Casgliadau Llanerchaeron
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Llanerchaeron ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Yn Llanerchaeron mae ‘na rai casgliadau hynod a roddwyd i ni gan ddau gasglwr brwd er mwyn i bawb allu eu mwynhau. Rhyfeddwch at yr eitemau hynod yn siop hen bethau Pamela Ward yn y fila, neu hen gasgliad preifat Geler Jones o drysorau amaethyddol, diwydiannol a domestig o’r oes a fu.
Yn eclectig ac amrywiol, dyma drysorfa o eitemau diddorol ac, yn aml, anarferol a oedd yn berchen i ddynes a oedd yr un mor ddiddorol â’i chasgliad. Mae dwy hen ystafell wely yn y fila yn Llanerchaeron yn gartref i gasgliad unigryw o hen eitemau a hynodion, sef Casgliad Pamela Ward.
Ganed Pamela Muriel Ward ym 1908, yn ferch i feiolinydd cyngerdd a chyrnol yn y fyddin. Treuliwyd llawer o’i phlentyndod yn India, lle roedd ei thad wedi’i orsafu. Yn ei harddegau, teithiodd yn helaeth ledled Ewrop, yn aml ar ei phen ei hun.
Yn annibynnol gyfoethog, ni phriododd fyth ac roedd hi’n ymhyfrydu yn ei gallu i wneud fel y mynno.
Yn y 1960au, penderfynodd Pamela agor siop hen bethau yn Knightsbridge, a oedd yn gwerthu ‘pethau bach roedd hi’n eu hoffi’. Dechreuodd ei harferion casglu drwy brynu eitemau i gofio’i theithiau cynnar, ac roedd rhedeg y siop yn hobi iddi.
Yn y 1990au, a hithau’n byw mewn tŷ llawn trysorau, ymhell ar ôl i’w siop gau ei drysau, penderfynodd Pamela ei fod am adael ei chasgliad i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i’w osod mewn tŷ Sioraidd.
Ar ôl ei marwolaeth, dewiswyd Llanerchaeron gan ei hymddiriedolwyr fel y lleoliad gorau i’w chasgliad, a gydag ef daeth yr arian o werthu ei thŷ yn Llundain. Prynwyd to newydd mawr ei angen, ar adeg pan roedd Llanerchaeron yn dechrau dirywio.
Gyda dros 5,000 o eitemau yn y casgliad, rydym yn newid yr hyn sydd ar ddangos yn rheolaidd fel bod rhywbeth newydd i chi ei weld bob tro.
Mae casgliad Geler Jones yn drysor o beiriannau ac offer amaethyddol a domestig o ddechrau’r 20fed ganrif, yn ogystal â cherti a cherbydau a dynnwyd gan geffyl ac injan stêm wych o’r enw ‘Glenys’.
Yn y 1960au, prynodd Geler Jones, cyfrwywr lleol, ardd fawr y tu ôl i’w dŷ yn Aberteifi i gadw injan stêm. Yr injan stêm oedd y darn cyntaf yn yr hyn a ddaeth yn gasgliad enfawr ac amrywiol o wrthrychau amaethyddol, diwydiannol a domestig a oedd unwaith yn gyffredin yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.
Roedd ei wraig Mair yn gasglwr brwd hefyd, a hi fu’n gyfrifol am gasglu llawer o’r eitemau domestig a welwch yn y casgliad.
Ym 1972, penderfynodd Geler agor ei gasgliad preifat i’r cyhoedd. Roedd bellach yn cynnwys cerbyd a dynnwyd gan geffyl gyda sidan cain y tu mewn iddo, peiriant dyrnu enfawr, peiriannau cneifio cynnar a nifer o dractorau o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae’r casgliad, a brynwyd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1993 gan Gronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol, y cafodd llawer ohono ei weithgynhyrchu neu ei ddefnyddio’n lleol yn ardal Aberteifi, bellach mewn adeilad pwrpasol ym mhen draw’r ystâd, ychydig gamau oddi ar y buarth. Mae ar agor ar ddydd Mercher a dydd Gwener.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Llanerchaeron ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.