Lleoedd i edmygu'r eirlysiau yng Nghymru

Mae gweld eirlysiau yn ffordd hyfryd o nodi newid y tymhorau, ac mae eiddo Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ledled Cymru yn cynnig rhai o’r lleoedd gorau i weld y blodau cain hyn rhwng Ionawr a Mawrth. Crwydrwch drwy erddi, coetiroedd a pharciau i weld y blodau cynnar hyn. Codir tâl mynediad, ond gall aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a phlant o dan 5 oed fynd i mewn am ddim. Cofiwch wirio’r amseroedd agor cyn ymweld.
Lleoedd i weld eirlysiau yng Ngogledd Cymru

Castell a Gerddi'r Waun, Wrecsam
Mae gardd arobryn Castell y Waun yn cynnwys un o'r arddangosfeydd eirlysiau gorau yng Nghymru. Mae The Pleasure Ground Wood yn cynnig sioe syfrdanol ym mis Chwefror, lle mae dwy erw o eirfain yn creu golygfa syfrdanol. Crwydrwch lwybrau heddychlon trwy fôr o flodau gwyn a dail gwyrdd bywiog. Yng ngerddi'r castell, gellir dod o hyd i eirlysiau cain yng nghanol gwrychoedd, ffiniau, a gerddi creigiau. Mae yna hefyd dri llwybr sy'n addas i gŵn, a llwybrau hygyrch ar gael, gyda map i dywys ymwelwyr i'r llwybrau gorau.

Gardd Bodnant, Conwy
Yng Ngardd Bodnant, mae eirfain yn dechrau ymddangos yn yr Ardd Aeaf o ddechrau mis Ionawr, ac erbyn diwedd mis Chwefror, mae miloedd yn blancio'r Hen Barc. Diolch i'r traddodiad blynyddol o blannu bylbiau newydd, mae'r arddangosfa'n tyfu'n fwy trawiadol bob blwyddyn. Gall ymwelwyr gymryd rhan yn y traddodiad hwn yn ystod hanner tymor mis Chwefror, rhwng 15 Chwefror a 2 Mawrth. Dilynwch y llwybr eira o giât yr Ardd Aeaf, trwy'r Hen Barc, Glyn yr Ywen ac ardal y Pen Pellaf, i weld amrywiaeth o rywogaethau o eirlysiau brodorol. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr tan ddiwedd mis Mawrth. Sylwer: mae'r ardd yn cynnwys llwybrau a grisiau serth, ond mae rhai llwybrau hygyrch.

Plas yn Rhiw, Pwllheli, Gwynedd
Mae'r ardd a'r coetir hynafol ym Mhlas yn Rhiw yn dod yn fyw gyda chlystyrau o eirfain gwyn cain yn ystod Ionawr a Chwefror, gan gynnig arddangosfa hudolus o'r gaeaf. Gyda digwyddiad arbennig ar ddau benwythnos cyntaf mis Chwefror (1-2 ac 8-9 Chwefror), beth am ddod i weld yr arddangosfa hudolus dros eich hun. Nid oes angen archebu. Mae croeso i gŵn ddod i archwilio’r coetir isaf, mond eu bod nhw ar dennyn byr, ond dim ond cŵn cymorth sy’n cael mynd i mewn i’r ardd. Nodwch fod grisiau, llwybrau graean, a llwybrau anwastad a chul yn yr ardd a’r coetir.
Erddig, Wrexham
Yn Erddig, mae’r eirlysiau cyntaf yn ymddangos ar flaen orllewinol y tŷ, gyda charped gwyn yn gorchuddio bryn y Blaen Orllewin erbyn dechrau Chwefror. Gellir hefyd gweld chlystyrau o eirlysiau yn yr ardd, ar ymyl y llwybrau ac ar draws y coetiroedd. Casglwch fap a chrwydrwch ar y stad o 1,200 erw ar un o bedwar llwybr cerdded sy’n addas ar gyfer cŵn i fwynhau’r blodau. Mae'r parcdir yn agored ac yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio, gyda llwybrau ag arwyddbyst sy'n addas i bawb. Mae gan yr ardd lwybrau gwastad, ac eithrio dwy set fach o risiau.
Lleoedd i weld eirlysiau yng Nghanolbarth Cymru
Castell a Gerddi Powis, Y Trallwng
Mae Castell Powis yn le syddar dop y rhestr y rhai sy'n hoff o eirlysiau, gyda llif o’r blodau cain gwyn yn gwasgaru trwy’r ardd terasog. O gloddiau Gardd Ffurfiol Edwardaidd i’r Parc Cenhinen Pedr a’r olygfa hudolus yn y coetir Y Gwyllt ( bryncyn coediog gyferbyn â’r castell). Mae’r arddangosfeydd yn creu awyrgylch chwedlonoli gyda thros 18,000 eirlysiau wedi'u plannu dros y ddwy flwyddyn diwethaf. Mae croeso i gŵn ar dennyn byr yn yr ardd tan 28 Chwefror a yn y Cwrt drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ardd yn bennaf heb risiau, er bod llwybrau serth a therasau heb ffiniau.
Lleoedd i weld eirlysiau yng Nghanolbarth Cymru

Gerddi Dyffryn, ger Caerdydd
Mae miloedd o fylbiau wedi'u plannu ar hyd gwelyau blaen y de yng Ngerddi Dyffryn, o flaen y plasty. Cadwch lygad am eirlysiau cyntaf y tymor o dan y coed hefyd. Codwch daflen Crwydro'r Gaeaf o'r Ganolfan Croeso wrth gyrraedd a fydd yn eich helpu i ddod o hyd i uchafbwyntiau'r tymor. Mynediad: Safle sy'n hygyrch yn bennaf gyda sgwter symudedd a chadeiriau olwyn ar gael i'w llogi am ddim (argymhellir i archebu ymlaen llaw).
Tŷ Tredegar, Casnewydd
Er bod Tŷ Tredegar a’r gerddi ar gau tan 8 Chwefror, mae’r parc yn agored ar gyfer ymwelwyr i fwynhau arwyddion cynnar y gwanwyn, gan gynnwys yr eirlysiau prydferth. Mae’r parc yn cynnig lleoliad perffaith ar gyfer y blodau cain hyn, gyda chlwstwr eirlysiau yn gwasgaru ar draws y mannau agored, gwyrdd ac o dan y coed. Mae’n lle tawel i fynd am dro a mwynhau’r blodau cyntaf y tymor, gan gynnig lloches dawel hyd yn oed wrth i’r tŷ ei hun fod ar gau. Peidiwch ag anghofio gwirio amseroedd agor y gerddi pan fyddant yn ailagor ym mis Chwefror!

Gardd Goedwig Colby
Yn Colby, wedi'i swatio mewn dyffryn coediog cudd, gallwch ddarganfod pocedi swynol o eirlysiau'n blodeuo o ganol i ddiwedd mis Chwefror. Gellir dod o hyd i'r blodau gwyn cain hyn sy'n dotio ymylon y nant, ar hyd y glannau, ac ar waelod y ddôl blodau gwyllt. Mae'r lleoliad heddychlon yn ychwanegu at hud y blodau cynnar hyn, gan greu man tawel a hardd i fwynhau harddwch blodau'r gaeaf.