Gwneud rhodd
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer o brosiectau yng Nghastell Penrhyn wedi helpu i leihau ei ôl troed carbon a gweithio tuag at ffordd fwy cost-effeithiol ac effeithlon o wresogi’r ystafelloedd anferth yn y palas hwn ar y bryn.
Ym Mehefin 2016 cymerodd Castell Penrhyn y camau cyntaf tuag at ffarwelio â phlastai yn cael eu twymo gan olew yng Nghymru, trwy arloesi ar Brosiect Ynni Biomas newydd. Roedd y gwaith yn rhan o brosiect mwy oedd eisoes wedi gweld gosod hanner erw o baneli solar, bron i fil o fylbiau golau LED, a 7000m² o ddeunydd inswleiddio yn y nenfwd yn y castell.
Dechreuodd y gwaith ar adeiladu cwt bwyler a lle i storio sglodion coed wrth baratoi at gyfnewid yr hen system olew am system wresogi biomas adnewyddadwy newydd i wresogi ystafelloedd anferth y castell erbyn Medi 2016. Castell Penrhyn oedd y plasty olaf gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i ddefnyddio olew yn ei system wresogi a gwelodd y prosiect ddiwedd ar systemau olew o’r fath yn ein heiddo yng Nghymru.
Mae Castell Penrhyn yn eiddo anferth, y mwyaf yng Nghymru a’r trydydd o ran cost ei gadw trwy’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyd. Roedd dod o hyd i ffordd fwy effeithlon, cadarn yn amgylcheddol a chost-effeithiol o’i wresogi yn hanfodol i ddiogelu dyfodol yr adeilad.
Mae’r prosiect wedi cael effaith amgylcheddol, gan arbed 80 tunnell o allyriadau CO² y flwyddyn ac mae wedi cyfrannu at darged yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o gael 50% o’i ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Mae hefyd wedi bod o fudd uniongyrchol i’r eiddo yn ariannol o ran costau gweithredol.
Mae’r bwyler yn defnyddio sglodion coed a brynwyd yn lleol a sglodion coed o goetir Castell Penrhyn, yn unol â’r polisi rheoli coetir, i wresogi’r Castell.
Yn ogystal ag arbed arian a lleihau allyriadau CO², mae’r prosiect hefyd wedi lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â storio olew trwy gael gwared ar bedwar o danciau olew mawr a fu yn yr eiddo.
Defnyddiodd prosiect yng Nghastell Penrhyn yn 2018 dechnoleg adfer gwres i dynnu gwres o’r dŵr gwastraff oedd yn llifo o geginau anferth yr eiddo a’i ailgylchu i gynhesu’r dŵr oer oedd yn dod i mewn i’r gegin. Roedd hyn yn golygu bod gan y bwyler lai o waith i’w wneud, gan arbed ynni a lleihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae’r system a osodwyd yng Nghastell Penrhyn yn rhan o ymwneud yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a’r prosiect Dŵr Uisce, sy’n gynllun cydweithio rhwng Prifysgol Bangor a Choleg y Drindod, Dulyn. Dywedodd Dr Prysor Williams, arweinydd prosiect Dŵr Uisce ym Mhrifysgol Bangor y gallai’r prosiect ‘wneud gostyngiad sylweddol yn yr ynni a ddefnyddir yng Nghastell Penrhyn, a thrwy hynny leihau costau a lleihau ôl troed carbon yr atyniad ymwelwyr prysur iawn hwn’.
Roedd y prosiect yn rhan o Raglen Cydweithredu Iwerddon-Cymru rhwng 2014-2020, oedd yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ddatblygu Gwledig Ewrop (ERDF).
Mae pawb angen natur, nawr yn fwy nag erioed. Rhowch heddiw ac fe allech helpu pobl a natur i ffynnu yn y lleoedd dan ein gofal.
Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (CDRhE) yn darparu cyllid i gyrff cyhoeddus a phreifat yn holl ranbarthau’r UE i leihau anghydraddoldeb economaidd, cymdeithasol a thiriogaethol. Mae’r Gronfa’n cefnogi buddsoddiadau drwy raglenni cenedlaethol neu ranbarthol pwrpasol.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Dewch i Gaffi’r Castell am ginio blasus ac amrywiaeth o gacennau. Mae’r siop yn cynnig anrhegion lleol neu porwch yn y siop lyfrau ail-law am fargen.