![Ymwelwyr yn edrych ar fynyddoedd Eryri o ardd Castell Penrhyn wrth iddi fachlud](http://nt.global.ssl.fastly.net/binaries/content/gallery/website/national/regions/wales/places/penrhyn-castle-and-garden/library/visitor-looking-at-snowdonia-penrhyn-castle-wales-1439533.jpg?auto=webp&width=767&crop=16:9&dpr=2 2x)
Darganfyddwch fwy yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Mae rhywbeth i bawb yng Nghastell Penrhyn. Os ydych chi’n darganfod ein hystafelloedd moethus arbennig neu yn dilyn ein hanturiaethau tymhorol, ein tiroedd yw eich lle chwarae, felly ewch i archwilio!
Dyma’r wybodaeth y bydd arnoch ei hangen yn gryno i’ch helpu i gynllunio eich diwrnod yng Nghastell Penrhyn:
Cewch wybod am ba ddigwyddiadau sydd ar y gweill ar gyfer teuluoedd:
20 Gorffennaf - 1 Medi
Ymunwch â ni yng Nghastell Penrhyn a'r Ardd dros yr haf wrth i ni ddathlu'r haf a mwynhau gweithgareddau i blesio'r teulu oll. Ewch am ras o gwmpas y dolydd neu byddwch yn seren y sioe ar ein llwyfan arbennig wrth i chi fwynhau diwrnod o haf yng Nghastell Penrhyn. Mwynhewch olygfeydd anhygoel o Eryri a'r Gogarth ac ewch am dro o gwmpas ein dolydd anhygoel cyn darganfod y lle gorau am bicnic. Castell Penrhyn yw'r lle perffaith i ymlacio ar ddiwrnod o haf.
Heibio’r byrddau picnic wrth fynedfa iard y stablau, gallwch ddarganfod ein parc chwarae yn Rook Wood. Ewch i fyny drwy’r goedwig i fwynhau’r parc lle gallwch ddringo, swingio neu fynd ar y si-so.
Mae ein parc chwarae naturiol yng Nghwt Ogwen yn mynd a chi i lawr tuag at yr Afon Ogwen. Cewch hyd i fwa pren yn y prif faes parcio lle gallwch ddilyn y llwybr i lawr. Darganfyddwch ein cwt sy’n le perffaith i chwarae tŷ bach twt, neu i eistedd yn ddistaw a mwynhau sŵn a golygfa byd natur. Ar gyfer yr anturiaethwyr bach, mae’r parch chwarae antur i fyny’r llwybr, rhowch dro arni a gweld pwy all orffen y llwybr cyflymach.
Dysgwch pryd mae Castell Penrhyn a'r Ardd ar agor, sut i gyrraedd yno, pethau i’w gweld a’u gwneud a mwy.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mwynhewch daith gylchol o gwmpas rhannau llai cyfarwydd o dir y castell wrth i chi ddarganfod amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a natur sy’n cartrefu yma.