Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Dewch i weld rhai o’r ystafelloedd rhyfeddol sydd wedi eu haddurno mor gain ar eich ymweliad â Chastell Penrhyn. Agorwch y drws a chamu i mewn i’r ystafelloedd lle byddai teulu Pennant a’u gwesteion enwog yn gwledda a chwarae yng nghanol y fath olud.
Mi gewch eich rhyfeddu gan yr ystafelloedd anferth a moethus, y grisiau Gothig a’r gwaith celf sy’n cael ei arddangos. Clywch hanes y ffortiwn o siwgr a llechi ac ewch i lawr i’r ceginau Fictoraidd i weld sut le oedd gan y staff.
Does unlle gwell i ymlacio gyda llyfr da a thân i’ch cynhesu. Yma, gallai’r teulu chwarae gêm o filiards a mwynhau diod neu ddau. Roedd hefyd yn lle i fyfyrio’n dawel ac astudio.
Gwelir lliwiau pinc trwy’r ystafell i gyd gan gynnwys y carped a’r dodrefn sydd wedi eu gorchuddio â sidan. Mae’n anodd dychmygu bod yr ystafell unwaith wedi ei defnyddio fel swyddfa, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan y cwmni cynhyrchu ceir, Daimler. Mae’r dodrefn yn gadarn a chain ac wedi parhau’n ddefnyddiol hyd heddiw.
Dyma lle byddai’r Foneddiges Penrhyn yn ysgrifennu ei llythyrau ac yn rhoi trefn ar y tŷ gyda’i staff domestig, mae’n agos at rannau’r gweision a’r morynion o’r Castell.
Mae amrywiaeth ddifyr o ddodrefn egsotig yma, gan gynnwys mahogani ar y cadeiriau isel a ddaeth o Sri Lanka. Mae’r papur wal hardd yn dyddio o’r 17eg ganrif ac er ei fod wedi pylu bellach, yn ei ddydd fe fyddai wedi rhoi ffrwydrad o liw i waliau’r ystafell.
Cedwid y rhan fawr hon, gyda’i hystafell wisgo ei hun, ar gyfer gwesteion pwysig. Gyda’i gwely pedwar postyn godidog byddai hon wedi bod yn ystafell foethus iawn yn ei dydd, gyda chadeiriau cyfforddus ar gyfer mwynhau te yn y bore neu’r pnawn yn y llofft.
Drws nesaf mae yna dŷ bach cynnar sy’n fflysio. Byddai’r tŷ bach yn cael ei fflysio gyda dŵr glaw oedd wedi ei gasglu - dyfais amgylcheddol gyfeillgar iawn.
Cyfres o ystafelloedd yn cynnwys dwy ystafell wely, ystafell wisgo, lolfa, ystafell ymolchi a thoiled. Yr ystafelloedd hyn fyddai ystafelloedd gwely'r Arglwydd a’r Arglwyddes Penrhyn ond hefyd dyma lle byddai’r gwesteion yn aros pan fyddai’r teulu brenhinol yn ymweld.
Ar hyn o bryd mae Ystafelloedd Gwely’r Tŵr yn gartref i wely llechi sy’n pwyso tunnell, gan ddangos y defnyddiau amrywiol y gellid eu gwneud o’r garreg a gwely bras ‘addas i frenin’, gyda’r goron ymerodrol ar ei ben a gomisiynwyd ar gyfer ymweliad Tywysog Cymru yn 1894.
O’r ystafelloedd yma mae’r golygfeydd gorau o ystâd Penrhyn wrth iddi ddiflannu i fynyddoedd Eryri, ac ar ddyddiau clir, gwelir Chwarel y Penrhyn.
Dyma’r ystafell olaf y bu Hugh Napier (Pedwerydd Arglwydd Penrhyn) yn byw ynddi wedi iddo gael ysgariad. Mae’r ystafell yn adlewyrchu’r ‘Dwyrain’, sef label oedd yn cael ei roi ar unrhyw beth oedd yn dod o rywle pell ac mae llawer o’r gwrthrychau yn yr ystafell hon yn dod o Tsieina neu Japan.
Dim ond ar deithiau swyddogol y mae rhai rhannau o Dŵr y Castell i’w gweld, yn ddibynnol ar y lle sydd ar gael. Bydd y Ganolfan Groeso yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi ar ddechrau eich ymweliad.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.