Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Gyda golygfeydd ar draws Afon Menai at fynyddoedd Eryri, mae’n hawdd gweld pam bod tŷ wedi sefyll yn y fan hon ers dechrau’r 16eg ganrif. Heddiw, gallwch ddarganfod celfyddyd, hanes milwrol a’r dyluniadau mewnol a wnaeth droi Plas Newydd i'r Tŷ sy'n gwelwch chi'n rŵan. Gallwch ddarganfod murlun Whistler yn yr Ystafell Fwyta, neu’r goes bren gymalog gyntaf, a ddyluniwyd gan yr Ardalydd Môn 1af yn yr Amgueddfa Filwrol.
Mae’r tŷ ei hun wedi newid dros y blynyddoedd, o’r tŷ Tuduraidd gwreiddiol, i’r newidiadau a wnaed gan y pensaer ffasiynol James Wyatt yn 1793-9 a’r gwaith moderneiddio yn ystod yr 1930au pan benderfynodd teulu’r 6ed Ardalydd wneud Plas Newydd yn brif gartref iddynt.
Adeiladwyd yr ystafell yma ynghyd â’r Ystafell Gerdd yn 1797. Dyma brif fynedfa’r tŷ bellach, er na chafwyd ond un drws ffrynt erioed. Cafodd y dyluniad ei ysbrydoli gan bensaernïaeth ganoloesol, ond gyda mynedfeydd bwaog meddalach ac addurniadau mwy crwn. Yn 1913 cafodd y ddwy ystafell eu gorchuddio â’r paent gweadog i greu effaith garreg.
Mae’r stydi yn ystafell gartrefol a chysurus ac fe'i cadwyd fel yr oedd pan fu farw'r 7fed Ardalydd yn 2013. Wrth iddo weithio yma, byddai’r ystafell yn cael ei llenwi â cherddoriaeth glasurol a fyddai’n treiddio i’r ystafelloedd drws nesaf, gan atseinio drwy’r plasty i gyd.
Mae’r ystafell yma ar safle’r ‘Neuadd Fawr’ a oedd yn rhan o’r adeilad gwreiddiol ar y safle tua 1470. Ar ddiwedd y 1790au cafodd uchder yr ystafell ei ddyblu gan osod nenfwd plastr cromennog. Byth ers hynny, mae’r ystafell wedi cael ei defnyddio fel neuadd wledda ac ystafell eistedd, ac i dderbyn nifer fawr o westeion. Gyda llawr pren sbring, mae’n berffaith ar gyfer cerddoriaeth a dawnsio.
Yr ystafell yma oedd un o brif ystafelloedd eistedd y plasty ers iddo gael ei adeiladu yn 1791. Dyma un o’r llefydd gorau i fwynhau’r tirlun o’r tu mewn i’r plasty. Mae’r addurniadau diweddaraf yn dyddio o’r 1930au. Mae’r dodrefn o flaen y lle tân yn dangos sut roedd y teulu’n defnyddio’r ystafell.
Cafodd yr ystafell yma ei gwneud yn Ystafell Fwyta yn y 1930au. Cyn hynny roedd tair o ystafelloedd y gweision wedi’u lleoli yma. I lenwi’r gofod newydd, cyflogwyd yr arlunydd Rex Whistler i baentio’r tirlun 58 troedfedd ffantasïol. Roedd y murlun i fod yn destun sgwrs, ac yn cynnwys cyfeiriadau a oedd yn berthnasol i’r teulu ac i’r arlunydd ei hun.
Yn yr Amgueddfa Filwrol, sydd mewn nifer o'r hen "swyddfeydd domestig", mae’r Arddangosfa Filwrol yn arddangosfa o eitemau a lluniau'r Ardalydd 1af a'i ran ym Mrwydr Waterloo. Cafodd yr arddangosfa hon ei churadu gan y diweddar 7fed Ardalydd ac yma y gwelwch goes enwog yr Ardalydd 1af.
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.