Casgliadau Castell Penrhyn
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell Penrhyn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Roedd y Streic Fawr 1900 i 1903 yn benllanw sawl blwyddyn o anfodlonrwydd ac anniddigrwydd yn y diwydiant llechi yn Nyffryn Ogwen. Hawliau undebau, cyflogau ac amodau gwaith oedd prif achosion y gynnen. Bu’r Streic Fawr yn frwydr chwerw rhwng Arglwydd Penrhyn a’r chwarelwyr, a rhwygwyd y gymuned a newidiwyd y rhan hon o Ogledd Cymru am byth o ganlyniad iddi.
Erbyn yr 1890au, roedd y diwydiant llechi yng Nghymru yn cyflogi tua 17,000 o weithwyr ac yn cynhyrchu bron i 500,000 tunnell o lechi'r flwyddyn, tua thraean o’r holl lechi to a ddefnyddiwyd yn y byd yn hwyr yn yr 19eg ganrif.
Cafodd y diwydiant effaith anferth ar bensaernïaeth y byd gyda llechi o Gymru’n cael eu defnyddio ar lawer o adeiladau, terasau a phalasau ar hyd a lled y byd gan gynnwys Neuadd Westminster yn y Senedd yn Llundain, yr Adeilad Arddangos Brenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd y Ddinas, Copenhagen, Denmark. Yn 1830, roedd gan hanner yr adeiladau yn Efrog Newydd doeau o lechi Cymru.
Yn dilyn anghydfodau’n gynharach yn 1874 ac 1896, ffurfiwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Cododd yr anghydfodau byrrach yma yn dilyn trafodaethau am hawliau gweithwyr i fynd i Ŵyl Lafur a mater y ‘fargen’.
Trefn o weithio a oedd yn amddiffyn enillion y chwarelwyr gan fod cymaint o amrywiaeth yn ansawdd y graig oedd y fargen, ac roedd yn caniatáu iddynt eu hystyried eu hunain yn gontractwyr yn hytrach na gweithwyr cyflogedig.
Bu’r Arglwydd Penrhyn a’i asiant E. A. Young yn brwydro yn erbyn datblygiad undebaeth ymhlith eu gweithlu a thraddodiad y ‘fargen’ ers sawl blwyddyn. Roeddent yn gwneud eu gorau glas i ddileu dylanwad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru o'r chwarel.
Ym mis Ebrill 1900, cyhoeddodd rheolwr y chwarel, Mr Emilius Young, na fyddai cyfraniadau at yr undeb yn cael eu casglu yn y chwarel.
Cyrhaeddodd y tensiwn rhwng y perchennog a’r gweithwyr ei benllanw ar 26 Hydref 1900 pan ymosodwyd ar nifer o gontractwyr a oedd wedi taro bargen.
Cyhuddodd yr Arglwydd Penrhyn 26 o chwarelwyr o ymosod. Diswyddwyd y dynion yma o’r chwarel, a hynny cyn i’w hachos gael ei glywed gerbron Llys yr Ynadon hyd yn oed.
Pan ddaeth y mater i’r llys, gorymdeithiodd chwarelwyr y Penrhyn i gyd i Fangor i ddangos eu cefnogaeth i’r rhai a gyhuddwyd. Y canlyniad oedd i’r holl chwarelwyr gael eu hatal o’u gwaith am bythefnos. Cofnodwyd bod miloedd wedi gorymdeithio heibio giatiau’r castell, ac wrth fynd heibio eu bod yn troi eu hwynebau’r ffordd arall.
Yn y gwrandawiad dim ond 6 o’r 26 a gyhuddwyd a gafwyd yn euog o’r cyhuddiadau ac fe’u dirwywyd. Wrth ymateb i’r tensiwn cynyddol, galwodd Prif Gwnstabl y Sir ar y fyddin ac fe’i beirniadwyd gan nifer o gyrff cyhoeddus yn ogystal â’i Gyngor Sir ei hun.
Aeth y chwarelwyr a ataliwyd o’u gwaith yn ôl i’r chwarel ar 19 Tachwedd 1900 ond roedd wyth o’r ponciau ar gau, gan adael 800 o ddynion heb fargen.
Dridiau yn ddiweddarach, ar 22 Tachwedd, cyrhaeddodd 2,000 o chwarelwyr i’r chwarel fel arfer ond roeddent yn gwrthod gweithio hyd nes i’r 800 arall gael bargen. Y bore hwnnw, cawsant ddewis gan Young - 'Go on working or leave the quarry quietly'. Cerdded allan a ddewiswyd ac roedd Streic Fawr 1900-03 wedi dechrau. Ni fyddai bywyd fyth yr un fath yno eto.
Ymhen mis, cynigiodd Young delerau newydd i’r chwarelwyr ond dim ond 77 o’r gweithwyr a’u derbyniodd, gyda 1,707 yn eu gwrthod. Erbyn canol Ionawr, roedd y chwarel wedi cau a gweithwyr Porth Penrhyn, lle byddai’r llechi’n cael eu cludo ohono, wedi’u diswyddo.
Ar 20 Mai, cyhoeddodd Young boster yn dweud y byddai’r chwarel yn ailagor ar 11 Mehefin i’r holl weithwyr. Roedd angen i’r dynion yma wneud cais yn y swyddfa a chael eu derbyn i weithio. Ar 11 Mehefin 1901, fel y nodwyd ar y poster, ail-agorwyd Chwarel y Penrhyn a gwahoddwyd y chwarelwyr a oedd wedi’u cymeradwyo gan swyddfa’r chwarel i ddychwelyd i’r gwaith.
Dychwelodd pedwar cant o ddynion, gan dderbyn sofren yr un gan yr Arglwydd Penrhyn ac addewid o godiad cyflog o 5%. Daeth hyn i gael ei alw, yn sarhaus, yn 'Punt y gynffon'.
Rhannwyd y gymuned leol yn ei hanner: y streicwyr a’r ‘cynffonwyr’ (y rhai oedd wedi derbyn ‘punt y gynffon’). Mewn cyfarfod cythryblus i’r streicwyr y noson honno, penderfynwyd argraffu posteri â’r geiriau: ‘Nid Oes Bradwr yn y Tŷ Hwn’ a’u codi yn ffenest cartref pob un o’r streicwyr.
Roedd y cardiau hyn i’w gweld am ddwy flynedd, tan ddiwedd y streic. Os câi cerdyn ei dynnu o’r ffenest, roedd yn arwydd bod gweithiwr wedi torri’r streic.
Achosodd hyn gryn densiwn yn yr ardal a drodd yn drais. Ymosodwyd ar dafarndai lleol ac ar gartrefi dynion a oedd wedi dychwelyd i’r gwaith. Cyhoeddwyd enwau’r sawl oedd wedi torri’r streic ym mhapurau newydd Y Werin a’r Eco.
Er mwyn ymateb i’r tensiwn a’r trais, anfonodd Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon filwyr i’r pentref. Cyrhaeddodd Ynad Heddwch i ddarllen y Ddeddf Derfysg i’r streicwyr gan roi rhybudd ffurfiol i’r protestwyr wasgaru. Rhoddwyd hawl i ddefnyddio grym os byddai angen.
Erbyn diwedd 1901, roedd Bethesda’n llwm iawn. Roedd teuluoedd cyfan heb waith, arian na bwyd. Bu cynnydd mewn tlodi a tharwyd yr ysgolion a’r cymunedau cyfagos gan afiechydon.
Erbyn 1902, roedd 700 o ddynion wedi dychwelyd, yn gyndyn, i’r chwarel a 2,000 arall wedi symud o'r ardal. Aeth y rhan fwyaf i weithio ym meysydd glo'r de. Roedd cymuned Bethesda wedi newid am byth.
- John Davies, Hanesydd
Mae effeithiau’r streic yn dal i’w teimlo hyd heddiw ym Methesda a’r cylch. Mae rhesi o dai’n dal i gael eu galw’n Dai Bradwyr gan fod y dynion oedd yn byw ynddynt wedi torri’r streic a, dros ganrif yn ddiweddarach, mae llawer o bobl yr ardal yn dal i wrthod ymweld â Chastell Penrhyn oherwydd yr hyn y mae’n ei gynrychioli.
Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell Penrhyn ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.