Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad priodas llawn hanes a chyfaredd Cymreig, Llanerchaeron yw’r lle i chi. Yn swatio yn nyffryn heddychlon Aeron, mae Llanerchaeron yn gefnlen hyfryd i’ch diwrnod arbennig.
Mae buarth coblog y cerbyty yn Llanerchaeron yn lleoliad hyfryd ar gyfer hyd at 70 o westeion. Ar ôl y seremoni gall gwesteion fwynhau diodydd yn yr ardd, tra’ch bod chi’n gwneud y gorau o’r lleoliad unigryw gyda’ch lluniau.
Os ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer eich gwledd briodas, mae’r lawnt croce yn lleoliad gwledig hyfryd ar gyfer pabell fawr. Byddwch chi a’ch gwesteion ynghanol ystâd hardd Llanerchaeron, gyda’r tŷ a’r parcdir yn gefnlen drawiadol i chi.
Gallwn ni gynnig y lleoliad perffaith i chi, a chewch chi ddewis eich arlwywyr, eich pabell fawr a’ch blodau.
P’un a ydych chi’n chwilio am leoliad ar gyfer seremoni sifil, gwledd briodas neu gefnlen arbennig i’ch lluniau, rydym yma i helpu.
Os hoffech ddysgu mwy neu drefnu ymweliad, e-bostiwch ni: llanerchaeron@nationaltrust.org.uk
Rydym yn hapus i’ch tywys o gwmpas y safle ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
National Trust places are very popular for proposals and weddings. Read some stories from real couples to find out why they chose us for their special day.
Mae fila Sioraidd Llanerchaeron yn gwneud y gorau o brydferthwch Dyffryn Aeron, ac mae enghraifft brin o iard wasanaeth gyflawn yn cuddio yng nghefn y tŷ.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
From castles and ruins, to abbeys and even pubs, we have a wonderful selection of venues for your wedding day.