Skip to content

Ymweld â Chastell Penrhyn gyda’ch ci

Dog with its owner
Ewch a'ch ci am dro yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/James Dobson

Mae croeso i gŵn yng Nghastell Penrhyn trwy gydol y flwyddyn ac mae yna deithiau cerdded a golygfeydd hyfryd i'w gwerthfawrogi tra byddwch chi yma. Helpwch gadw Castell Penrhyn yn bleserus i bawb drwy gadw eich ci ar dennyn byr, glanhau ar ei ôl a dilyn y canllawiau isod.

Ein system sgorio pawennau

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n haws i chi wybod pa mor groesawgar fydd eich ymweliad i chi a’ch ci cyn i chi gyrraedd. I helpu gyda hyn, rydym wedi creu system sgorio pawennau newydd, a rhoi sgôr i’n holl leoliadau. Gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn llyfryn aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae gan Gastell Penrhyn sgôr o ddwy bawen.

Mae gan y lleoedd hyn bowlenni dŵr, biniau cŵn a llwybrau cerdded sy'n croesawu cŵn. Gallwch fynd â'ch ci i rai ardaloedd, ond nid i bobman. Os oes man gwerthu bwyd a diod, gallwch chi gael paned o de gyda nhw, mae'n debyg y tu allan. Darllenwch ymlaen i ddarganfod yn union ble gallwch chi fynd â'ch ci.

Ble alla i fynd â fy nghi yng Nghastell Penrhyn?

Mae croeso i gŵn ar draws ardd a thiroedd Castell Penrhyn. Gallwch hefyd fynd â nhw i dderbynfa'r ymwelwyr a Chaffi'r Stablau a Chaffi'r Castell. Dim ond cŵn cymorth a ganiateir y tu mewn i'r castell.

Ewch ar hyd ein Llwybr Natur o amgylch y tiroedd neu ewch am dro i lawr at Afon Ogwen i ddarganfod Cwt Ogwen. I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch ag aelod o’r tîm croeso ymwelwyr.

Pa gyfleusterau sydd ar gael i gŵn?

Mae bowlenni dŵr yn y ganolfan groeso, ger y Ceginau Fictoraidd ac wrth ymyl Caffi'r Stablau.

Cod Cŵn 

Rydym wedi gweithio gyda’n partner Forthglade i lunio’r cod cŵn hwn, sy’n helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau eu diwrnod:

  • Tynhewch y tennyn: gallwch helpu i leihau’r siawns y bydd eich ci yn tarfu ar adar sy’n nythu ar y ddaear ac anifeiliaid fferm drwy ei gadw ar dennyn byr. Mae’n hanfodol defnyddio tennyn byr o gwmpas defaid. Ond os bydd gwartheg yn dod atoch chi, y peth gorau i’w wneud yw gadael eich ci oddi ar y tennyn, a’i alw’n ôl atoch chi pan mae’n ddiogel i wneud hynny.
  • Codi’r baw: glanhewch ar ôl eich ci bob tro. Os nad ydych chi’n gallu dod o hyd i fin gerllaw, ewch â’r bagiau baw adref gyda chi.
  • Troediwch yn ofalus: cadwch olwg ar arwyddion a hysbysiadau lleol ble bynnag fyddwch chi’n cerdded. Byddant yn rhoi gwybod i chi os yw cŵn wedi’u gwahardd o draeth, er enghraifft, neu os yw llwybr wedi’i wyro, neu os ydych chi mewn ardal lle gall cŵn redeg yn rhydd.
  • Cadw’ch llygad ar y bêl: cofiwch nad yw pawb yn caru cŵn, ac mae rhai pobl yn eu hofni. Felly gwnewch yn siŵr nad yw eich ci yn rhedeg i fyny at bobl eraill, yn enwedig plant.

Cadwch eich ci dan reolaeth  

Mae ein diffiniad o reolaeth agos neu effeithiol fel a ganlyn:

  • Y gallu i alw eich ci atoch mewn unrhyw sefyllfa, ar yr alwad gyntaf.
  • Gallu gweld eich ci yn glir bob amser (nid yw gwybod ei fod wedi diflannu i mewn i’r llystyfiant neu dros y bryn yn ddigon). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu ei gadw ar lwybr cerdded os yw’r llystyfiant o’ch cwmpas yn rhy drwchus i allu gweld eich ci.
  • Peidio â gadael iddo fynd at ymwelwyr eraill heb eu caniatâd.
  • Cael tennyn i’w ddefnyddio os byddwch yn dod ar draws da byw, bywyd gwyllt neu os gofynnir i chi ddefnyddio un.
Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Ein partneriaid

Forthglade

Rydym wedi ffurfio partneriaeth â’r gwneuthurwr bwyd anifeiliaid anwes naturiol, Forthglade fel y gallwch chi a’ch ci gael mwy fyth allan o’r lleoedd arbennig sydd dan ein gofal.

Ymweld â'r wefan 

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Ymwelwyr yn archwilio’r parc yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Gate from Walled Garden in winter at Penrhyn Castle
Llwybr
Llwybr

Taith darganfod natur Castell Penrhyn 

Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.

Gweithgareddau
Cerdded
PellterMilltiroedd: 1 (km: 1.6)
A visitor with their dog leaving the Muddy Paws café at Lyme Park, Cheshire
Erthygl
Erthygl

Ymweld â lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda’ch ci 

Os ydych chi’n dod â’ch ci i’r llefydd rydym yn gofalu amdanynt, darllenwch y Cod Cŵn a dysgwch am y System Sgorio Pawennau i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. (Saesneg yn unig)