Taith cilfachau cudd Plas Newydd
Mwynhewch olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri wrth gerdded o gwmpas tiroedd hardd Plas Newydd.
Cyfanswm y camau: 8
Cyfanswm y camau: 8
Man cychwyn
Plas Newydd, grid ref: SH521696.
Cam 1
Cychwynnwch eich taith oddi wrth y dderbynfa ym Mhlas Newydd a dilyn y llwybr sy’n eich arwain at y tŷ. Pan ewch chi rownd y gornel ar ôl y gysgodfan bren, mae’r llwybr yn agor i olygfeydd gwych o’r tŷ, y Faenol ac Eryri.
Cam 2
Ar ôl cyrraedd y tŷ, dilynwch y llwybr sy’n mynd o gwmpas tu blaen yr adeilad, a cherdded ar hyd rhan uchaf y lawnt. Chwiliwch am Dŵr Marcwis, y byddwch yn ei weld yn y pellter. Byddwch yn mynd heibio’r ardd derasau ar y chwith. Adfywiodd y Marcwis presennol yr ardd Eidalaidd ffurfiol a grëwyd gan ei dad yn yr 1920au. Er mwyn gweld gogoniant yr ardd derasau, ewch i ben y grisiau.
Cam 3
Gyferbyn â’r ardd derasau, cymrwch y llwybr sydd ar y dde i chi. Bydd hwn yn eich arwain i lawr y llwybr sy’n mynd heibio’r canonau a dderbyniodd Arglwydd ac Arglwyddes Môn fel anrheg priodas. Byddwch yn ofalus yma, mae disgyniad serth o wal y môr.
Cam 4
Ewch ymlaen nes byddwch chi’n cyrraedd fforch yn y llwybr. Arhoswch ar ochr dde’r llwybr, sy’n dringo ychydig.
Cam 5
Dilynwch y llwybr ar yr ochr chwith a mynd yn eich blaen. Wrth i chi ddilyn y llwybr hwn mae meinciau lle gallwch chi eistedd a mwynhau’r golygfeydd ar draws at y Faenol a thynnu lluniau trawiadol. Edrychwch i’r dde tuag at y Cylch Camelia, oedd yn chwarel ar un adeg.
Cam 6
Pan ddewch chi i ardal o goetir, Coed Banc yr Eglwys, cerddwch yn syth ymlaen ac yn y pen draw byddwch yn cyrraedd y guddfan adar. Daliwch i fynd i’r dde ar hyd y llwybr, sy’n mynd â chi ar i fyny ar risiau coetir naturiol. Ar ben y bryn mae mainc y gallwch chi weld Eglwys Llanedwen ohoni. Roedd y Marcwis a’i deulu’n defnyddio’r eglwys hon yn gyson.
Cam 7
Dilynwch y llwybr i ddod o hyd i’r guddfan wiwerod ar y dde. Mae Plas Newydd yn gartref i lawer o wiwerod coch, ar ôl prosiect cadwraeth yn 2008. Daethpwyd â chwe gwiwer goch i Blas Newydd a’u cadw mewn rhan gaeedig o’r goedwig am ychydig wythnosau. Yna fe gawson nhw eu rhyddhau i’r coed collddail. Fe wnaethon nhw fagu’n llwyddiannus ac maen nhw bellach i’w gweld drwy’r ystâd ac mae rhai wedi croesi Afon Menai hyd yn oed.
Cam 8
Dilynwch y llwybr sy’n mynd â chi nôl at y dderbynfa. Mi fyddwch chi’n haeddu paned a chacen flasus yma ar ôl eich taith yn Gaffi'r Hen Laethdy.
Man gorffen
Plas Newydd, cyfeirnod grid: SH521696
Map llwybr
Mwy yn agos i’r man hwn
Plas Newydd a’r Ardd
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.
Taith bywyd gwyllt a choetir Glan Faenol
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.
Taith hawdd ym Mhlas Newydd
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.
Taith darganfod natur Castell Penrhyn
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.
Cysylltwch
Ein partneriaid
Rydym wedi ymrwymo i bartneriaeth â Cotswold Outdoor i helpu pawb i wneud y gorau o'u hamser yn yr awyr agored yn y llefydd rydym yn gofalu amdanynt.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cerdded yng Nghymru
Darganfyddwch dirweddau agored ysgubol, llwybrau arfordirol mwy hamddenol neu heiciau egnïol heriol. Rydym wedi creu rhestr o rai o’r llefydd gorau i gerdded yng Nghymru.
Teithiau cerdded arfordirol yng Nghymru
Darganfyddwch lwybrau cerdded gorau arfordir Cymru, gan fwynhau penrhynoedd prydferth, pentrefi cain, henebion cynhanesyddol a bywyd gwyllt godidog.
Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Cerdded
Dewch i archwilio rhai o dirweddau harddaf y genedl ar lwybrau unig, traciau rhwydd a theithiau hygyrch. (Saesneg yn unig)
Cotswold Outdoor: Ein partner cerdded
Dysgwch fwy am bartneriaeth barhaus yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gyda Cotswold Outdoor fel ein partner cerdded.
Dilynwch y cod cefn gwlad
Helpwch ni i ofalu am leoliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol drwy gadw at rai canllawiau syml yn ystod eich ymweliad a dilyn y Cod Cefn Gwlad.