Skip to content

Pobl a Hanes ym Mhlas Newydd

5ed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, yn tynnu ystum ar gadair mewn gwisg ffansi, gyda helmed adeiniog a gemau.
5ed Marcwis Môn mewn gwisg ffansi, gyda helmed adeiniog | © National Trust Images/John Wickens (1864-1936)

Roedd 5ed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, yn enwog am ei fywyd afradlon a’i berfformiadau theatr. Etifeddodd Blas Newydd ym 1898 a’i ailenwi’n Anglesey Castle, gan droi’r capel yn theatr o’r enw y ‘Gaiety’. O drawswisgo i bartïon lliwgar, dysgwch fwy am fywyd ‘Marcwis y ddawns’.

Rebel Fictoraidd

Disgwyliai’r gymdeithas Fictoraidd i 5ed Marcwis Môn fyw bywyd parchus, yn gweddi i’w statws. Golygai hyn wisgo’n geidwadol, priodi, a chael plant. Ond roedd Henry’n benderfynol o fyw ei fywyd ei hun. Nid oes tystiolaeth o Henry’n cael perthnasau o’r un rhyw, ond cafodd ei briodas fer ei diddymu, a chofnodwyd nad oedd y briodas ‘wedi’i chyflawni’. Mae llawer o ddyfalu wedi bod ynghylch ei fywyd preifat dros y blynyddoedd.

Theatr y ‘Gaiety’ ym Mhlas Newydd

Pan etifeddodd y 5 Marcwis Blas Newydd, newidiodd gapel y teulu yn theatr foethus â 150 o seddi. Perfformiodd yno’n rheolaidd gyda’i gwmni theatr, a gwahoddodd drigolion lleol Ynys Môn i fynychu’r perfformiadau am ddim. Teithiodd Ewrop hefyd a pherfformio dramâu gan Oscar Wilde. Roedd hwn yn benderfyniad mawr oherwydd roedd Wilde wedi’i garcharu am ‘anlladrwydd’.

Marcwis y Ddawns

Mae ffotograffau sydd wedi goroesi yn dangos Henry mewn gwisgoedd, weithiau’n trawswisgo, yn syllu’n hyderus at y camera. Enillodd ei ffugenw, ‘Marcwis y Ddawns’, am ei ‘ddawns bili-pala’ droellog yn ei berfformiadau. Ef oedd ‘dafad ddu’ y teulu, oherwydd ei ymddygiad ecsentrig a’i gariad at y theatr.

Cyfoeth goll Plas Newydd

Cafodd Henry Paget ei fagu ynghanol cyfoeth. Yn ei fywyd byr (1875–1905), gwastraffodd ei etifeddiaeth ar ddigwyddiadau cymdeithasol mawreddog a chasgliad enfawr o ddillad a gwisgoedd haute couture. Erbyn 1904, er gwaethaf ei ystâd a’i incwm, roedd Paget wedi cronni dyledion o £544,000 (sydd gyfwerth â dros £70 miliwn yn 2022) a chafodd ei ddyfarnu’n fethdalwr.

‘Arwerthiant Mawr Môn’

Bu farw Henry ym 1905 yn ddim ond 29 oed a chafodd ei eiddo ei werthu yn ‘Arwerthiant Mawr Môn’ a elwir hefyd y ‘Sêl Deugain Diwrnod’. Rhestrodd yr arwerthiant gannoedd ar gannoedd o eitemau, o ynau nos sidan i gotiau ffwr. Gwerthwyd tua 17,000 o lotiau yn cynnwys popeth o’i gasgliad gemwaith i bethau bach fel peli ping pong a gardiau coesau hoci.

Y Neuadd Gothig gyda golwg o'r Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru
Y Neuadd Gothig a'r Ystafell Gerdd ym Mhlas Newydd, Ynys Môn | © National Trust Images/Andreas von Einsiedel

Etifeddiaeth 5ed Marcwis Môn

Cafodd theatr y Gaiety ei chau mewn dim o dro ar ôl marwolaeth Henry Paget. Cafodd llawer o’i luniau a’i ddogfennau eu llosgi, gan ei ddileu o hanes.

Lluniau archif

Mae’r lluniau sydd wedi goroesi o Henry Paget yn dangos ei gariad at wisgoedd a pherfformiad, ac yn ein hatgoffa o’i ysbryd. Cafodd lluniau newydd o’r 5ed Marcwis enigmatig eu canfod tra’n chwilio drwy’r archifau. Dyma’r unig luniau sy’n bodoli o’r Marcwis a’i grŵp theatr (hyd yn gwyddom ni) yn mwynhau’r ardd ym Mhlas Newydd.

Drama gerddorol

Dychwelodd ysbryd ‘Marcwis y Ddawns’ yn 2017 mewn drama gerddorol gan Seiriol Davies, a gafodd gymeradwyaeth eang. Perfformiwyd ‘How to win against history’ i gynulleidfaoedd ledled y DU a bu’n rhan o arddangosfa. Roedd Davies, ysgrifennwr a pherfformiwr o Ynys Môn, wrth ei fodd o ddod â’r 5ed Marcwis yn ôl i’r llwyfan ar ôl mwy na chanrif.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol

Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd

Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelydd aneglur yn y blaendir yn edrych ar furlun Rex Whistler yn Yr Ystafell Fwyta, ym Mhlas Newydd, Ynys Môn, Cymru.
Erthygl
Erthygl

Murlun Rex Whistler ym Mhlas Newydd 

Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.

Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol
Erthygl
Erthygl

Hanes Plas Newydd 

Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.

A grey mansion covered in red boston ivy leaves
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r tŷ ym Mhlas Newydd 

Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.

Teulu yn mwynhau'r Terasau yng ngardd Plas Newydd
Erthygl
Erthygl

Ymweld â'r ardd ym Mhlas Newydd 

Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.