Skip to content

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd

Teulu yn mwynhau'r Terasau yng ngardd Plas Newydd
Teulu yn mwynhau'r Terasau yng ngardd Plas Newydd | © National Trust Images / Paul Harris

Mae’r dirwedd restredig Gradd-1 ym Mhlas Newydd yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir.

Uchafbwyntiau'r gaeaf ym Mhlas Newydd

Yr ardd yn ystod y gaeaf yw pan fydd y golygfeydd ar eu gorau. Mae'r dyddiau oer, eira ar y mynyddoedd, a'r haul yn isel ar y Fenai yn gyfuniad syfrdanol. Efallai mai dyma’r amser gorau hefyd i werthfawrogi y casgliad gwych o goed yn yr ardd, o binwydd mawreddog i foncyffion arian ffawydd ac ewcalyptws.

Ar Lon y Doc ar y ffordd i’r plasty, mae blodau pinc persawrus Gwifwrn x bodnant, yn blodeuo fel bydd y rhew yn cyrraedd, a blodau melyn llachar cain ond caled gwaglwyf, yn ymddangos yn anhydraidd i'r oerfel.

Cwpl yn cerdded yn yr ardd ym Mhlas Newydd gyda mynyddoedd yn y cefndir
Crwydro’r ardd ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/James Dobson

Natur yn y Gaeaf

Mae’n werth cadw llygad hefyd am adar mudol, fel adar eira a'r adain goch, yn gwledda ar aeron yw a chreigafal drwy’r ardd, yn ogystal â’r aderyn du'n swatio yn ffrwythau'r goeden Davidia involuctra, neu'r 'handkerchief tree', ym mhen draw yn Ynysyoedd y Caribi.

Yn y gaeaf fe welwch chi liwiau cyfnewidiol ym Mhlas Newydd wrth i chi gerdded drwy’r ardd gan archwilio gwahanol lwybrau. Ar eich antur mwynhewch olygfeydd godidog ar draws y Fenai tuag at fynyddoedd Eryri ac edrychwch am fywyd gwyllt arbennig iawn.

Dau berson yn cerdded drwy’r ardd hydrefol tuag at y tŷ ym Mhlas Newydd, Ynys Môn
Cerdded drwy’r ardd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn | © National Trust Images/James Dobson

Blodau'r gaeaf

Ar Lon y Doc fe welwch lwyni blodeuol y gaeaf fel Hamamelis (gwaglwyf) yn blodeuo mewn clystyrau melyn tlws, a blodau pinc persawrus cryf y Gwifwrn x bodnant. Yn y cyfamser mae'r cóniffer yn edrych yn hardd yn y gaeaf, yn enwedig y chedr Japan gyda'i ddail efydd a choch o dan y terasau.

Bywyd gwyllt yn y gaeaf

Cewch weld gwiwerod coch drwy ymweld â chuddfan gwiwerod yng Nghoed yr Eglwys. Nid yw gwiwerod yn gaeafgysgu a gyda llai o ddail ar y coed, mae’r gaeaf yn amser gwych i weld y creaduriaid swil hyn.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun agos o gi yn anadlu’n drwm ac yn cael ei anwesu gan ei berchnogion, a dynnwyd yn yr ardd yn Hanbury Hall and Gardens, Swydd Gaerwrangon
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Phlas Newydd efo'ch ci 

Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.

4 hot chocolates on a table in winter
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa ym Mhlas Newydd 

Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.

Wiwer goch ar gangen yn bwyta rhywbeth â rhedyn gwyrdd tu ôl iddi, ar Ynys Brownsea, Poole, Dorset
Erthygl
Erthygl

Gwiwerod coch Plas Newydd 

A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.

A grey mansion covered in red boston ivy leaves
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.