Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Taith gymedrol lle byddwch yn gweld coetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol. Mwynhewch olygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri. Os byddwch yn lwcus efallai y byddwch yn cael cip ar forlo yn Afon Menai.
Cyfanswm y camau: 11
Cyfanswm y camau: 11
Man cychwyn
Ardal bicnic yng Nghlan Faenol, cyfeirnod grid: SH532698
Cam 1
Anelwch at waelod yr ardal bicnic a thrwy’r giât mochyn, ewch yn syth ymlaen i lawr y cae (gyda chŵn ar dennyn) tuag at Afon Menai.
Cam 2
Wrth nesu at gyrion y cae fe welwch Wal y Faenol. Ewch trwy’r giât i’r coetir.
Cam 3
Dilynwch y llwybr trwy’r coed a mwynhau lliwiau coetir Glan Faenol. Gadewch y coetir trwy giât fechan arall.
Cam 4
Trowch eich cefn ar yr Afon a cherdded i fyny’r cae am 50 llath (45m) neu at bont a giât mochyn ar y dde i chi. Ewch trwy’r giât a mynd i mewn i Goed y Tŷ Cwch.
Cam 5
Dilynwch y llwybr trwy’r coed. Yn y pen draw byddwch yn croesi pont arall ac yna byddwch yn cyrraedd trac. Gallwch dorri’r daith yn fyr yma trwy droi i’ch chwith a dilyn y trac nes cyrhaeddwch chi giatiau gwyrdd. Ewch trwy’r giatiau (sy’n dyddio’n ôl i’r amser pan oedd gan yr ystâd gasgliad o anifeiliaid egsotig a cheirw i’w hela). Dilynwch y rhodfa rhwng y coed at giât arall, yma gallwch droi i’r chwith a dychwelyd i’r maes parcio.
Cam 6
Croeswch y trac a dal i fynd i ardal arall wahanol o goetir. Ar ôl dringo grisiau ewch trwy’r giât mochyn i gae.
Cam 7
Gan gadw cŵn ar dennyn, cerddwch i fyny’r cae, gan ddilyn y ffens ar y chwith i chi.
Cam 8
Ym mhen uchaf y cae ewch i mewn i Goetir Cefn Gwyn trwy giât mochyn arall. Dilynwch y llwybr heibio’r coed derw, ynn a masarn aeddfed nes y cyrhaeddwch chi giât mochyn arall.
Cam 9
Trwy’r giât hon dilynwch y ffens ar draws pen uchaf y cae at giât mochyn arall. Ewch trwy’r giât yma a throi i’r chwith a cherdded groesgornel ar draws y cae at y giât dan y coed.
Cam 10
Fe welwch chi giât dairongl: giât yw hon sydd wedi ei dylunio i adael defaid i mewn ond i rwystro gwartheg rhag dod i’r llwybr. Ewch trwy’r giât hon a dilyn y llwybr nes cyrhaeddwch chi giât mochyn.
Cam 11
Ewch trwy’r giât olaf yma a throi i’r chwith i gael gorffwys yn haeddiannol yn yr ardal bicnic.
Man gorffen
Ardal bicnic yng Nghlan Faenol, cyfeirnod grid: SH532698
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.
Taith cilfachau cudd Plas Newydd
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.
Taith hawdd ym Mhlas Newydd
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.
Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.