Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd restredig Gradd 1 wedi'i leoli ar lannau’r Fenai.
Plas Newydd a'r Ardd, Llanfairpwll, Sir Fôn, LL61 6DQ
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ | Ar gau |
Gardd | 10:30 - 16:00 |
Siop lyfrau ail-law | 11:00 - 15:30 |
Siop | 10:30 - 16:00 |
Caffi’r Hen Laethdy | 10:30 - 16:00 |
Ciosg yr ystafell haul | 11:00 - 15:00 |
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £8.30 | £7.50 |
Child | £4.20 | £3.75 |
Family | £20.70 | £18.75 |
1 adult, 3 children | £12.40 | £11.25 |
Mae Caffi'r Hen Laethdy ger y maes parcio, y siop a'r dderbynfa ymwelwyr. Diodydd poeth ac oer, prydau ysgafn a chacennau ar gael. Lle i eistedd y tu mewn a'r tu allan.
Mae Siop yr Hen Laethdy ger y maes parcio, y caffi a'r dderbynfa ymwelwyr.
Mae croeso i gŵn ar dennyn byr ym mhob rhan o'r gerddi, ac eithrio'r Terasau oherwydd y gwaith plannu manwl yn yr ardal honno.
Siop lyfrau ail-law yn yr Orendy o flaen y Tŷ wrth y Terasau.
Wedi'i leoli wrth ymyl y maes parcio a ger mynedfa'r Tŷ.
Llefydd parcio i bobl anabl ger y dderbynfa ymwelwyr.
Llwybr hygyrch, ond gyda rhai llethrau serth. Tŷ bach wedi’i addasu yng Nghaffi’r Hen Laethdy. Gwasanaeth bygi sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae dolenni sain ar gael wrth bob til.
Mae llwybrau hygyrch i'w gweld ar daflen y safle ac i'w lawrlwytho o'r wefan.
Llwybr hygyrch a/neu fap - mwy o wybodaethMae llwybrau gwastad i'w cael o gwmpas y tiroedd. Rhagor o wybodaeth ar fap y safle.
Mae mannau codi a gollwng wrth ymyl y Tŷ.
Mae toiledau hygyrch ger maes parcio'r ymwelwyr, yn yr Hen Laethdy a ger mynedfa'r Tŷ.
Mae arwyddion o gyffordd 7 a 8a ar y A55, neu A4080 Ffordd Brynsiencyn. Trowch yr A5 i ffwrdd ar ben gorllewinol pont Britannia | Signposted from junction 7 and 8a of A55, or A4080 to Brynsiencyn. Turn off A5 at west end of Britannia Bridge.
Parcio: am ddim, 60 llath | free, 60 yards
Llanfairpwll 1¾ milltir | 1¾ miles
Mae bws llwybr 42 o Fangor i Langefni (pasio gorsaf Bangor a ger gorsaf Llanfairpwll) yn stopio ar ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio. Sylwer: nid yw'r gwasanaeth hwn yn gweithredu ar ddydd Sul. | The 42 bus route from Bangor to Llangefni (passes Bangor train station and near Llanfairpwll train station) stops on the Brynsiencyn road, near the car park. Please note: this service does not operate on a Sunday.
NCN8, ¼ milltir | ¼ mile Gwybodaeth am lwybr beicio | Cycle route information
Dewch o hyd i wybodaeth gyffredinol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.
Darganfyddwch fwy ym Mhlas Newydd gyda diwrnod allan i'r grŵp gyfan. O archwilio’r plasty hudolus i grwydro drwy’r ardd restredig Gradd 1, mae rhywbeth i bawb ym Mhlas Newydd.
Cymerwch olwg ar y map o Dŷ a Gardd Plas Newydd i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Mae cysur y tŷ yn eiddo i chi i'w fwynhau. Gan gyfuno hanes milwrol, theatr, a chelf, archwiliwch gyfleoedd i ddysgu, myfyrio a chael eich ysbrydoli.
Mae’r ardd restredig Gradd I yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir.
Mae’r Caffi'r Hen Laethdy yn cynnig dewis o ddiodydd, a chacennau i chi eu mwynhau. Mae Ciosg yr Ystafell Haul yn cynnig amrywiaeth o fyrbrydau, gan gynnwys hufen iâ Red Boat.
Mae siop yr Hen Laethdy yn cynnig amrywiaeth o anrhegion, nwyddau cartref, cynnyrch lleol ac eitemau tymhorol. Gallwch ddod o hyd i anrhegion ar gyfer pob achlysur ym Mhlas Newydd.
Dewch am antur yng Nghoed y Llaethdy. Mwynhewch yr ardal chwarae antur neu gêm o golff ffrisbi.
Mae Plas Newydd yn cynnig y cyfle gorau i weld gwiwerod coch. Chwiliwch am rhywle i eistedd a gwyliwch amdanyn nhw ar eich ymweliad.
Beth am fentro i'r ardd Rhododendron. Dilynwch y llwybr am hanner milltir i’r rhan ddiarffordd yma o’r ardd.
Mae hanner tymor mis Chwefror yn gyfle perffaith i archwilio Plas Newydd a'r Ardd, gyda llu o weithgareddau i blesio teuluoedd, beth bynnag yw'r dywydd.
Dewch i ymlacio ar lannau Afon Menai a mwynhewch 2 noson fythgofiadwy o gerddoriaeth wrth i ni groesawu Proms y DU yn y Parc i brydferthwch Plas Newydd a'r Ardd.
Mentrwch ac archwiliwch yr ardd ym Mhlas Newydd dros y gaeaf. Mwynhewch y golygfeydd godidog yma, o Bont Britannia holl ffordd at mynyddoedd Eryri.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Os fyddwch yn dod draw gyda’ch plant neu eich wyrion a’ch wyresau, mae yna lond lle o bethau i ddiddanu’r holl deulu ym Mhlas Newydd. Ewch i archwilio coedwig yr Hen Laethdy er mwyn chwilio am ein man chwarae , rhowch gynnig ar gêm o Golff Ffrisbi neu ewch am dro i Goed y Llaethdy i fwynhau rhywfaint o amser gyda’r teulu yn yr Arboretwm,
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
A ydych chi erioed wedi gweld gwiwer goch yn y gwyllt? Mae gan Blas Newydd ar Ynys Môn dros gant. Dewch am dro i weld y creaduriaid rhyfeddol yma yn eu cynefin naturiol.
Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau 2k ym Mhlas Newydd fod yr union beth i chi.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.
A quirky, period cottage on the Plas Newydd Estate. Spot red squirrels in the nearby woodland and wander the grounds after visitors have gone home.
This Georgian house retains much of its original character and looks out over Llanlleiana Bay.
A cosy farmhouse, a few minutes’ walk from the wild, rugged coastal path and a pretty seaside town with a sandy beach
A pretty cottage on the north coast of Anglesey with lovely beach views from the back garden.
Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau fod yr union beth i chi. | Whether you want meet new friends, or want to try something different, Junior Parkrun could be just the thing for you.
Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth a dawnsio dan y sêr ym Mhlas Newydd. **** Join us for music and dancing under the stars at Plas Newydd.
Ymunwch â ni am noson o gerddoriaeth a dawnsio dan y sêr ym Mhlas Newydd. **** Join us for music and dancing under the stars at Plas Newydd.
Wedi’i leoli ar Ynys Môn, mae Plas Newydd yn dŷ a gardd Rhestredig Gradd I ar lannau’r Fenai. Gyda mynyddoedd Eryri yn gefnlen ddramatig, gallwch fwynhau 40 acer o ardd heddychlon a 120 acer o goetir a pharcdir. Mae yna hefyd le i ymlacio ac archwilio, gyda lawntiau sydd ar ychydig o oleddf, coed tal a borderi hardd i’w darganfod, tra mae’r tŷ cyfforddus yn cynnwys cyfuniad anarferol o hanes milwrol, theatr a chelf.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.
Dysgwch am stori diddorol ‘Marcwis y ddawns’, a drodd gapel y teulu ym Mhlas Newydd yn theatr a gwastraffu ei etifeddiaeth ar wisgoedd crand.
Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.
O Derasau Eidalaidd a gardd rhododendron i ardd goed Awstralasia a choetir helaeth, darganfyddwch fwy am sut mae ein tîm o arddwyr a gwirfoddolwyr yn gofalu am yr ardd Gradd I hon ym Mhlas Newydd.
Manteisiwch ar gyfle newydd fel gwirfoddolwr ym Mhlas Newydd a dewch yn aelod gwerthfawr o’r tîm.
Wedi trafodaethau preifat gyda theulu Anglesey, mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi prynu chwe eitem a fydd yn galluogi Tŷ a Gardd Plas Newydd i rannu mwy o wybodaeth am ei hanes a’i gysylltiadau lleol. Mae’r eitemau hyd wedi’u cadw yng nghasgliad personol teulu Anglesey hyd yn hyn a byddant ar gael i’r cyhoedd eu gweld am y tro cyntaf. Mae pedair eitem arall, a fu dan y morthwyl yn Arwerthiant Sotheby’s ar 11 Ebrill, ac sydd o gryn arwyddocâd i Blas Newydd, wedi’u sicrhau hefyd.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.