![Wyneb dwyreiniol Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru, ar draws Afon Menai o Glan Faenol](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/plas-newydd-house-and-garden/library/the-east-front-plas-newydd-wales-54504.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy am Dŷ a Gardd Plas Newydd
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Os ydych yn ymweld gyda phlant neu wyrion, mae digon i ddiddori'r teulu cyfan ym Mhlas Newydd. Archwiliwch yr ardd, ymlacio a chael tamaid i'w fwyta ar y lawnt, a mwynhau amser fel teulu yn yr Arboretwm.
Ydych chi'n barod i adael i'ch dychymyg redeg yn wyllt ym Mhlas Newydd? Mae pum gweithgaredd i’w harchwilio, a fyddwch chi’n artist, yn fardd, yn athletwr neu’n ddawnsiwr?
Byddwch yn greadigol gyda chelf wyllt yn yr arboretwm ac ysgrifennwch farddoniaeth yn y goedwig. Edrychwch allan tuag at y Fenai ac arluniwch fel arlunydd. Dawnsiwch, troellwch a gwisgwch fyny yn yr Ystafell Gerdd. Gallwch hyd yn oed gystadlu mewn mabolgampau eich hun, mae digon i'w wneud yr haf hwn!
Bydd y digwyddiad yma yn rhedeg o 20 Gorffennaf - 1 Medi. Mae gweithgareddau Haf o Hwyl am ddim (mae mynediad arferol yn berthnasol), felly gallwch chi roi cynnig ar bopeth a dod yn ôl dro ar ôl tro.
Dyma wybodaeth ddefnyddiol a all eich helpu i gynllunio eich diwrnod allan nesaf ym Mhlas Newydd:
Mae 2 bag synhwyraidd ac amddiffynwyr clust ar gael i'w benthyca i'w llofnodi i mewn ac allan yn Nerbynfa'r Ymwelwyr. Maent i helpu ymwelwyr ag awstistiaeth, anhwylder prosesu synhwyraidd, neu'r rhai sy'n meddwl byddent yn elwa ohonynt, yn ystod ymweliad â Phlas Newydd.
Dysgwch sut i gyrraedd Tŷ a Gardd Plas Newydd, ble i barcio, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.