Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yng nghanol tlysni Dyffryn Aeron, mae fila John Nash yn gwneud y gorau o’r golygfeydd o’r dirwedd drawiadol. Camwch drwy’r drws ac fe welwch sut mae symlrwydd yr ochr allan yn cuddio amrywiaeth o siapiau a manylion cymhleth, yn ogystal ag enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn, sy’n swatio yng nghefn y tŷ.
Cwblhawyd plasty’r teulu yn Llanerchaeron ym 1795 yn ôl dyluniad John Nash, pensaer uchelgeisiol nad oedd wedi ennill ei blwyf eto. Mae plasty Llanerchaeron yn Fila Sioraidd o arddull Paladaidd – yr arddull a ddysgwyd i Nash yn ystod ei saith mlynedd fel disgybl gyda Robert Taylor, pensaer Paladaidd arbenigol a ddyluniodd Neuadd Tref Caerfyrddin yn yr un arddull yn ystod yr un cyfnod.
Ar yr olwg gyntaf, mae’r tŷ yn un syml – bocs deulawr plaen o stwco a llechi. Ond gwnaeth Nash ei leoli’n ofalus iawn i wneud y gorau o’r golygfeydd o’r dirwedd drawiadol. Trefnodd y prif ystafelloedd o gwmpas cyntedd grisiau canolog wedi’i oleuo o uwchben.
Mae’r ystafelloedd yn dangos ei feistrolaeth o siapiau cymhleth a manylion clasurol cynnil. Cadwch olwg am y ffrisiau gwaith plastr yn arbennig: mae pob un yn unigryw, a phob un o’r safon uchaf.
Mae ardal y gweision yng nghefn y tŷ yn dangos y gwahaniaeth rhwng bywyd bob dydd y teulu a’u staff dyfal. Mae lle tân Edwardaidd yn y gegin sydd yn aml wedi’i gynnau i bobi, felly cofiwch gadw golwg am bice ar y maen cartref.
Dyma un o’r ardaloedd mwyaf diddorol a phwysicaf yn Llanerchaeron, ac mae’n unigryw bron am oroesi yn ei ffurf wreiddiol. Cafodd ei gynllunio i fod mor effeithlon â phosib, ac mae’n adrodd hanes cudd yr holl waith sydd ei angen i redeg plasty.
Yn yr iard wasanaeth fe welwch y llaethdy, y gegin laeth, yr ystafell cawswasg a’r storfa, y popty, yr ystafell fygu, yr ystafell halltu, y bragdy a’r ystafell olchi sych.
Cadwch olwg am ein cathod preswyl sydd i’w gweld yn aml y tu allan, yn yr iard wasanaeth.
Mae Ystafell Biliards yng nghefn y tŷ yn cynnwys ffilm fer am gynllun mewnol a hanes y Fila Sioraidd a ddyluniwyd gan John Nash. Cafodd y ffilm ei chreu er mwyn i bawb allu archwilio a mwynhau’r tŷ a’r tu mewn, yn enwedig os nad ydych chi’n gallu mynd i loriau uchaf y tŷ oherwydd y grisiau.
Mae dwy hen ystafell wely yn y fila yn Llanerchaeron yn gartref i gasgliad unigryw o hen eitemau a hynodion, sef Casgliad Pamela Ward. Yn eclectig ac amrywiol, mae’n drysorfa o eitemau diddorol ac, yn aml, anarferol a oedd yn berchen i ddynes a oedd yr un mor ddiddorol â’i chasgliad.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.