Skip to content
Golwg agos ar lesyn cyffredin yn eistedd ar goesyn blodyn yn Coombe Hill
Glesyn cyffredin | © National Trust Images/Hugh Mothersole
Wales

Taith glöynnod byw Cwmtydu i Gwm Soden

Mae’r gylchdaith hon yn mynd â chi ar hyd y clogwyni o fae bychan Cwmtydu i Gwm Soden – un o’r ychydig fannau yng Nghymru lle gallwch weld y fritheg berlog. Mae’r daith yn cynnig cyfleoedd di-rif i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt arall hefyd, fel y coediwr (math o wyfyn) a’r chwilen Gymreig ar y llechweddau glaswelltir morol, a’r adain siderog fawr ar hyd y nant gysgodol.

Cyfanswm y camau: 6

Cyfanswm y camau: 6

Man cychwyn

Y maes parcio y tu ôl i’r traeth yng Nghwmtydu, cyfeirnod grid: SN356575

Cam 1

Gan wynebu tua’r môr yng Nghwmtydu, cadwch i’r dde a dilynwch y llwybr troed i fyny’r clogwyni, drwy’r gât mochyn. Y darn cyntaf yw’r mwyaf serth ond cyn bo hir mae’n newid i fod yn fwy graddol. Yna mae’r llwybr yn igam-ogamu i fyny’r llethr serth cyn gwyro tua’r môr. Dilynwch y prif lwybr troed arfordirol hwn.

Cam 2

Ewch drwy’r ail gât mochyn a daliwch i ddilyn llwybr yr arfordir, heibio olion bryngaer o Oes yr Haearn ar ben y clogwyn, ac yna i lawr at geg Afon Soden yng Nghwm Silio.

Cam 3

Crwydrwch y traeth caregog sy’n cael ei ddefnyddio weithiau gan forloi, yna croeswch y bont bren dros y nant. I ddechrau, cadwch i’r chwith i gael gweld y glaswelltir arfordirol ar y clogwyni, lle mae toreth o’r glustog Fair, pys-y-ceirw a phlucen felen yn tyfu. Yna anelwch tua’r tir, heibio’r arwyddbost, ar hyd y prif lwybr troed sy’n rhedeg ar hyd y llethr isaf - mae’r rhedyn sy’n tyfu yma yn cael ei reoli’n benodol ar gyfer ‘brithegion’, sef math o löynnod byw. Nesaf, ewch lawr at y darn bach o weirglodd sy’n ymddangos i’r dde.

Cam 4

Cerddwch dros y bont. Yma mae gennych ddau opsiwn. Yr opsiwn cyntaf yw dilyn y llwybr yn syth ymlaen a throi i’r dde wedi’r ail bont. Yr ail opsiwn yw troi i’r chwith, gan ddilyn yr arwydd ar gyfer Nanternis, a dilyn y llwybr i mewn i weirglodd flodeuog arall. Ar y diwedd cadwch i’r dde i’r drydedd weirglodd. Dilynwch y llwybr i lawr drwy’r weirglodd hon, ac i mewn i weirglodd fach arall. Byddwch yn dychwelyd wedyn i’r ail bont.

Cam 5

Trowch i’r dde wedi’r ail bont ac ewch i fyny’r lôn goediog, gan ddilyn arwyddion ar gyfer Cwmtydu at gât cae. Ewch drwy’r gât a chadwch at y gwrych ar ochr y môr. Byddwch yn cerdded i fyny trwy ddôl hyfryd o flodau gwyllt. Ar gornel dde uchaf y cae, byddwch yn cyrraedd gât mochyn sy’n arwain at drac pridd byr. Trowch i’r dde ar ddiwedd hwn i’r lôn ag arwyneb arno. Fe ddewch i dŷ Pen y Graig. Ewch drwy’r gât mochyn i’r dde ohonoch ger y ffermdy. Byddwch yn ôl ar ben y clogwyn uwchben Cwm Silio.

Cam 6

Ar ôl gât y ffermdy, cadwch i’r chwith, a dilynwch y llwybr troed dros bont estyll fechan. Ewch yn eich blaen ar hyd ac i lawr at anheddiad Castell Bach. Fe fyddwch chi’n gwybod nawr lle’n union rydych chi – cadwch at y chwith ar hyd llwybr yr arfordir i Gwmtydu.

Man gorffen

Y maes parcio y tu ôl i’r traeth yng Nghwmtydu, cyfeirnod grid: SN356575

Map llwybr

Map taith gloÿnnod byw Cwmtydu i Gwm Soden
Map taith gloÿnnod byw Cwmtydu i Gwm Soden | © Crown copyright and database rights 2013 Ordnance Survey

Dyna ni, da iawn chi

Rhannwch eich profiad

Mwy yn agos i’r man hwn

Golygfa o'r awyr yn y gaeaf o Lanerchaeron, Ceredigion
Lle
Lle

Llanerchaeron 

Fila Sioraidd, gain, wedi'i dylunio gan y pensaer, John Nash yn 1790, ynghyd â gardd furiog, llyn iard fferm a thir parc gwyllt. Yn rhyfeddol, nid yw wedi'i haddasu ers dros 200 mlynedd.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o’r môr a blodau ar ben clogwyn ym Mynachdy’r Graig, Llanerchaeron
Llwybr
Llwybr

Taith Aberystwyth i Fynachdy’r Graig 

Bydd y daith heriol hon yn eich arwain o harddwch glan y môr hanesyddol Aberystwyth, ar hyd Bae Ceredigion at hen faenor fynachaidd Mynachdy’r Graig.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 10.5 (km: 16.8)

Cysylltwch

Ciliau Aeron, ger Aberaeron, Ceredigion, SA48 8DG

Ein partneriaid

Cotswold Outdoor

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Golygfa o Fynydd Sygun, Eryri

Cerdded yng Nghymru 

Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Bore hydrefol yn y parcdir yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Edrych trwy ddrws i mewn i'r ardd furiog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Llanerchaeron 

Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.

A group of people in a hiking group are being guided on a hike by rangers at Marsden Moor, West Yorkshire
Erthygl
Erthygl

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded 

Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

An aerial view of an adult and baby walking a dog along a path at Baggy Point, Devon
Erthygl
Erthygl

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol 

Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Visitor crossing water via stepping stones with their dog on an autumnal walk at Wallington

Cerdded 

Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch.  (Saesneg yn unig)

Ymwelydd yn cario sach gefn ac yn cerdded ar hyd llwybr troed yn Divis a’r Mynydd Du gyda waliau carreg i’r naill ochr, y cefn gwlad i’w weld yn y cefndir.
Erthygl
Erthygl

Dilynwch y cod cefn gwlad 

Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.