Skip to content

Arddangosfa Ailfframio

A large collage of representing the slate quarry community is shown on the Barbican at Penrhyn Castle
Gwaith celf y gymuned yn hawlio sylw yn Castell Penrhyn | © Iolo Penri

Mae darlun yn dweud cyfrolau... neu ydy o? Mae arddangosfa wedi ei greu gan ein cymuned leol yn hawlio sylw yn y Neuadd Fawr Castell Penrhyn.

Wrth edrych ar baentiad Henry Hawkins o Chwarel Penrhyn, beth welwch chi? 

O’r dynion mewn dillad crand ar flaen y llun i’r gweithwyr sy’n hongian yn ansicr yn y cefndir, mae’r paentiad yn llawn manylder ac yn sbarduno sawl sgwrs a chreadigrwydd. 

Eleni, wrth adfer y ffrâm wreiddiol, rydym wedi bod yn Ailfframio’r peintiad mewn ffordd newydd a chreadigol, drwy ofyn i'r gymuned leol am eu mewnbwn. O Gorffennaf 6, cewch weld canlyniad y gwaith yma yn y Neuadd Fawr.

Creu'r arddangosfa

Estynnom wahoddiad i dri grwp cymunedol i greu arddangosfa newydd yng Nghastell Penrhyn:

  • Cyn-weithwyr o Chwarel Penrhyn
  • Aelodau o fenter cymdeithasol Partneriaeth Ogwen
  • Disgyblion blwyddyn 9 o Ysgol Dyffryn Ogwen

Gofynnom iddynt ymateb i baentiad Hawkins o'r chwarel a chymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid lleol i greu’r arddangosfa.

Yn mis Gorffennaf, ymunwch â ni wrthi i ni gamu i mewn i fyd y paentiad ac adlewyrchu ar un o ffynonellau'r cyfoeth fu’n cynnal y castell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

Cyfarfodwch yr Artistiaid

Yn cynnwys gwaith serameg, tecstiliau a gludwaith mor fawr a'r paentiad gwreiddiol, mae'r arddangosfa yn byrstio hefo gwaith celf newydd wedi ei greu gan y gymuned leol. Dewch i gyfarfod yr artistiaid fu'n cynnal gweithdai i greu darnau o waith yn seiliedig ar y sgyrsiau cafwyd am y paentiad.

Artist Rhiannon Gwyn is pictured in the Dining Room at Penrhyn Castle
Artist crochenwaith Rhiannon Gwyn | © Iolo Penri

Rhiannon Gwyn

Mae Rhiannon Gwyn yn artist sydd yn gweithio yn bennaf gyda serameg a llechi. Ar ôl datblygu techneg arloesol o doddi a siapio llechi Cymreig trwy eu tanio i dymheredd uchel yn yr odyn, mae Rhiannon yn arddangos y llechen sydd wedi toddi ochr yn ochr â’i phowlenni ceramig, i gyd wedi'u paentio â gwydredd wedi'i wneud o ddeunyddiau naturiol fel y blodyn eithin a llechi. Cafodd ei magu yn Sling, ger Bethesda lle sy'n parhau i ddylanwadu'n gryf ar ei hymarfer creadigol. Mae ei gwaith yn ymchwilio i'r cysylltiadau dwfn rhwng pobl a’r dirwedd, gan ddylanwadu ar y ffordd rydym yn gweld ein hunain a’r byd o’n cwmpas trwy argraffu ein hemosiynau a’n cof ar ein hamgylchfyd. Bu Rhiannon yn gweithio gyda’r cyn-chwarelwyr i greu crochenwaith sy’n adlewyrchu cyfoeth diwylliannol yr ardal. O sŵn y sgidia hoelion mawr sy’n dal i gerdded i'r gwaith, i'r rhaffau oedd yn dal y dynion ar wyneb y graig, caiff hanes a geirfa’r chwarel eu cyflwyno drwy’r crochenwaith. Ar ddarnau sy’n dywyll fel bol y graig mae enwau ponciau, offer a geiriau eraill sydd yn perthyn i'r chwarel a’i chymuned wedi eu stampio a’u lliwio gydag aur. Er bod y cyfoeth mawr a gafodd y teulu Pennant ar draul caethweision Jamaica a gweithwyr y chwarel yn atgas ac yn destun chwerwder i lawer iawn, a bod creithiau’r amodau gwaith yn dal i frifo, mae balchder, hiwmor a’r iaith Gymraeg yn dal i ddisgleirio yn Nyffryn Ogwen. Hwn yw ein cyfoeth ni.

1 of 6

Cefndir Hanesyddol

Mae gan Castell Penrhyn gysylltiadau annatod i’r Chwarel Lechi Penrhyn a’r gymuned yn nhref chwarelyddol Bethesda. Roedd gwaith llafur y chwarelwyr yma yn cynnal cyfoeth y castell, ac yn yr un modd trawsnewidiodd buddsoddiad teulu’r Pennant yng Nghastell Penrhyn graddfa, tirwedd a ffordd o fyw'r chwarel.

Mae paentiad Henry Hawkins o Chwarel Lechi Penrhyn yn un o rai mwyaf pwysig yn ein casgliadau yng Nghastell Penrhyn gan ei fod yn ein hatgoffa o’r cysylltiad yma. 

Mae’n dyddio o 1832, cyfnod o ffyniant ariannol mawr yn y chwarel yn ogystal â datblygiad bywiog yn niwylliant a chymuned yr ardal. Ond, er bod y cyfnod degawdau cyn Streic Fawr y Penrhyn neu unrhyw anghydfod sylweddol, roedd telerau gwaith dal i fod yn beryglus, gydag anafiadau a marwolaeth yn fygythiad cyson a system gyfalafol oedd yn golygu gwahaniaeth eithafol rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.

 

Bydd Arddangosfa Ailfframio yn lawnsio ar 6 Gorffennaf a gellir ei weld yn y Neuadd Fawr yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Castell Penrhyn, Gogledd Cymru, yn yr hydref
Erthygl
Erthygl

Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd 

Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.

Agoslun o gromen wydr yn cynnwys adar lliwgar, cynhenid i Affrica wedi stwffiedig yng nghasgliad Castell Penrhyn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Arddangosfa Beth yn y Byd! yng Nghastell Penrhyn 

Edrychwch yn ôl ar 'Beth yn y Byd!', arddangosfa oedd yn cymryd golwg creadigol ar rhai o eitemau o fewn ein casgliadau sy'n cysylltu'r castell hefo ei hanes trefedigaethol.

CHWAREL Y PENRHYN gan Henry Hawkins (1822-80) o’r Penrhyn.  (Derbyniwyd yn lle treth gan Drysorlys EM a’i dyrannu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1951)
Erthygl
Erthygl

Streic Fawr y Penrhyn 

Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.