Skip to content

Yn cyrraedd yn fuan: Penrhyn a’i Ddiwydiant

Dau ymwelydd y tu mewn i injan stêm yn edrych ar yr injan yng Nghastell Penrhyn
Ymwelwyr yn archwilio’r injan stêm ‘Charles’ yng Nghastell Penrhyn | © National Trust Images/Rob Stothard

Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.

Gyda datblygiad Rheilffordd Chwarel y Penrhyn ym 1798, fe gafodd y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru ei ddyrchafu ar raddfa fyd-eang, gan weddnewid Gogledd Cymru am byth. 

Eleni, rydym yn gweithio i ddatblygu profiad newydd yn yr Hen Stablau i rannu storïau hanes diwydiannol Penrhyn, ac i roi lle blaenllaw i eitemau yn y casgliad na chawsant eu rhannu o’r blaen. 

Bydd nifer o locomotifau a wagenni sy’n gysylltiedig â Chwarel y Penrhyn yn parhau i gael eu harddangos, gan gynnwys Charles a redodd ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn tan y 1950au, ac a fydd yn ganolbwynt i’r stori ryfeddol hon a fydd yn parhau i ddarparu profiad difyr i ymwelwyr. 

Mi fuom yn adolygu’r modd yr ydyn ni’n arddangos ein casgliad wrth edrych ar sut y mae hanes yn cael ei gyflwyno yng Nghastell Penrhyn ac rydymm wedi ailgartrefu rhai o’r locomotifau nad oes ganddyn nhw gysylltiad â stori Penrhyn i amgueddfeydd eraill, lle gellir egluro a dehongli eu storïau’n well. 

Fel rhan o’n gwaith rhaglennu newydd, rydym ni wrth ein boddau yn cael rhannu y bydd gennym arddangosfa ffotograffiaeth ‘Chwarelwyr – Quarrymen’ yn dod i’r Hen Stablau, gan y ffotograffydd adnabyddus, Carwyn Rhys Jones, yn 2024. 

Mae gennym waith cyffrous yn digwydd yn y castell hefyd i ailfframio paentiad ‘The Penrhyn Slate Quarry’ gan Henry Hawkins. Fel rhan o’r gwaith ailfframio, mi fyddwn yn gweithio gyda grŵpiau lleol i gyflwyno eu lleisiau o fewn y castell drwy arddangosfa newydd. 

Edrychwn ymlaen at eich croesawu yn ôl eleni a rhannu mwy o hanes Castell Penrhyn gyda chi. 

Pethau i’w gweld ym Mhenrhyn a'i Ddiwydiant

Heddiw gallwch weld dewis helaeth o injans, cerbydau, stoc y lein ac offer. Gallwch wylio ffilm i gael darlun da o fywydau blaenorol rhai o’r injans a welwch chi. 

 

Manylion o injan stêm yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd, Cymru
Manylion o injan stêm yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd, Cymru | © National Trust Images/Paul Harris

Charles

Mae gan Charles, injan tanc cyfrwy, gysylltiadau clos â’r Penrhyn.  Roedd Charles yn un o’r injans ‘prif lein’ a ddefnyddiwyd yn Chwarel y Penrhyn. Fe’i hadeiladwyd gan yr Hunslet Engine Co yn 1882, a bu Charles yn gweithio hyd yr 1950au ac fe’i hadferwyd wedyn.  

Am fod y bwyler wedi dirywio, cadwyd Charles yn sied yr injans ym Mhorth Penrhyn o tua 1958 ymlaen.  Fe’i rhoddwyd ar fenthyciad parhaol i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1963 trwy garedigrwydd Chwarel y Penrhyn. 

Cerbyd agored chwarelwyr y Penrhyn 

Dyma un o’r cerbydau oedd yn rhedeg ar brif lein y chwarel ym Methesda.  Roedd yn eiddo i Drên y Chwarelwyr, sefydliad oedd yn cael ei drefnu a’i ariannu gan y dynion i’w symud i’r chwarel ac ohoni.   

Rhedodd y trên a’r cerbyd am y tro olaf ar 9 Chwefror 1953 a gosodwyd y cerbyd ar fenthyciad parhaol i’r Ymddiriedolaeth yn 1963 gan Chwarel y Penrhyn. 

Cerbyd salŵn Penrhyn 

Gellir gweld y cerbyd hwn yn awr gyda Charles ac fe’i hadeiladwyd tua 1882, ynghyd â’r brif lein newydd i Chwarel Penrhyn Cyf ac fe’i defnyddiwyd gan Arglwydd Penrhyn a’i asiant ar gyfer teithiau rhwng prif swyddfa’r cwmni ym Mhorth Penrhyn a’r Chwarel ym Methesda. 

Car swyddogol Chwarel Penrhyn 

Defnyddiwyd y car neu gert addurnedig hon i gludo swyddogion ac ymwelwyr o gwmpas tua 50 milltir o draciau oedd unwaith ar hyd Chwareli’r Penrhyn ym Methesda.  Credir ei fod yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, a gallai 6 o bobl eistedd ynddo.

Ymwelwyr yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn, Gogledd Cymru
Ymwelwyr yn yr Amgueddfa Reilffyrdd yng Nghastell Penrhyn, Gogledd Cymru | © National Trust Images/Rob Stothard

Injan Dân Merryweather 

Injan dân i’w llusgo gan geffyl, a adeiladwyd gan Merryweather o Lundain. Heb Wasanaeth Tân Cenedlaethol roedd yn rhaid i’r tai bonedd ddarparu eu hoffer a dynion ymladd tân eu hunain. Ar yr injan dân hon mae’r seddi’n wynebu’r ochr i’r criw a sedd ar wahân yn y tu blaen i’r gyrrwr.  

Gosodwyd injan stêm dau silindr fertigol tu ôl i’r bwyler i yrru’r pwmp oedd wedi ei raddio er mwyn i ddŵr gael ei gyfeirio at uchder Tŵr Castell Penrhyn.  

Hugh Napier

Injan tanc cyfrwy yw Hugh Napier a adeiladwyd gan yr Hunslet Engine Company Ltd yn Leeds yn 1904 a threuliodd ei hoes waith gyfan yn Chwarel y Penrhyn.  

Mae wedi ei hadfer yn llawn gofal gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chwmni Rheilffordd Ffestiniog, lle mae’n byw erbyn hyn, gan ddod i’n gweld ni yma yn y Castell ar achlysuron arbennig.  Rhoddwyd enw 4ydd Barwn Penrhyn i’r injan. 

Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud

Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd

Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Y gromen fawr uwch ben y Grisiau Crand yng Nghastell Penrhyn gyda ffenestr yn y to a’r gwaith plastr
Erthygl
Erthygl

Ymweld â Chastell Penrhyn 

Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.

A close up of a scone covered in cream and jam
Erthygl
Erthygl

Bwyta a siopa yng Nghastell Penrhyn 

Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.