Casgliadau Tŷ a Gardd Plas Newydd
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae gan Blasty a Gardd Plas Newydd lu o storïau i’w hadrodd. Dysgwch am hanes cynnar Williams Paget, Ysgrifennydd Gwladol Harri’r VIII, a dewrder Ardalydd Cyntaf Môn a gollodd ei goes ym Mrwydr Waterloo. Dysgwch am y 5ed Ardalydd a’i fywyd bras a arweiniodd at yr arwerthiant 40 diwrnod a’r 6ed Ardalydd a wnaeth Blas Newydd yn gartref teuluol.
Mae hanes teulu Plas Newydd yn dechrau gyda William Paget a aned tua 1505. Roedd yn Ysgrifennydd Gwladol i Harri VIII. Adeiladodd ei brif gartref teuluol yn Beaudesert, yn agos i Cannock Chase yn Swydd Stafford, ac fe roddwyd teitl Barwn 1af Beaudesert iddo.
Ganed Henry William Paget yn 1768, yn ail blentyn i Henry Bayly Paget. Gan ei fod yn fab hynaf, fo wnaeth etifeddu teitl 2il Iarll Uxbridge.
Mae’n fwyaf enwog am arwain y marchoglu ym Mrwydr Waterloo yn 1815. Fe gollodd ei goes yn y frwydr ac fe roddwyd teitl Ardalydd Môn iddo am ei ddewrder.
Henry Cyril Paget, a aned yn 1875, oedd unig fab y 4ydd Ardalydd, ac fe etifeddodd y teitl yn 1898.
Roedd yn greadur llawn asbri oedd yn caru byd y theatr. Fe wariodd gyfoeth y teulu a’u gwneud yn fethdalwyr gan gynnal ‘Gwerthiannau Mawr Môn’ (40 diwrnod o werthiannau gyda mwy na 40,000 o lotiau) er mwyn talu rhywfaint o’i ddyledion.
Charles Alexander Henry Paget, cefnder cyntaf y 5ed Ardalydd, etifeddodd y teitl yn 1905.
Fe werthodd Beaudesert, prif gartre’r teulu, a moderneiddio Plas Newydd. Daeth â thrydan, gwres, ystafelloedd ymolchi a system ffôn i’r tŷ.
Cafodd Rex Whistler, a aned yn 1905, ei gomisiynu i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta darlun a fyddai’n ganolbwynt i’r Neuadd Fwyta.
Treuliodd Rex lawer o amser gyda’r teulu yn yr 1930au a dod yn ffrindiau mawr gyda'r 7fed Arglwydd Môn pryd oedd yn ifanc.
Roedd Plas Newydd yn lle prysur yn y 1920au a’r 1930au gyda llawer o’r tŷ yn gartref i weision a morynion a’r gegin yn fwrlwm o weithgaredd. Ar ôl i newidiadau mawr gael eu gwneud yn yr 1950au mae’r llefydd hyn yn edrych yn bur wahanol heddiw.
Roedd Plas Newydd yn gartref i gannoedd o gadetiaid yr HMS Conway oedd yno i ddysgu am fywyd ar y môr am flynyddoedd.
Roedd HMS Conway wedi angori yn nociau Lerpwl ac fe’i symudwyd i Fangor i’w chadw’n ddiogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn hwyr yn yr 1940au roedd angen canolfan leol ar y traeth. Dewiswyd Plas Newydd fel canolfan wych i’r cadetiaid a’r llong.
Oherwydd poblogrwydd yr hyfforddiant yn 1949 symudodd llawer o gadetiaid i’r tŷ a chymryd mwy na hanner yr ystafelloedd.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Enw gwreiddiol y tŷ oedd Llwyn y Moel. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus fel y gwelwn ni heddiw.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.