Dewch i wirfoddoli
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Thŷ a Gardd Plas Newydd.
Awydd antur newydd? Mae ein gwirfoddolwyr yn gwneud cyfraniad enfawr i’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud yma yn y tŷ, yr ardd ac ar draws arfordir Ynys Môn.
Mae’r gefnogaeth a’r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn eu cynnig bob dydd yn hanfodol i’n gwaith. Mae'r gefnogaeth a'r wybodaeth mae ein gwirfoddolwyr yn ei gynnig bob dydd yn hanfodol i'n gwaith. Mae gennym ni amrywiaeth o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael, felly os gennych flynyddoedd o brofiad efo chi, neu’n awyddus i drio rhywbeth newydd, byddem wrth ein bodd cyfarfod â chi.
Mae yna lawer o ffyrdd gallwch chi ymuno â'r achos a dod yn aelod gwerthfawr o'r tîm. O groesawu ymwelwyr i’r tŷ, ac adrodd ei straeon diddorol, i’n helpu ni i ofalu am yr eitemau hanesyddol rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw - mae yna rywbeth i bawb.
Gallwch gael fwy o wybodaeth am y rolau ar gael a gwneud cais yma neu anfon e-bostio plasnewydd@nationaltrust.org.uk
Ymunwch â ni o 10am ar gyfer ein Diwrnod Agored Gwirfoddolwyr. Mae’n gyfle gwych i ddarganfod mwy am y cyfleoedd gwirfoddoli ym Mhlas Newydd. Sgwrsiwch gyda'n gwirfoddolwyr presennol am eu profiadau ac archwilio'r Tŷ a'r Ardd. Cofrestrwch eich diddordeb cyn mynychu drwy e-bostio: plasnewydd@nationaltrust.org.uk
Mae pob diwrnod yn antur newydd ac mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, dysgu rhywbeth newydd a bod yn rhan o elusen gadwraeth fwyaf Ewrop. Rydym bob amser yn annog gwirfoddolwyr i gynnig syniadau newydd a'n helpu i sicrhau bod ein harlwy i ymwelwyr yn ddim llai na rhyfeddol.
Fel gwirfoddolwr, gallwch hefyd fwynhau'r buddion canlynol:
Mynediad am ddim i holl eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;
Mae ein gwirfoddolwyr yn cynnig croeso cynnes, gan sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad bendigedig. Maen nhw'n gwneud i'n hymwelwyr deimlo'n arbennig ac wedi'u hysbrydoli, felly maen nhw'n gadael yn teimlo'n dda ac yn awyddus i ddod yn ôl ac ymweld eto’n fuan.
Nid ydym yn chwilio am haneswyr nac arbenigwyr cymwys, dim ond pobl gyfeillgar, groesawgar sydd â diddordeb ym Mhlas Newydd ac sy’n awyddus i rannu ei straeon, fel y gall pawb ei fwynhau, am byth.
Gallwch ddarganfod mwy am wirfoddoli ym Mhlas Newydd yma a gwneud cais ar-lein yma neu e-bostiwch ni plasnewydd@nationaltrust.org.uk.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Thŷ a Gardd Plas Newydd.
Our volunteers make our work to look after nature and history for future generations possible. Learn more about the volunteering opportunities available and hear a selection of their stories to find out what it's like to volunteer with us.
These frequently asked questions should give you all you need to know about who can volunteer, what it involves and how to apply.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.