Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae Llanerchaeron yn wych ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Yn y gwanwyn mae’r blodau’n garped dros y goedwig, yn yr haf mae’r ystâd yn gôr o drydar ac yn fôr o liw, yn yr hydref mae’r dail ar dân yn eu gwisgoedd hydrefol, tra bod adar cynnar yn nythu mewn mannau go anarferol yn y gaeaf.
Mae digonedd o deithiau cerdded i’w mwynhau yn Llanerchaeron. Beth am fwynhau taith gerdded o gwmpas yr ystâd yn ystod yr oriau agor, neu beth am fynd am dro drwy’r parcdir.
Cerddwch drwy’r cysgodion y goedwig yn chwilio am fywyd gwyllt, gyda’r afon Aeron yn byrlymu wrth eich ymyl. Mae’r fflora ffantastig yn y goedwig yn un o’r rhesymau y mae wedi’i diogelu fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Dyluniwyd yr iard stoc ar y fferm yn Llanerchaeron yn ofalus i gartrefu a magu anifeiliaid fferm i gyflenwi cig a chnydau grawnfwyd i’r ystâd.
Ar eich ymweliad, edrychwch o gwmpas yr iard stoc i weld a fedrwch chi ddyfalu at ba ddiben y defnyddiwyd yr adeiladau.
Cewch wybod am frîd defaid prin Llanwennog a moch Cymreig ar y parcdir - a fyddwch chi'n gallu dyfalu beth oedd defnydd gwreiddiol yr adeiladau?
Wedi'u leoli mewn adeilad arbennig yn yr iard mae casgliad o offer hynafol Geler Jones, mae'n drysorfa o offer amaethyddol a domestig ynghyd a certiau ceffyl a injan stem arbennig o'r enw 'Glenys'.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.