Casgliadau Tŷ a Gardd Plas Newydd
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Plas Newydd, Ynys Môn, yn gartref i un o’r murluniau mwyaf a mwyaf adnabyddus yn y Deyrnas Unedig, wedi ei beintio gan yr arlunydd Rex Whistler. Dyluniwyd y murlun uchelgeisiol a dychmygol hwn, sydd dros 17.5 metr o hyd, fel golygfa ddychmygol o ffenestri Plas Newydd yng Nghymru.
Creodd Rex Whistler ei furlun cyntaf trwy gomisiwn tra’r oedd yn dal yn fyfyriwr yn Ysgol Gelf Slade yn Llundain. Ar ôl i’r murlun gael ei ddatguddio yn oriel gelf enwog y Tate Britain yn 1927, daeth yn boblogaidd iawn. Ymwelodd Whistler â Phlas Newydd am y tro cyntaf yn ystod y Pasg yn 1936, a chytunwyd ar y comisiwn y mis Ebrill hwnnw.
Erbyn Gorffennaf y flwyddyn honno, creodd Rex ddyfrlliw llai, manwl o’r cyfansoddiad cyfan i gynllunio’r murlun. Credir mai syniad yr Arglwyddes Marjorie, gwraig y 6ed Ardalydd oedd y comisiwn.
Roedd Rex Whistler yn feistr ar gyfansoddiadau cymhleth a allai dwyllo’r llygad. Mae’r dirwedd ffansïol Ewropeaidd hon yn ein hannog i feddwl ein bod yn sefyll ar lan y môr ar bromenâd wedi ei balmantu gan edrych ar gei carreg. Yn y pellter mae tref arfordirol sy’n cynnwys pensaernïaeth Rufeinig, ynghyd ag adeiladau Prydeinig y gellir eu hadnabod, gyda mynyddoedd Eryri yn gefndir.
Yr olygfa chwareus hon oedd un o brif weithiau Whistler, ac fe wnaeth hyd yn oed gynnwys portread ohono ei hun fel garddwr ag ysgub yn ei law.
Yn ogystal â bod yn artist dan gomisiwn yn ystod ei amser ym Mhlas Newydd, roedd hefyd yn westai a groesawyd yn fawr gan deulu’r 6ed Ardalydd.
Roedd ystafell Whistler ym Mhlas Newydd yn arfer bod yn ystafell fwyta weithredol - a dweud y gwir, roedd unwaith yn gyfres o ystafelloedd llai a gyfunwyd i greu un ystafell fwy. Heblaw golygfa wych ar draws Afon Menai, nid oedd dim i’w gwneud yn arbennig, heb sôn am fod yn destun siarad. Daeth wal yr ystafell fwyta yn fyw gyda’r olygfa fawr wedi ei phaentio sy’n 17.5 metr o hyd.
Roedd Rex Whistler yn bwriadu dychwelyd i Blas Newydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd i gwblhau rhai o’r manylion oedd heb eu gorffen ar y murlun. Y trychineb oedd iddo gael ei ladd ar ei ddiwrnod cyntaf yn y lluoedd arfog yn Ffrainc ar 18 Gorffennaf 1944.
Heddiw gallwch ymweld â murlun Whistler fel rhan o’ch ymweliad â’r tŷ. Mae’r tŷ ar gau yn ystod y gaeaf.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.