
Taith hawdd ym Mhlas Newydd
Mae’r daith fer hon o gwmpas tir Plas Newydd yn ddelfrydol i bob oed. Gall oedolion fwynhau cefnlen Eryri ac Afon Menai, tra bydd digon ar hyd y ffordd i gadw plant yn hapus, gan gynnwys y tŷ yn y coed a’r maes chwarae antur.
Cyfanswm y camau: 9
Cyfanswm y camau: 9
Man cychwyn
Plas Newydd, cyfeirnod grid: SH521696
Cam 1
Cychwynnwch eich taith oddi wrth y dderbynfa a dilyn y llwybr sy’n eich arwain at y tŷ.
Cam 2
Wrth i chi ddilyn y llwybr, arhoswch wrth y pafiliwn criced ac edrych draw am yr hen stabl sydd yn awr yn cael ei redeg gan Ganolfan Conwy.
Cam 3
Dilynwch y llwybr ac wrth i chi fynd rownd y gornel, arhoswch am y golygfeydd trawiadol o Afon Menai a’r tŷ. Yn ystod oriau agor y gaeaf, trowch i’r dde a mynd ymlaen i lawr ffordd y doc (gan ailymuno â’r llwybr wrth bwynt 5).
Cam 4
Ewch ymlaen i lawr y llwybr, ac yna ar ôl cyrraedd y cwrt, dilyn y llwybr ar hyd ymyl y lawnt croquet, i’r dde.
Cam 5
Dilynwch y llwybr tarmac sy’n mynd i lawr i’r chwith, yna dilynwch y llwybr cyntaf ar y dde, cyn i chi gyrraedd y doc.
Cam 6
Ewch ymlaen ar hyd y llwybr tarmac. Os ydych chi am orffwys ychydig yma, mae mainc ar y chwith sy’n cynnig golygfeydd rhagorol. Neu efallai y byddech chi’n hoffi gweld y Glyn Camelia ar y dde i chi.
Cam 7
Dewch yn ôl ar y llwybr a mynd ymlaen, yna ewch i fyny’r rhiw oddi ar y llwybr ac ar y glaswellt a chwilio am fwlch yn y coed. Pwy fydd y cyntaf i weld un o’r coed hynaf ym Mhlas Newydd? Mae hwn yn lle braf i orffwyso. Daliwch i fynd i fyny’r rhiw nes cyrhaeddwch chi’r llwybr tarmac.
Cam 8
Yn awr mae’n bryd i chi archwilio’r ardal yr oedd plant y Marcwis yn ei alw yn ‘India’r Gorllewin’. Allwch chi feddwl pam eu bod wedi rhoi’r enw hwnnw? Crwydrwch trwy’r ardal laswelltog a chwilio am y tŷ pren newydd.
Cam 9
Anelwch yn ôl ar yr ardal laswelltog tuag at y pafiliwn criced, lle byddwch chi’n gallu mwynhau’r maes chwarae antur yn y coed ar y chwith. Yna dilynwch y llwybr yn ôl heibio’r pafiliwn at y tŷ, lle gallwch chi fwynhau paned ar ôl y daith yng Nghaffi’r Hen Laethdy.
Man gorffen
Plas Newydd, cyfeirnod grid: SH521696
Map llwybr

Mwy yn agos i’r man hwn

Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.

Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.

Taith cilfachau cudd Plas Newydd
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.

Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cysylltwch
Ein partneriaid

Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci
Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.

Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)

Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.