Darganfyddwch fwy am Llanerchaeron
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mwynhewch ddiwrnod allan yng nghanol byd natur gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Croesewir cŵn yn y gerddi, parciau difyrion, iard y fferm a’r teithiau cerdded coetir. Helpwch i sicrhau bod Llanerchaeron yn rhywle y gall pawb ei fwynhau drwy gadw eich ci ar dennyn byr, codi baw ci ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn ei gwneud yn haws i chi weld pa mor addas i gŵn fydd eich ymweliad cyn i chi a'ch cyfaill pedair coes gyrraedd.
Er mwyn helpu â hyn, rydym wedi creu system raddio â phawen ac wedi rhoi gradd i'r holl leoedd dan ein gofal. Mae'r wybodaeth hon ar gael yn llawlyfr aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Llanerchaeron wedi'i raddio fel lle dwy bawen.
Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau gwastraff cŵn a llwybrau cerdded sy'n addas i gŵn. Byddwch yn gallu mynd â'ch ci i rai mannau, ond nid i bobman. Os oes safle bwyd a diod, gallwch gael paned o de gyda nhw, y tu allan mae'n debyg. Darllenwch ymlaen i ddysgu ble yn union cewch fynd â'ch ci.
Mwynhewch ddiwrnod allan gyda'ch ci yn Llanerchaeron. Croesewir cŵn yn y gerddi, parciau difyrion, iard y fferm a’r teithiau cerdded coetir. I gadw ein casgliadau'n ddiogel, ni chaniateir cŵn yn y tŷ (ar wahân i gŵn cymorth). Nodwch y dylid cadw cŵn ar dennyn byr yn y parcdir bob amser er mwyn cadw da byw yn ddiogel. Mae yna deithiau cerdded hyfryd i'w harchwilio ar draws y parcdir hynafol, ewch i'n gwefan i weld y llwybrau, neu siaradwch ag aelod o'r tîm croesawu ymwelwyr.
Mae sawl powlen o ddŵr i gŵn ar draws y safle, yn cynnwys y ganolfan ymwelwyr a'r iard.
Os fydd angen rhywbeth ar eich ci yn ystod eich ymweliad, byddwn yn falch o helpu lle fo'n bosib.
Mae gan Llanerchaeron dda byw yn pori drwy gydol y tymor, felly gofynnwn yn garedig i ymwelwyr gadw eu cŵn ar dennyn byr bob amser er mwyn cadw'r anifeiliaid yn ddiogel.
Cynghorir hefyd ichi beidio â gadael eich anifail anwes yn y car am gyfnodau hir, gan nad yw ein meysydd parcio'n cynnig llawer o gysgod yn ystod y tymhorau cynnes.
Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:
Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:
Dysgwch pryd mae Llanerchaeron ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.
Dewch am dro i weld amrywiaeth o fywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn yn Llanerchaeron, yn y parcdir, y goedwig, y dolydd ac wrth gwrs y buarth gweithredol.
Ar eich ymweliad â Llanerchaeron beth am sbwylio eich hun i hufen iâ enwog Conti’s Café, prynu cynnyrch ffres a dyfwyd yn yr ardd neu bori’r siop lyfrau ail-law.
Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn annog adborth gonest ar gynigion i gyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron.