Skip to content

Ymweliadau grwpiau ac ysgolion â Phlas Newydd

Grŵp o ymwelwyr ym Mhlas Newydd
Grŵp o ymwelwyr ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/Arnhel de Serra

Mae croeso i grwpiau ym Mhlas Newydd, os ydych yn cynllunio taith grŵp neu ymweliad addysg hunan-dywys. Dysgwch am fanteision archebu ymweliad grŵp, y mathau o weithgareddau sydd ar gael i grwpiau addysg, a sut i drefnu eich ymweliad.

Ymweld â Phlas Newydd

Mae Plas Newydd yn darparu lle i ymwelwyr o bob oed archwilio, ymlacio a chwarae, wrth ddarganfod harddwch y tŷ a’r tiroedd. Yn eistedd o fewn 150 erw o erddi a choetir, mae'r tiroedd hefyd yn cynnwys y Caffi a Siopy yr Hen Laethdy, siop lyfrau ail-law, ac ardal chwarae awyr agored. Mae’r tiroedd yn lle delfrydol ar gyfer teithiau awyr agored ac yn rhoi cyfleoedd gwych i weld y bywyd gwyllt ym Mhlas Newydd, gan gynnwys y wiwer goch sy’n byw yno. Mae tu fewn Plas Newydd yr un mor drawiadol, yn gartref i furlun 58 troedfedd enwog Rex Whistler a nifer o weithiau celf.

Mae yna lwybr ddi-gam i'r Terasau, Ynysoedd y Caribi a'r Llwybr Hir. Am ragor o wybodaeth, gweler ein datganiad mynediad. Mae yna bygi sy'n dibynnol ar wirfoddolwyr ar y safle yn ogystal â chadeiriau olwyn ar gael i’w llogi (gellir trefnu hyn wrth archebu).

Archebu eich ymweliad

I archebu eich ymweliad ymlaen llaw, ebostiwch plasnewydd@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01248 714795. Gofynnwn i chi archebu ymlaen llaw fel bod ein tîm yn barod i chi gyrraedd a gallwn sicrhau bod eich profiad y gorau y gall fod.

Ymweliadau hunan-arweiniol

Mae pob ymweliad â Phlas Newydd yn hunan-arweiniol, fodd bynnag gallwn gynorthwyo gydag unrhyw geisiadau am ragor o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael a manylion am hanes Plas Newydd. Cofiwch wirio amseroedd agor ar ddiwrnod eich ymweliad oherwydd gall yr oriau agor amrywio.

Plant ar ymweliadau hunan-arweiniol ym Mhlas Newydd
Ymweliadau hunan-arweiniol ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/Trevor Ray Hart

Archebion ysgolion

Gall ysgolion fanteisio ar Docyn Mynediad Grŵp Addysgol, sydd yn aelodaeth flynyddol sy’n rhoi mynediad am ddim i’r grŵp ysgol gyfan i leoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am y tocyn mynediad, ewch i'r dudalen Tocyn Mynediad Grŵp Addysgol.

Mae llawer o ysgolion a grwpiau yn dewis ymweliadau hunan-dywys â Phlas Newydd. Gall ymweliadau hunan-dywys fod yn addas ar gyfer rhan fwyaf o anghenion y cwricwlwm, a gallent gynnwys ymweliad o’r Tŷ, astudio cynefinoedd, daeareg, a hanes o amgylch y Gromlech. Rydym yn annog athrawon i ddod draw ymlaen llaw i gynnal unrhyw asesiadau risg y gallai fod eu hangen arnynt ar gyfer eu hymweliad ysgol. Os gwelwch yn dda, trefnwch yr ymweliad hwn ymlaen llaw. I archebu eich ymweliad, anfonwch e-bost at plasnewydd@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch ni ar 01248 714795.

Ymwelwyr ym Mhlas Newydd
Ymwelwyr ym Mhlas Newydd | © National Trust/Paul Harris

Archebion grŵp

Gostyngiad grŵp

Gall grwpiau o 15 neu fwy o ymwelwyr elwa o ostyngiad o 5%. Mae’r gostyngiad hwn yn berthnasol i bob aelod o’r grŵp, hyd yn oed os yw rhai o’r ymwelwyr yn aelodau o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rhaid i aelodau ddod â'u cardiau aelodaeth gyda nhw ar ddiwrnod eu hymweliad.

Pwy sy’n gallu cael mynediad am ddim?

Tywyswyr bwrdd twristiaeth cofrestredig (drwy ddangos bathodyn dilys), gyrwyr coetsys ac arweinwyr teithiau yn hebrwng sydd â grwpiau o 15 neu fwy. Mae aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd yn cael mynediad am ddim, felly gallwch ad-dalu’r ffi fynediad i aelodau os ydych wedi’i chynnwys yn eich pecyn yn ôl eich disgresiwn – ni chaiff hon ei had-dalu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Rhaid i aelodau ddod â'u cardiau aelodaeth gyda nhw i osgoi talu'r gyfradd grŵp lawn. Os hoffai unrhyw un o’ch grŵp ymuno â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, cyfeiriwch nhw at ein tudalen Aelodaeth neu gallwch ffonio 0344 800 1895.

Ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim i arweinwyr grŵp

Os ydych chi’n trefnu ymweliad grŵp, gallwch wneud cais am Docyn Diwydiant Teithio am ddim a gallwch chi a ffrind neu gydweithiwr gael mynediad am ddim i dros 300 o’n lleoliadau ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon am 12 mis. Dyma’r ffordd berffaith i gynllunio ymweliad llwyddiannus – drwy weld rhywle gyda’ch llygaid eich hun. I dderbyn eich tocyn, ffoniwch 0344 800 2329, neu e-bostiwch ni yn NTTravelTrade@capita.co.uk.

Bore ym Mhlas Newydd

Darganfyddwch fwy ym Mhlas Newydd

Dysgwch pryd mae `Plas Newydd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.