Castell Penrhyn yn bwriadu rhannu rhagor o wybodaeth am ei hanes diwydiannol mewn profiad newydd wrth iddo ailgartrefu rhai o’i locomotifau
- Cyhoeddwyd:
- 22 Ionawr 2024
Castell Penrhyn yn bwriadu rhannu rhagor o wybodaeth am ei hanes diwydiannol mewn profiad newydd wrth iddo ailgartrefu rhai o’i locomotifau.
Wedi’i adeiladu ar ddechrau’r 19eg ganrif, mae pensaernïaeth drawiadol, ystafelloedd godidog a chasgliad celf gain Castell Penrhyn yn cyd-fynd â hanes hirfaith cyfoeth y diwydiant siwgr a llechi, ynghyd ag aflonyddwch cymdeithasol a’r anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain.
Roedd Chwarel Lechi’r Penrhyn a Phorth Penrhyn, a sefydlwyd gan y teulu Pennant, yn flaenllaw yn niwydiant llechi Cymru am bron i 150 o flynyddoedd. Rhwygwyd cymuned, a newidiwyd y rhan hon o Ogledd Cymru am byth.
Mae Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru wedi rhannu rhannau o’r hanes hwn trwy gyfres o arddangosfeydd ac arddangosiadau dros y ddegawd ddiwethaf yng Nghastell Penrhyn, ac erbyn hyn maent y gweithio ar gynlluniau i rannu rhagor o storïau am hanes diwydiannol Penrhyn, ynghyd â rhoi lle blaenllaw i eitemau yn y casgliad na chawsant eu rhannu o’r blaen, o dan y teitl ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’.
Dywedodd Ceri Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penrhyn a’r Ardd, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Gyda datblygu Rheilffordd Chwarel y Penrhyn ym 1798, fe gafodd y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru ei ddyrchafu ar raddfa fyd-eang, gan weddnewid Gogledd Cymru am byth, Fel rhan o’n profiad newydd yn yr Hen Stablau, bydd ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’ yn rhannu’r datblygiad newydd rhyfeddol hwn o safbwynt technoleg ac entrepreneuriaeth.”
“Yn ogystal â hyn, bydd y profiad newydd yn mynd law yn llaw ag amlygu rôl Castell Penrhyn yn yr hanes hwn sydd o arwyddocâd ar lefel fyd-eang, ochr yn ochr â’n partneriaid a’n cymunedau, fel rhan o Safle Treftadaeth y Byd, Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru.”
Bydd yr Hen Stablau, sef cartref blaenorol yr Amgueddfa Reilffordd, yn newid i ‘Penrhyn a’i Ddiwydiant’, a fydd yn rhannu stori treftadaeth ddiwydiannol Castell Penrhyn.
Bydd nifer o locomotifau a wagenni sy’n gysylltiedig â Chwarel y Penrhyn yn parhau i gael eu harddangos, gan gynnwys Charles, sef locomotif a redodd ar Reilffordd Chwarel y Penrhyn tan y 1950’au, ac a fydd yn ganolbwynt i’r stori ryfeddol hon, ynghyd â cherbyd salŵn Penrhyn a cherbyd agored chwarelwyr y Penrhyn, a fydd yn parhau i ddarparu profiad difyr i ymwelwyr.
Dywedodd Richard Pennington, Uwch Reolwr Casgliadau a’r Tŷ, Castell Penrhyn a’r Ardd, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Mi fuom yn adolygu’r modd yr ydyn ni’n arddangos ein casgliad wrth edrych ar sut y mae hanes yn cael ei gyflwyno yng Nghastell Penrhyn, a rhan o’r broses hon oedd edrych ar ein casgliad o locomotifau yn nhermau pa mor berthnasol ydyn nhw i stori Castell Penrhyn o safbwynt ei dreftadaeth ddiwydiannol.”
“Er mwyn rhoi lle blaenllaw i’r rhan ganolog hon o stori Penrhyn, rydyn ni wedi dychwelyd neu ailgartrefu rhai o’r locomotifau, nad oes ganddyn nhw gysylltiad â stori’r eiddo, mewn amgueddfeydd eraill, lle gellir egluro a dehongli eu storïau’n well.”
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael rhoi cyfleoedd newydd i’r locomotifau, y bydd rhai ohonyn nhw’n dod yn weithredol unwaith eto, a bydd rhai eraill yn darparu profiadau newydd a difyr i ymwelwyr, gyda staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr medrus a brwdfrydig yn gofalu amdanyn nhw.”
Fe aeth Ceri Williams ymlaen i ddweud:
“Mae hanes Castell Penrhyn wedi’i wreiddio’n ddwfn yn y gymuned leol, ac rydyn ni wedi ymroi i rannu’r hanes hwn.”
“Fel rhan o’n gwaith rhaglennu newydd, rydyn ni wrth ein boddau cael rhannu y bydd gennym arddangosfa ffotograffiaeth yn dod i’r Hen Stablau, gan y ffotograffydd adnabyddus, Carwyn Rhys Jones, yn 2024. Mae ‘Chwarelwyr – Quarrymen’ yn cynnwys pum llun mawr, y mae bob un yn arddangos Cymro a dreuliodd ei fywyd yn gweithio yn chwareli Cymru, gan gynnwys Chwarel y Penrhyn. A’r rheiny wedi’u harddangos gyntaf yn yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis, fe gynhaliwyd yr arddangosfa wedyn yn Abertawe, Sir Benfro, Efrog Newydd, Vermont a Pennsylvania, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael eu harddangos nesaf yng Nghastell Penrhyn.”
“Yn ogystal â datblygu Penrhyn a’i Ddiwydiant, mae gennym waith cyffrous yn digwydd yn y castell eleni i ailfframio paentiad ‘The Penrhyn Slate Quarry’ gan Henry Hawkins. Fel rhan o’r gwaith ailfframio, mi fyddwn yn gweithio gyda phedwar grŵp lleol i gyflwyno eu lleisiau o fewn y castell, a bydd gennym arddangosfa newydd hefyd, a fydd yn ymddangos fel pe baech chi wedi camu i mewn i’r ffrâm.”
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at y flwyddyn sydd gennym o’n Blaenau, a bydd llawer i’w weld a’i wneud eto yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd.”
Bydd yr Hen Stablau ar gau dros dro yn ystod cyfnod o waith cadwraeth y bydd angen ei wneud yn yr adeilad yn dilyn symud y locomotifau a’u traciau. Wrth wneud y gwaith, bydd Castell Penrhyn yn gweithio ar ddatblygu’r profiad newydd ac yn edrych ymlaen at gael croesawu pobl i ‘Penrhyn a’i Ddiwydiannau’ a’r arddangosfa newydd yn y castell yn nes ymlaen yn 2024.
Mae’r ardd ar agor ar benwythnosau hyd at 11 Chwefror, a bob dydd o 11 Chwefror. Bydd y castell yn ailagor ar 1 Mawrth.
Hanes Castell Penrhyn a'r Ardd
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Streic Fawr y Penrhyn
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Castell Penrhyn a'r Ardd
Castell ffantasi gyda sylfeini diwydiannol a threfedigaethol | Fantasy castle with industrial and colonial foundations