
Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell. Cewch fwynhau’r lle naturiol a darganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cyfanswm y camau: 11
Cyfanswm y camau: 11
Man cychwyn
Maes parcio Castell Penrhyn, cyfeirnod grid: SH603717
Cam 1
Gadewch y maes parcio ac anelu trwy glwstwr o goed derw aeddfed a rhannol aeddfed. Yn y gwanwyn byddwch yn cerdded trwy fôr o flodau yn ffrwydro trwy’r glaswellt.
Cam 2
Dilynwch y llwybr glaswellt wrth iddo fynd o amgylch coetir cymysg bach a elwir yn Lwyn Pisgwydd.
Cam 3
Croeswch ar hyd y llwybr wedi ei dorri. Gyda rhywogaethau gwych o goed a llwyni, gelwir y fan hon yn Broadwalk.
Cam 4
Cerddwch i lawr y Llethr Grug i’r Glyn. Mae’r Llethr Grug yn wynebu’r de-orllewin a’r gwynt sy’n taro amlaf ac mae nifer o goed derw a ffawydd wedi eu cwympo gan stormydd yma.

Cam 5
Croeswch yr Hen Ffordd sef y fynedfa wreiddiol i’r Castell. Byddai’n fynedfa grand i ymwelwyr â’r castell.
Cam 6
Dilynwch y llwybr i’r Ardd Gorsiog – lle rhyfeddol o blanhigion egsotig sy’n hoff o ddŵr fel gunnera a chynffon y gath. Bydd y llwybr yn eich arwain heibio strwythur belvedere pren at lwybr estyllod pren. Dringwch y grisiau i’r Wal Furiog. Os oes gennych gi hefo chi, osgowch yr Ardd Furiog trwy anelu’n ôl at yr Hen Ffordd a throi i’r chwith ar hyd y gwrych ywen. Bydd hyn yn eich arwain at y llwybr allan o’r Wal Furiog.
Cam 7
Crwydrwch o gwmpas llwybrau’r ardd nes byddwch chi’n barod i adael. Ewch allan trwy’r drws gyferbyn â’r un y daethoch i mewn trwyddo.
Cam 8
Trowch i’r chwith ar y llwybr graean a mynd trwy’r Rhodfa Rhododendron. Yn y gwanwyn a’r haf cynnar mae’r rhododendron a’r asaleas yn fôr o liw ac aroglau.

Cam 9
Daliwch i fynd ar y llwybr at y stabl o frics ac yna troi i’r dde i fyny’r llethr tuag at adfeilion y capel.
Cam 10
Dilynwch y llwybr ar y chwith dan goed yw a rhwng y stabl a’r ardal barcio i’r anabl. Wrth gornel y castell, dilynwch lwybr glaswellt llydan at y ffens derfyn a Phant y Llwynog.
Cam 11
Mae’r llwybr yn dilyn y ffens trwy’r Meysydd Elysaidd. Bydd y llwybr yn eich arwain yn ôl i’r maes parcio lle gwnaethoch gychwyn eich taith.
Man gorffen
Maes parcio Castell Penrhyn, cyfeirnod grid: SH603717
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Castell Penrhyn a'r Ardd
Castell ffantasi gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol | Fantasy castle with industrial and colonial foundations

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Taith hawdd ym Mhlas Newydd
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.

Taith Cwm Idwal
Dilynwch daith Cwm Idwal trwy rai o’r golygfeydd mwyaf dramatig yn y Deyrnas Unedig. Taith 3 milltir gyda llyn chwedlonol ym mynyddoedd y Glyderau yng Ngogledd Eryri.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.

Ymweld â’r ardd yng Nghastell Penrhyn
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Cadw’n ddiogel yn lleoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae ambell risg yn dod law yn llaw ag ymweld â’r llefydd arbennig y mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gofalu amdanynt, boed ar yr arfordir neu yng nghefn gwlad. Dysgwch sut i gadw’n ddiogel drwy gydol eich ymweliad.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)