Dewch i wirfoddoli
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Llanerchaeron.
Mae gwirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn chwarae rôl bwysig yn gofalu am y fila a’r gerddi ac yn cynnig profiad i’w gofio i ymwelwyr. Dysgwch am ffyrdd gwerth chweil o dreulio’ch amser sbâr drwy ymuno â’r tîm.
Mae’r tîm ymroddedig a brwdfrydig o wirfoddolwyr yn Llanerchaeron yn gwneud cyfraniad enfawr at weithrediad esmwyth y safle. Maen nhw’n helpu i gynnal yr ardd, paratoi’r Fila ar gyfer ymwelwyr a helpu i gynnal gweithgareddau a digwyddiadau.
Yn ogystal â shifftiau, mae cyfleoedd gwirfoddoli hyblyg ar gael, gan gynnwys gyda’r tîm tocynnau raffl.
Mae rhywbeth bob amser yn mynd ‘mlaen yn Llanerchaeron, ac yn aml mae angen sawl pâr o ddwylo ar gyfer rhai o’r jobsys mwy o faint. Cysylltwch â ni os ydych chi’n rhan o grŵp a hoffai helpu.
Mae llawer o resymau dros ymuno â ni; gallai gwirfoddoli fod y penderfyniad gorau a wnaethoch erioed.
Mae llawer o wahanol rolau ar gael yn Llanerchaeron, ac mae’r cyfleoedd yn newid byth a hefyd. Gallwch ddod o hyd i’r rolau sydd ar gael a gwneud cais ar-lein.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Llanerchaeron.
Mae gwaith cadwraeth wedi bod yn cael ei wneud yn Llanerchaeron i adfer y tiroedd hamdden i’w gwir ogoniant ac adfywio’r dolydd a’r glaswelltir.
Am dros dair canrif bu Llanerchaeron yng Ngheredigion yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r teulu Lewis/Lewes. Dysgwch sut y cyfrannodd pob cenhedlaeth at yr ystâd fel y gwelwch chi hi heddiw.
Mae’r gerddi muriog yn Llanerchaeron yng Ngheredigion wedi bod yn tyfu bwyd blasus ers dros 200 mlynedd. Gallwch brynu cynnyrch ffres ar eich ymweliad.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.