Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.
Ciliau Aeron, ger Aberaeron, Ceredigion, SA48 8DG
Asset | Opening time |
---|---|
House | Tŷ | Ar gau |
Gardens, farmyard & lake | Gerddi, buarth a’r llyn | Ar gau |
Café | Caffi | Ar gau |
Geler Jones Collection | Casgliad Geler Jones | Ar gau |
Visitor reception and second hand bookshop | Derbynfa ymwelwyr a siop llyfrau ail law | Ar gau |
Car Park | Maes Parcio | 09:30 - 17:00 |
Woodland walks | Teithiau cerdded coetir | Open all day |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £11.00 | £10.00 |
Child | £5.50 | £5.00 |
Family | £27.50 | £25.00 |
1 adult, 2 children | £16.50 | £15.00 |
Group Adult | £8.00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
£3.00 |
Cynnyrch o ardd furiog Llanerchaeron ar werth yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Siop lyfrau ail law wedi'i leoli yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Mae croeso i gŵn ar dennyn yn y gerddi muriog, o amgylch y llyn a'r tiroedd pleser, fferm, maes parcio, canolfan ymwelwyr a'r caffi. Does dim mynediad i'r Fila i gŵn (Tŷ)
Toiledau ar gael ger y Ganolfan Ymwelwyr drws nesaf i Gaffi Conti's.
Parcio Bathodyn Glas yn y maes parcio. Rampiau i’r prif safle gyda llwybrau graean drwyddi draw. Ramp i’r tŷ gyda fideo o’r lloriau uchaf ar gael ar iPad. Tai bach hygyrch yn y ganolfan ymwelwyr ac ar y safle. Cadair olwyn ar gael.
Cadair olwyn i'w gweithio â llaw ar gael yn y dderbynfa
Lleolir Llanerchaeron 2.8 milltir i’r dwyrain o ganol Aberaeron, ar hyd yr A482. T1 i Aberaeron ***** Llanerchaeron is situated 2.8 miles east from the centre of Aberaeron, along the A482. The T1 bus from Aberystwyth leaves every hour and takes you to Aberaeron. The T5 and X50 from Cardigan to Aberaeron every 1.5 hours
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig. ***** Walk or cycle the 2½ mile path from Aberaeron to Llanerchaeron along old railway line. The route is called the Allt y Graig Woodland Trail.
Gallwch gerdded neu feicio’r llwybr 2½ milltir o Aberaeron i Lanerchaeron ar hyd hen reilffordd. Gelwir y llwybr yn Llwybr Coedlan Allt y Graig. ***** Walk or cycle the 2½ mile path from Aberaeron to Llanerchaeron along old railway line. The route is called the Allt y Graig Woodland Trail.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Cewch wybodaeth ynghylch lle y cewch ac na chewch fynd â nhw a pha gyfleusterau sydd ar gael.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad priodas llawn hanes a chyfaredd Cymreig, mae Llanerchaeron ar gael ar gyfer seremonïau sifil a gwleddoedd priodas.
Fila Sioraidd moethus a ddyluniwyd gan y pensaer John Nash.
Ystâd sy’n cynnwys llwybrau ag arwyddion a choetir sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt sy’n amgylchynu Dyffryn Aeron ac wedi’i diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Wedi’i hadeiladu ar ddiwedd y 18fed ganrif, mae’r ardd furiog wedi bod yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau ers dros 200 mlynedd.
Buarth Cymreig traddodiadol sy'n gartref i amrywiaeth o fridiau Cymreig.
Mwynhewch ddiwrnod allan yn crwydro ystâd draddodiadol Gymreig. Ymwelwch â'r anifeiliaid ar fuarth y fferm, ewch am dro o amgylch yr ardd furiog a chymerwch eiliad i oedi ger y llyn addurniadol. Gadewch i'r plant archwilio byd natur, gweld bywyd gwyllt lleol a chymryd rhan yn ein gweithgareddau tymhorol.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Bydd y daith heriol hon yn eich arwain o harddwch glan y môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd Bae Ceredigion at hen faenor fynachaidd Mynachdy’r Graig.
Mwynhewch gylchdaith ar hyd y clogwyni o fae bychan Cwmtydu i Gwm Soden ger Llanerchaeron, gan wylio glöynnod byw ac amrywiaeth o fywyd gwyllt arall ar hyd y daith.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
The ultimate woodland retreat, this fairy-tale cottage nestles in the Aeron Valley.
A delightful vernacular cottage with a little bit of history in all its nooks and crannies.
Are you a Parkrun runner? Llanerchaeron hosts parkrun at 9am sharp, every Saturday morning. Take in some stunning views whilst running the route, meet new people and have fun!
This spring, treat your little ones to a world of adventures around the grounds at Llanerchaeron on our Easter adventures in nature trails. Make your way along the trail, finding nature-inspired activities for the whole family.
Llanerchaeron has an action packed 7 day half term with events and activities every day to keep both you and your kids entertained...
Dewch i ddarganfod fila Sioraidd hyfryd Llanerchaeron. Fe’i dyluniwyd yn wreiddiol gan John Nash y pensaer enwog yn y 1790au, ac nid yw’r tŷ wedi newid rhyw lawer ers dros 200 mlynedd. Archwiliwch iard y gweision (sy’n cynnwys llaethdy, tŷ golchi, bragdy a thŷ halltu), a chymerwch gipolwg ar yr ystafelloedd a adnewyddwyd, yn cynnwys ystafelloedd casgliad Pamela Ward. Mae’r ystad wledig, Gymreig, draddodiadol hon yn cynnwys llwybrau cerdded hamddenol o amgylch yr ardd a amgylchynir gan furiau brics coch, a hefyd ceir llyn addurnol a pharcdir gwyllt. Dewch i gyfarfod â’r anifeiliaid yn y buarth traddodiadol, yn cynnwys cobiau Cymreig, moch Cymreig, dofednod a gwyddau. Dysgwch ragor am ein diadell draddodiadol o ddefaid lleol brid prin, defaid Llanwenog. Croesewir cŵn ar y safle i grwydro’r ardd furiog, y tiroedd hamdden, y llyn a'r fferm. Cadwch eich cŵn ar dennyn bob amser, casglwch unrhyw faw a dilynwch ein ‘Cod Cŵn’.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.
Mae prosiect adfer a chreu cynefin bellach ar waith mewn ymgais i achub cartref naturiol pili-pala prin yng Ngheredigion ar lechweddau arfordirol Cwm Soden.
Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.