Taith Aberystwyth i Fynachdy’r Graig

Bydd y daith hon yn eich arwain o harddwch glan y môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd Bae Ceredigion at hen faenor fynachaidd Mynachdy’r Graig. Fe gewch olygfeydd o Ynys Aberteifi, Ynys Enlli, Penrhyn Llŷn ac Eryri.
Bws dewisol yn ôl i Aberystwyth
Mae’r daith 10 milltir lawn yn cynnwys cerdded yn ôl ar hyd yr un llwybr, neu os yw’n well gennych, gallwch ddal y bws yn ôl (X40, X50 neu 550) i haneru’r amser.
Cyfanswm y rhannau: 9
Cyfanswm y rhannau: 9
Man cychwyn
Y Pier, Aberystwyth, cyfeirnod grid: SN581818
Rhan 1
Cychwynnwch y daith oddi wrth y Pier, Aberystwyth.
Rhan 2
Cerddwch tua’r de gyda’r môr ar y dde i chi, heibio’r castell.
Rhan 3
Cymrwch y troad nesaf ar y chwith ar hyd Heol Tan-y-Cae hyd at y brif A487 ac yna troi i’r dde dros Afon Rheidol ar Bont Trefechan.
Rhan 4
Oddi yma, dilynwch ffordd Pen yr Angor (yr ail ffordd ar y dde), cerddwch heibio Modurdy Mazda Anthony Motors a dros y bont fach i draeth Tanybwlch.
Rhan 5
Mae maes parcio ar y cerrig mân ger y lanfa garreg. Dilynwch lwybr yr arfordir trwy’r giât ar y chwith ac ar hyd y llwybr gwastad ar gwr y traeth, sy’n arwain yn syth at y ddringfa i fyny Allt-wen.
Rhan 6
Dilynwch farcwyr llwybr yr arfordir ar hyd y llwybr.
Rhan 7
Aiff y llwybr i lawr at y ffermdy a adawyd, Ffos-las, ac ymlaen i eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mynachdy’r Graig.
Rhan 8
Rydych yn awr wedi cyrraedd Mynachdy’r Graig.
Rhan 9
Gallwch yn awr naill ai ddilyn eich taith yn ôl i Aberystwyth, neu gerdded i fyny’r llwybr i’r gilfach barcio ar yr A487, lle bydd y bws (X40, X50 neu 550) yn stopio os gofynnir iddo a’ch cludo yn ôl i Aberystwyth.
Man gorffen
Y Pier, Aberystwyth, cyfeirnod grid: SN581818
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Llanerchaeron
Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.

Taith glöynnod byw Cwmtydu i Gwm Soden
Mwynhewch gylchdaith ar hyd y clogwyni o fae bychan Cwmtydu i Gwm Soden ger Llanerchaeron, gan wylio glöynnod byw ac amrywiaeth o fywyd gwyllt arall ar hyd y daith.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.