Casgliadau Castell Penrhyn
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell Penrhyn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant. Fe’i ailadeiladwyd rhwng 1820 a 1837 i George Hay Dawkins Pennant ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica. Edrychwch yn fanylach ar gefndir y castell neo-Normanaidd hwn a’r teulu oedd yn berchen arno.
Roedd y teulu Pennant wedi bod yn berchen ar blanhigfeydd siwgr yn Jamaica ers canol yr ail ganrif ar bymtheg. Erbyn yr 1730au, roeddent wedi symud yn ôl i Loegr, gan ddod yn fasnachwyr sefydledig yn Lerpwl a Llundain, gan ddal i gael budd fel meistri tir absennol o elw eu hystadau yn Jamaica – a’r cannoedd o Affricaniaid caeth oedd yn gweithio iddyn nhw.
Richard Pennant (1737–1808), AS Lerpwl, a’r Barwn Penrhyn cyntaf a sefydlodd Gastell Penrhyn fel prif ystâd y teulu. Ymgyrchodd yn erbyn diddymu caethwasiaeth a buddsoddodd ei elw o Jamaica yn ei ystadau amaethyddol yn Sir Gaernarfon a Chwarel Lechi’r Penrhyn. Adeiladodd Borth Penrhyn, yn ogystal â ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion, gwestai, tai i’r gweithwyr, eglwysi a ffermydd.
Pan fu Richard farw aeth ei ystâd i’w gefnder, George Hay Dawkins Pennant (1764–1840). Fel Aelod Seneddol dros Newark yn Swydd Nottingham a New Romney yng Nghaint, gwrthwynebodd ryddfreinio pobl gaeth yn yr Ymerodraeth Brydeinig a phan ddiddymwyd caethwasiaeth yn y diwedd, derbyniodd Dawkins Pennant £14,683 o iawndal am 764 o bobl gaeth ar ei ystadau yn Jamaica: Pennant’s, Denbigh, Cote’s a Kupuis.
Adeiladwyd y castell gan y pensaer enwog Thomas Hopper. Roedd Hopper yn adnabyddus am ei allu i ddilyn unrhyw arddull pensaernïol, dewisodd gynllun neo-Normanaidd i’r castell – yr oedd wedi ei ddefnyddio yn Gosford, Sir Armagh, ond fe’i perffeithiwyd yn y Penrhyn.
Roedd yn hoffi cael ei gynnwys ym mhob manylyn ac fe oruchwyliodd y gwaith o ddylunio ac adeiladu dodrefn, carpedi a gwrthrychau addurnol y castell hefyd, y cyfan yn yr un arddull neo-Normanaidd afradlon a chwareus. Roedd y dodrefn yn cynnwys anifeiliaid, wynebau a phatrymau rhyfeddol, a defnyddiodd allu crefftwyr lleol ar eu cyfer, gyda rhai o dderw, eboni, marmor a hyd yn oed llechi o chwarel y Penrhyn.
Yn 1840, a’r castell wedi ei orffen, bu farw George Hay Dawkins Pennant. Ei ferch Julianna etifeddodd y Penrhyn a chymerodd ei gŵr, Edward Gordon Douglas yr enw Pennant ac yn ddiweddarach daeth yn Arglwydd Penrhyn o Landygái 1af.
Datblygodd ychydig o dirfeddianwyr grymus a chyfoethog fel Arglwydd Penrhyn chwareli bach lleol yn ddiwydiant byd-eang. Mewn rhai achosion, roedd y cyfoeth hwn wedi ei wneud ar blanhigfeydd siwgr oedd yn cael eu gweithio gan bobl o Affrica oedd yn gaethweision yn y Caribî.
Wrth i’r Chwyldro Diwydiannol gyflymu yn ei flaen, wedi ei yrru gan elw caethwasiaeth a gwladychiaeth, cynyddodd y galw am lechi. Roedd dinasoedd ym mhob rhan o’r byd yn tyfu a defnyddid llechi o chwareli Gwynedd i doi cartrefi’r gweithwyr, adeiladau cyhoeddus, mannau addoli a ffatrïoedd ar draws y byd.
Cyn iddo farw, roedd George Hay Dawkins Pennant wedi mynegi ei ddymuniad bod casgliad da o beintiadau i gael ei lunio yn y Penrhyn a rhoddodd y dasg i’w fab-yng-nghyfraith (yr Arglwydd Penrhyn newydd).
Crynhodd Edward gasgliad eithriadol o beintiadau o’r Iseldiroedd, Fenis a Sbaen gyda’ chymorth y cynghorydd celfyddydol o Wlad Belg, C.J. Nieuwenhuys. Ymhlith yr enwau mawr roedd Canaletto, Rembrandt, Wouwermans, Ruijsdael, Belotto a Palma Vecchio. Gellir gweld llawer o’r lluniau yma yn y Castell o hyd a rhoddodd y casgliad yr enw i’r Penrhyn o fod yn ‘Oriel Gogledd Cymru’ ar y pryd.
Nodwedd drawiadol arall o waliau mewnol Penrhyn yw’r papurau wal Tsieineaidd a beintiwyd, a osodwyd yn yr 1830au. Yn cyd-fynd â’r papurau wal moethus mae dodrefn lacer ac wedi eu japanio a chrochenwaith wedi eu gwneud yn Tsieina a Japan, yn ogystal â dodrefn eboni wedi eu cerfio o Sri-Lanka.
Yn gynnar yn yr 20fed ganrif, dechreuodd y berthynas rhwng Penrhyn a’r cymunedau lleol ddirywio. Arweiniodd y cam-fanteisio ar weithwyr yn y chwarel at yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Cychwynnodd yr anghydfod yn 1900 gan ganolbwyntio ar hawliau Undebau, cyflogau ac amodau gwaith. Roedd y Streic Fawr yn frwydr chwerw rhwng Arglwydd Penrhyn a’r chwarelwyr, a theimlir ei heffeithiau hyd heddiw.
Yn 1949, ar ôl marwolaeth y pedwerydd Arglwydd Penrhyn, gwahanwyd y tir a’r teitl. Aeth y teitl i Frank Douglas Pennant, a ddaeth yn bumed Arglwydd Penrhyn, ac aeth y tir i nith y pedwerydd Arglwydd, yr Arglwyddes Janet Harper.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach, daeth Castell Penrhyn, ynghyd â stadau Ysbyty Ifan a’r Carneddau dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Mae ein hymchwil yn parhau ac rydym yn cyflymu cynlluniau i ail-ddehongli storïau’r hanes poenus a heriol sy’n gysylltiedig â Chastell Penrhyn. Bydd hyn yn cymryd amser gan ein bod am sicrhau bod y newidiadau a wnawn yn cael eu cynnal a’u seilio ar ymchwil o safon uchel.
Daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys Castell Penrhyn, yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO mwyaf newydd, ar ôl derbyn y clod yng Ngorffennaf 2021. Mae i’r Castell le canolog yn hanes yr ardal, a bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y Safle Treftadaeth y Byd i ymchwilio ymhellach i arwyddocâd y safle.
Daeth y dirwedd yn rhif 32 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO a’r 4ydd yng Nghymru, yn dilyn Traphont Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd.
Daeth Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, sy’n rhedeg trwy Wynedd i gyd, yn arweinydd y byd o ran cynhyrchu ac allforio llechi yn yr 1800au. Bu chwareli llechi yn yr ardal am dros 1,800 o flynyddoedd ac fe’i defnyddiwyd i adeiladu rhannau o’r gaer Rufeinig yn Segontium yng Nghaernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy.
- Mark Drakeford, Cyn Brif Weinidog Cymru (2018-2024)
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell Penrhyn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.
Mae Castell Penrhyn yn cael sylw yn y llyfr darluniadol hardd, '60 o Adeiladau Rhyfeddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol', a ysgrifennwyd gan un o’n curaduron arbenigol. Prynwch y llyfr i ddysgu mwy am bum adeilad rhyfeddol yng Nghymru, yn ogystal â strwythurau cyfareddol eraill ledled Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.