Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Castell ffantasi gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol | Fantasy castle with industrial and colonial foundations
Bangor, Gwynedd, LL57 4HT
Asset | Opening time |
---|---|
Castell | Castle | Ar gau |
Ceginau Fictoraidd | Victorian kitchens | Ar gau |
Gardd | Garden | Ar gau |
Siop | Shop | Ar gau |
Caffi | Café | Ar gau |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £9.90 | £9.00 |
Child | £4.95 | £4.50 |
Family | £24.75 | £22.50 |
One adult family | £14.85 | £13.50 |
Castle Café open daily
Stables Café open on weekends and school holidays
Dim ond cŵn cymorth a ganiateir y tu mewn i'r castell. / Only assistance dogs are permitted inside the castle.
Llwybr sy’n codi’n raddol o’r maes parcio tuag at y castell. Parcio Bathodyn Glas. Tai bach hygyrch yn nerbynfa’r ymwelwyr a’r iard.
Tuag at Llandygai ar A5122. Mae arwyddion o gyffordd 11 ar yr A55. Ar gyfer Sat nav defnyddiwch LL57 4HT At Llandygai on A5122. Signposted from junction 11 of A55 and A5. Sat nav please use LL57 4HT
Parcio: free, 500 yards
Bangor - 3 milltir/ miles
Gwasanaethau o Fangor a Caernarfon i Llandudno, mae milltir o gerdded o'r safle bws ar hyd dreif y castell. Services from Bangor and Caernarfon to Llandudno, there is a mile walk from the bus alighting at the castle driveway.
Dewch o hyd i wybodaeth gyffredinol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.
Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am ddod â'ch ci i Gastell Penrhyn
Dysgwch ragor am Gastell Penrhyn gydag amrywiaeth eang o brofiadau dysgu a gweithgareddau i grwpiau addysgol o bob oed. Camwch yn ôl trwy hanes a dod o hyd i wrthrychau i ennyn diddordeb.
Cymerwch olwg ar y map o Gastell Penrhyn a'r ardd i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Castell neo-Normanaidd enfawr a adeiladwyd rhwng 1820 a 1837 gydag ystafelloedd wedi’u haddurno’n foethus i ddyluniad Thomas Hopper.
Gardd Furiog gyda ffynhonnau a phlanhigion mewn strwythur sy’n cyn-ddyddio’r Castell, a Gardd Gorsiog jynglaidd a ddominyddir gan Reonllys Mawr.
Mae 60 erw o erddi a choetir yn amgylchynu’r Castell, gyda golygfeydd o gopaon Eryri yn ogystal â Phen y Gogarth ac Ynys Seiriol.
Cuddfan bren gyda golygfeydd ar draws afon Ogwen ac Ardal Chwarae Coetir Naturiol.
Mae’r Ceginau Fictoraidd yn cynnwys y Gegin, y Gegin Gefn a’r Cwpwrdd Crwst yn ogystal â rhai o ystafelloedd y staff.
Mae Caffi’r Castell a Chaffi’r Stablau’n cynnig amrywiaeth o fwyd a diod poeth ac oer.
Mae Siop y Castell yn cynnig rhoddion hyfryd a chynnyrch lleol.
Darganfyddwch amrywiaeth o lyfrau ail-law ym mloc y Stablau.
Parcdir Castell Penrhyn yw eich parc chwarae chi. Trefnwch eich ymweliad teuluol nesaf chi.
Mae darlun yn dweud cyfrolau... neu ydy o? Dysgwch fwy am ein arddangosfa yn y Neuadd Fawr sydd wedi ei greu gan ein cymuned leol.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Mae'r llwybr yma yn mynd a chi o gwmpas tir y castell ac mae'n hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio.
Os ydych yn dychwelyd at ffitrwydd ar ôl seibiant, neu am roi cynnig ar rywbeth newydd, dysgwch ragor am Parkrun 5K yng Nghastell Penrhyn.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.
A cosy stone built cottage in the heart of Eryri (Snowdonia), in the shadow of Tryfan, perfect for adventurers and walkers.
A quirky, period cottage on the Plas Newydd Estate. Spot red squirrels in the nearby woodland and wander the grounds after visitors have gone home.
This converted Welsh hall house is full of historical features and wrapped in a mature and much-loved garden. Follow the path from the sheltered courtyard to the estuary and on to Conwy.
Ymunwch a ni hanner tymor Chwefror am hwyl tu fewn ac allan i chi a'r teulu. Join us this February half term for some fun activities for you and the family.
Mae ffasâd carreg ddominyddol Castell Penrhyn yn cuddio mwy na dim ond y brics coch. Mae’r bensaernïaeth unigryw, yr ystafelloedd moethus a’r casgliad celf gain yn cyd-fynd â hanes o gyfoeth siwgr a llechi, aflonyddwch cymdeithasol a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Roedd y teulu Pennant yn berchen ar Castell Penrhyn, ac mae’n enghraifft allweddol o sut siapiodd cyfoeth oedd wedi gwreiddio mewn caethwasiaeth amgylchedd Cymru ac yn tanseilio hanes gweithiol lleol. Roedd Richard Pennant yn wrth-ddiddymwr cryf, a gwnaeth ei gyfoeth ar blanhigfeydd yn Jamaica lle oedd caethweision yn llafurio. Buddsoddodd yr arian mewn lonydd, rheilffyrdd, ysgolion, gwestai, tai gweithwyr, eglwysi a ffermydd yng Ngogledd Cymru. Bu Chwarel Llechi Penrhyn a Phorth Penrhyn, wedi eu sefydlu gan y teulu Pennant, yn dominyddu’r diwydiant llechi Cymreig am bron i 150 o flynyddoedd. Mae ystafelloedd mawr, pensaernïaeth neo-Normanaidd a dodrefn moethus Castell Penrhyn wedi eu trwytho yn yr hanes trefedigaethol yma. Yn gwynebu’r Fenai a gyda chefndir Eryri, mae gan Gastell Penrhyn olygfeydd o’i chwarel, ac o’r porthdy lle cafodd llechi eu hallforio i weddill y byd. Mae wedi ei amgylchynu gan ardaloedd coediog yn berffaith ar gyfer antur, ac mae gardd furiog sy’n hyn na’r castell sy’n berffaith ar gyfer ymlacio.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.
Mae darlun yn dweud cyfrolau... neu ydy o? Dysgwch fwy am ein arddangosfa yn y Neuadd Fawr sydd wedi ei greu gan ein cymuned leol.
Edrychwch yn ôl ar 'Beth yn y Byd!', arddangosfa oedd yn cymryd golwg creadigol ar rhai o eitemau o fewn ein casgliadau sy'n cysylltu'r castell hefo ei hanes trefedigaethol.
Dysgwch sut y mae Castell Penrhyn wedi gweithio gydag artistiaid a chymunedau lleol ers y Prosiect Artistiaid Preswyl yn 2015, i rannu’r hanesion cudd.
Dysgwch sut y gwnaeth Castell Penrhyn ddweud ffarwel wrth wresogi trwy losgi olew a newid i ddefnyddio biomas, gan leihau ei ôl troed carbon a chostau am flynyddoedd i ddod.
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o dîm Castell Penrhyn. Maent yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ac yn croesawu ymwelwyr i’r castell bob dydd. Os ydych chi’n berson brwdfrydig ac ymroddedig pam ddim ymuno hefo’r tîm arbennig?
Mae Castell Penrhyn a’r Ardd yn gweithio i ddatblygu profiad newydd yn yr Hen Stablau i rannu storïau hanes diwydiannol Penrhyn, ac i roi lle blaenllaw i eitemau yn y casgliad na chawsant eu rhannu o’r blaen.
O'r Atlantig i Gefnfor India, mae tri safle yn dod at ei gilydd i wrthsefyll newid arfordirol a rhannu profiadau trwy brosiect gefeillio unigryw gan Sefydliad Rhyngwladol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.