn.
Gyda’r parcdir yn Nhŷ Tredegar yn cynnig dihangfa ddedwydd rhag prysurdeb y ddinas ac ystâd eang sy’n llawn hanes yn Nolaucothi, mae digon o lefydd i fwynhau eiliad o lonyddwch.
Gyda’r gweddillion diwydiannol yn eistedd ar lannau nentydd a phyllau heddychlon, blodau gwyllt a llwybrau drwy’r coetir, mae llawer o gyfrinachau i’w datgelu yn yr hen bwll glo hwn.
Y parcdir 90-erw hwn yw’r lle perffaith i ddianc rhag prysurdeb y ddinas, ac mae digon i’w ddarganfod gyda lawntiau eang, llyn heddychlon, coetir a bywyd gwyllt bendigedig.
Gyda hanes sy’n estyn yn ôl dros 2000 o flynyddoedd, mae Dinefwr yn lle eiconig yn hanes Cymru. Crwydrwch 800 erw a dod o hyd i amrywiaeth o fywyd gwyllt, yn ogystal â rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.
Mae tipyn o bopeth yn yr ystâd 2,500-erw hon, o afonydd, coetir a ffermydd i fryniau gyda golygfeydd trawiadol o Ddyffryn Cothi. Mae llawer mwy i Ddolaucothi na’r mwyngloddiau Rhufeinig.
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.
Darganfyddwch ddyffrynnoedd dramatig a phrydferth, coetiroedd hynafol a llwybrau glan afon, neu anturiwch ar fynyddoedd gwyllt Cymru ac ymweld â rhai o gopaon mwyaf eiconig y wlad.
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.