Dewch i wirfoddoli
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Castell Penrhyn a'r Ardd.
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o dîm Castell Penrhyn. Maent yn cefnogi’r gwaith cynnal a chadw ac yn croesawu ymwelwyr i’r castell bob dydd. Os ydych chi’n berson brwdfrydig ac ymroddedig pam ddim ymuno hefo’r tîm arbennig?
Mae gennym wirfoddolwyr yn ystafelloedd y castell sy’n sôn am yr hanes a’r casgliadau, gwirfoddolwyr sy’n cyfarfod pobl a’u helpu i ddod o hyd i’w ffordd o gwmpas y castell a’r ardd. Mae gennym hefyd yrwyr bygis gwirfoddol, yn ogystal â chyfleoedd yn yr ardd, y siop, y caffi, y Gegin Fictoraidd, a gyda’r tîm cadwraeth.
Mae ystafelloedd y castell, sy’n llawn gwrthrychau prydferth, gwaith crefft arbennig a hanesion difyr, yn rhoi’r cefndir i ble mae ein gwirfoddolwyr yn croesawu miloedd o ymwelwyr. Buom ni’n siarad gyda rhai o ein gwirfoddolwyr am eu hoff ystafell a gwrthrych yn y castell, eu hoff beth am wirfoddoli a be sy’n eu cadw nhw’n dod yn ôl.
Os ydych yn ystyried gwirfoddoli ond yn ansicr beth mae’n ei olygu neu beth fyddech chi’n ei gael o’r profiad, rydym wedi casglu gwybodaeth i chi i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.
Does dim rhaid i chi boeni os nad ydych yn gwybod llawer o hanes Castell Penrhyn. Fe fyddwn yn rhoi’r manylion i chi fel rhan o’ch cynefino. Wrth i chi barhau i wirfoddoli yn y Penrhyn, byddwch yn casglu rhagor o wybodaeth, gan ddysgu am gefndir y teuluoedd a fu’n byw yma ac o ble daeth y cyfoeth.
Bydd unrhyw amser y gallwch chi ei roi fel gwirfoddolwr yn werthfawr, ac mae llawer o’n gwirfoddolwyr yma yn y Penrhyn yn defnyddio rota ar-lein i archebu’r amser y maent yn gallu ei roi ymlaen llaw, gan ein galluogi i gynllunio. Hyd yn oed os mai am gyfnod byr yr ydych yn gallu gwirfoddoli, fe fyddwn yn ceisio darparu ar eich cyfer a gallwn drefnu i chi weithio’n hyblyg ar draws nifer o adrannau gwahanol.
Waeth beth yw eich gallu neu eich diddordeb, fe fyddwn yn gwneud ein gorau i ddod o hyd i rôl wirfoddol sy’n addas i chi ac yn eich gwneud yn rhan o’r tîm yma yng Nghastell Penrhyn.
Gallwn ad-dalu i chi am deithiau o’ch cartref i’r castell ac yn ôl bob tro y byddwch yn gwirfoddoli, gydag uchafswm o 40 milltir o radiws, os ydych yn teithio mewn car neu ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Os ydych wedi cael eich ysbrydoli ac awydd rhoi cynnig ar wirfoddoli, gallwch ddysgu rhagor trwy fynd i’r wefan swyddi gwirfoddol gwag a chwilio am Gastell Penrhyn a’r Ardd. Os byddai’n well gennych gael sgwrs ymlaen llaw i weld a fyddai gwirfoddoli yn addas i chi, ffoniwch ni yn y castell ar 01248 353084.
Chwiliwch am gyfleoedd gwirfoddoli, neu cofrestrwch eich diddordeb gyda Castell Penrhyn a'r Ardd.
Castell Penrhyn oedd cartref y teulu Pennant, ac fe’i adeiladwyd ar sail elw’r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a’r planhigfeydd siwgr yn Jamaica.
Dysgwch ragor am hanes Streic Fawr y Penrhyn, 1900-03, yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Dysgwch sut y gwnaeth rwygo cymuned.
Heddiw, gwelwn bensaernïaeth fawreddog, crandrwydd Fictoraidd ac addurnwaith moethus, ond mae’r hanes y tu ôl i Gastell Penrhyn yn dywyll iawn.
Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.
Mae gerddi Penrhyn yn eang ac yn wledd i’r synhwyrau. Cewch heddwch yn yr Ardd Furiog ffurfiol neu ewch trwy’r Ardd Gorsiog debyg i jyngl.
Mae tu allan y castell yn cuddio tu mewn a addurnwyd yn oludog a chartref yr oedd gan y teulu Pennant feddwl mawr ohono. Dysgwch am rai o’r ystafelloedd rhyfeddol.
Mae bloc y stablau wedi cau tra ein bod ni’n datblygu profiad newydd fydd yn cyrraedd yn hwyrach ymlaen yn 2024. Am ddiweddariadau a mwy o wybodaeth, ewch draw i’n gwefan.