Skip to content

Bwyta a siopa yn Llanerchaeron

Ymwelwyr yn y caffi yn Llanerchaeron
Ymwelwyr yn y caffi yn Llanerchaeron, Ceredigion | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Wedi ei leoli ar lannau afon Aeron mae siop lyfrau ail-law Llanerchaeron a Chaffi Conti's. Llecyn hyfryd i bori am eich llyfr diweddaraf neu fwynhau diod ger yr afon.

Siop lyfrau ail-law Llanerchaeron 

Yn nerbynfa’r ymwelwyr cewch hyd i siop lyfrau ail-law boblogaidd Llanerchaeron. Y lle perffaith i bori am eich llyfr diweddaraf i'w ddarllen dros fisoedd y gaeaf. Mae’r holl elw’n aros yma yn Llanerchaeron.

Llyfrau clawr papur ar silff yn y siop lyfrau ail-law yn Ystâd Shugborough, Swydd Stafford
Porwch drwy’r siop lyfrau ail-law yn Llanerchaeron | © National Trust Images/David Goacher

Cynnyrch yr ardd

Wedi'u tyfu yn Llanerchaeron ac ar gael yn y dderbynfa mae amrywiaeth o gynnyrch tymhorol sydd i gyd wedi’u tyfu yn amgylchedd warchodol yr ardd furiog. Mae tîm o staff a gwirfoddolwyr yn trin y planhigion, pigo’r ffrwythau a’r llysiau a’u paratoi i’w gwerthu. Rydym hefyd yn gwerthu amrywiaeth o blanhigion a pherlysiau lluosflwydd a epiliwyd ar yr ystâd.  

Conti’s Café yn Llanerchaeron 

Mae’r caffi’n cael ei redeg gan Conti’s Café, busnes teuluol o Lambed sy’n enwog am eu hufen iâ hyfryd. Nodwch fod y caffi ar gau dros fisoedd y gaeaf.

Yn ystod y prif dymor maen nhw’n gweini dewis o ddiodydd, brechdanau, byrbrydau, cacennau ac, wrth gwrs, hufen iâ enwog Conti’s. Mwynhewch goffi rhost hyfryd neu frechdan flasus ar eich ymweliad. 

Ar eich ymweliad, siaradwch ag un o’r tîm i wirio’r wybodaeth ddiweddaraf am alergenau ar gyfer eich hoff bryd. 

Mae llawer o’r cynhyrchion yn lleol, sy’n golygu bod bwyd ffres a thymhorol ar gael gydol y flwyddyn. Mae opsiynau di-glwten ar gael hefyd. I ddysgu mwy am Conti’s, ewch i’w gwefan: http://www.contisicecream.com/

Dod â phicnic

Os byddai’n well gennych ddod â phicnic, mae gennym feinciau ym muarth yr ardd a ger yr adeilad ymwelwyr. 

 

Diolch

Diolch i’ch ceiniogau a’ch cefnogaeth chi y gallwn barhau i ofalu am natur, harddwch a hanes i bawb, am byth.

Ymwelwyr yn cerdded o flaen tŷ Llanerchaeron ar ddiwrnod heulog

Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron

Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ystafell ffrynt gyda phiano, lle tân, gramoffon a chyrtens pinc hir yn erbyn papur wal streipiog
Erthygl
Erthygl

Ymweld â fila John Nash yn Llanerchaeron 

Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.

Bore hydrefol yn y parcdir yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yn Llanerchaeron 

Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.

Edrych trwy ddrws i mewn i'r ardd furiog yn Llanerchaeron, Ceredigion
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd yn Llanerchaeron 

Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.

Cornel fila Llanerchaeron, adeilad rendrad hufen gyda tho llechi. Yn y blaendir mae dôl o laswellt hir gyda choed aeddfed y tu ôl i’r tŷ ac awyr lwyd uwchben.
Erthygl
Erthygl

Casgliadau Llanerchaeron 

Yn Llanerchaeron, porwch drwy gasgliad hen bethau eclectig Pamela Ward a thrysorfa Geler Jones o beiriannau amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif.