Cwestiynau Cyffredin am Lanerchaeron
Yn ddiweddar, gwnaethom gynnal ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn annog adborth gonest ar gynigion i gyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron.
Parcio ceir
Diolch o galon i bawb a neilltuodd amser i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â chodi taliadau parcio yn Llanerchaeron. Fel elusen, rydym yn ddibynnol ar gynhyrchu incwm a chymorth ein haelodau i ddiogelu a chyfoethogi mannau arbennig fel Llanerchaeron, er mwyn i bawb allu eu mwynhau.
Yn dilyn yr ymgynghoriad a’r adborth a gafwyd, bydd y taliadau canlynol yn cael eu codi o 10 Ebrill 2024:
Bydd aelodau’r Ymddiriedolaeth yn gallu parhau i barcio am ddim yn Llanerchaeron, yn unol â’r trefniadau ym meysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol trwy Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Dyma fantais hollbwysig dros fod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gellir ymaelodi yng nghanolfan ymwelwyr Llanerchaeron.
O 10 Ebrill 2024, byddwn yn codi tâl o £3 y diwrnod ar y rhai nad ydynt yn aelodau.
Caniateir parcio am ddim am hyd at awr (yn cynnwys yn ystod tymor yr haf) ar gyfer y bobl hynny a fydd yn dymuno ymweld â’r ganolfan ymwelwyr, y siop lyfrau, y toiledau a’r caffi, neu fwynhau taith gerdded yn y coetiroedd.
Bydd modd parcio am ddim rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror.
Codir tâl am barcio rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref, rhwng 10:00-17:00.
Yn achos deiliaid bathodynnau glas, ni chodir tâl arnynt am barcio ym meysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn belled ag y byddant yn arddangos dull adnabod dilys.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar eich ymweliad nesaf â Llanerchaeron. Gobeithio y byddwch yn parhau i drysori a chefnogi’r man arbennig hwn.
Cwestiynau Cyffredin
Dyma atebion i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin.
Pam mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cyflwyno ffioedd parcio yn Llanerchaeron?
Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm gan ein hymwelwyr i ariannu ein gwaith o ofalu am Llanerchaeron. Bydd codi ffi barcio hefyd yn ein galluogi i barhau i gyflwyno cyllid i ofalu am erddi’r fila, yr iard fferm a chynnal a chadw cyfleusterau yn ogystal ag ymgymryd â gwaith cadwraeth pwysig yn Llanerchaeron.
Beth yw’r ffioedd, a phryd fydden nhw’n dod i rym?
O 10 Ebrill 2024, byddwn yn codi tâl o £3 y diwrnod ar y rhai nad ydynt yn aelodau.
Caniateir parcio am ddim am hyd at awr (yn cynnwys yn ystod tymor yr haf) ar gyfer y bobl hynny a fydd yn dymuno ymweld â’r ganolfan ymwelwyr, y siop lyfrau, y toiledau a’r caffi, neu fwynhau taith gerdded yn y coetiroedd.
Bydd modd parcio am ddim rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror.
Codir tâl am barcio rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref, rhwng 10:00-17:00.
A fydd rhaid i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dalu’r ffi barcio?
Bydd aelodau’n cael parcio am ddim, fel ym meysydd parcio eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Rydym yn annog aelodau i sganio eu cerdyn yn ein peiriannau talu ac arddangos pan maent yn cyrraedd. Bob tro mae aelod yn sganio ei gerdyn aelodaeth, mae’n rhoi £3.50 yn ôl i Lanerchaeron er mwyn helpu i ofalu am y lle arbennig hwn.
Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn pennu ffioedd parcio?
Caiff ffioedd parcio eu pennu a’u gosod yn lleol gan ein safleoedd, yn seiliedig ar gyd-destun lleol. Rydym yn ystyried ystod o ffactorau wrth benderfynu ar brisiau, gan gynnwys ffioedd parcio eraill yn yr ardal, barn y cymunedau lleol, a chostau cyfleusterau a gwaith cynnal a chadw.
A allaf ymaelodi â’r Ymddiriedolaeth pan wyf yn ymweld â Llanerchaeron?
Gofynnwch i aelod o’n tîm cyfeillgar a fydd yn fodlon eich helpu i ymaelodi.
Mae aelodaeth unigol yn costio £7.60 y mis. Mae bod yn aelod o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn golygu eich bod yn cael mynediad rhad ac am ddim i dros 500 o leoedd, a pharcio am ddim ar draws y rhan fwyaf o’n safleoedd, tanysgrifiad i’n cylchgrawn, llawlyfr a mynediad at ein hardal aelodau ar-lein.
Beth am ddeiliaid bathodyn glas? A fydd rhaid iddyn nhw dalu?
Ni chodir ffi ar ddeiliaid bathodyn glas i barcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, os ydynt yn arddangos prawf adnabod dilys.
Beth am unigolion sy’n cyrraedd ar droed, ar gefn beic neu ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Mae’r ffi barcio’n berthnasol fesul cerbyd. Ni chodir ffi ar unigolion sy’n cyrraedd mewn unrhyw ffordd arall.
Pam ydych chi’n dechrau codi ffi nawr?
Rydym yn elusen, ac yn dibynnu ar yr incwm rydym yn ei dderbyn gan ein hymwelwyr er mwyn ein helpu i ofalu am y lleoedd arbennig dan ein gofal. Bydd codi ffi barcio yn ein galluogi i barhau i gyflwyno cyllid i ofalu am y cyfleusterau a chynnal gwaith cadwraeth pwysig yn Llanerchaeron, fel calchu’r fila Sioraidd ac adfer y tŷ gwydr.
A fydd rhaid i ymwelwyr rheolaidd dalu?
Pan ddaw y ffioedd i rym, bydd ffi barcio £3 y diwrnod ar gyfer unigolion nad ydynt yn aelodau, a bydd hyn yn berthnasol yn ystod y tymor prysuraf yn unig, rhwng 10am-5pm, 1 Mawrth-31 Hydref. Yn ogystal â hynny, ar ôl derbyn adborth y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad.
Os ydych yn ymweld â Llanerchaeron yn rheolaidd, gall ymaelodi fod yn opsiwn cost effeithiol. Mae ein haelodau’n cael parcio am ddim a mynediad at dros 300 o dai a 200 o erddi, sy’n golygu eich bod yn cefnogi ein gwaith yn lleol a ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
A fydd rhaid i bobl dalu os ydynt eisiau defnyddio’r caffi’n unig?
Ar ôl derbyn adborth gan y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad. Ar ôl hynny, bydd angen i unigolion nad ydynt yn aelodau sy’n ymweld â Chaffi Conti ac sy’n parcio yn Llanerchaeron dalu’r ffi barcio.
Rwy’n gwirfoddoli i’r Ymddiriedolaeth, a fydd rhaid i mi dalu?
Mae parcio’n rhad ac am ddim i wirfoddolwyr gweithredol gyda cherdyn gwirfoddoli.
Pa ddulliau talu fyddwch chi’n eu derbyn?
Pan ddaw y ffioedd i rym, gallwch dalu gydag arian parod a cherdyn yn y peiriannau talu ac arddangos pwrpasol.
A fydd angen i mi dalu os wyf yn stopio’n gyflym i ddefnyddio'r toiled neu’r caffi?
Ar ôl derbyn adborth y gymuned, bydd parcio’n parhau i fod am ddim am awr gyntaf pob ymweliad ar gyfer unigolion sydd eisiau defnyddio’r toiledau, y ganolfan groeso, siop neu'r caffi.
A fydd codi ffi barcio yn annog pobl i barcio ar yr ymylon?
Rydym yn gofyn i’r cyhoedd barcio’n gyfrifol, er mwyn cadw’r ffordd yn glir ac yn rhydd rhag rhwystrau. Byddwn yn cysylltu â’r awdurdod lleol er mwyn sicrhau bod yr ymylon a’r ffyrdd yn parhau mor glir â phosibl, er mwyn atal problemau i gymdogion a gwasanaethau.
Rhagor o wybodaeth:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at: llanerchaeron@nationaltrust.org.uk
Gallwch hefyd gadw llygad ar ein newyddion diweddaraf yn: nationaltrust.org.uk/llanerchaeron