Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Yr un fath â’r castell ei hun, mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn cynnig rhywbeth i bawb. Gofalwch ddod â’ch awydd am antur a disgwyliwch yr annisgwyl.
Daw mynd am dro o gwmpas gerddi Penrhyn amser yma'r flwyddyn yn dod a'i fuddion. Fel mae un tymor yn newid, daw yr un nesaf gyda dail lliwiau cynnes a bywiog yn uwcholeuo'r newid o haf i hydref. Nawr yw'r amser perffaith i fwynhau ychydig o heddwch ac gweld yr harddwch naturiol yn newid o'n cwmpas.
Mwynhewch lliwiau'r dail yn trawsnewid o'r liw gwyrdd i rhai melyn a coch, sydd yn cyfateb lliwiau allanol Castell Penrhyn amser yma'r flwyddyn, sef yr eiddew Boston sy'n gorchuddio'r Castell. Cymerwch olwg ar ein pennau hadau a ffrwythau sydd ar y coed, blodau ac llwyni. Nawr yw'r amser perffaith i weld y bwa fuchsia ar ei orau am y tro olaf cyn misoedd y gaeaf - rydych ddim eisiau' fethu! Mae ein tîm ardd anhygoel hefyd yn gosod mwy o gasgenni dŵr drwy gydol yr Hydref ar gyfer cynaeafu dŵr glaw ger yr ardd furiog ac yn cyfansawdd tîm yr ardd.
Mae planhigion rheonllys anferthol yn tra-arglwyddiaethu ar yr Ardd Gorsiog sy’n debyg i jyngl. Ymgollwch ymhlith y dail yn ystod y gwanwyn a’r haf neu ewch i’r man uchel ger y cut â tho gwellt i gael golygfa eang.
Cewch heddwch a thawelwch yn y tocwaith manwl, y llinellau geometrig, y pyllau cymesur a’r gwaith plannu manwl gywir yn yr Ardd Furiog. Yma gellir gwerthfawrogi gweledigaeth Walter Speed yn y 19eg ganrif o greu un o dair gardd orau Prydain ar y pryd.
Gyda golygfeydd dros Fae Conwy ac Eryri, mae lawntiau syml Penrhyn yn lle delfrydol i gael picnic. Gall y rhai heini yn eich plith redeg, rowlio a gwneud olwyn trol fel fynnon nhw.
O’r ‘Lawnt Fasarn’ yng nghefn y castell gallwch fwynhau golygfeydd clir i lawr arfordir Gogledd Cymru i Landudno, y Gogarth ac Ynys Seiriol.
Mae wyneb blaen y castell a’r gerddi yn wynebu Eryri ac mae ganddynt olygfeydd eang o gopa Carnedd Llewelyn ar ddiwrnod clir.
Gosodwyd y castell ei hun mewn man strategol i gael golwg glir o Chwarel y Penrhyn ym Methesda.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.